Maent wedi’u dylunio i guddio socedi plwg trydanol agored fel mai dim ond ty sawl sydd â’r awdurdod a’r allwedd all eu defnyddio.
Teclyn rheoli’r teledu o bell
Teclynnau rheoli teledu o bell sydd â botymau mawr, sy’n hawdd i’w trin ac sy’n rhydd o nifer o’r botymau diangen a dryslyd sydd i’w gweld ar lawer o declynnau rheoli teledu o bell modern.
Cyfeirio o ran Gofod
Arwyddion Ystafelloedd
O’u gosod ar y llinell edrych naturiol, arwyddion mewn lliwiau cyferbyniol (a all hefyd nodi cyfeiriad), yw un o’r ffyrdd gorau i helpu i dywys person o gwmpas y tŷ a’u galluogi i barhau i fod yn annibynnol. Gellir hefyd gosod labeli ar gypyrddau neu ddroriau.
Cyfeirio o ran Amser
Cloc Calendr
Cloc sy’n arddangos diwrnod yr wythnos, y dyddiad a’r amser yn glir. Mae rhai modelau yn cynnwys nodwedd i osod nodau atgoffa personol.
Cloc Dydd / Nos
Cloc sy’n cynnwys nodwedd i atgoffa’r defnyddiwr ei bod yn ddydd neu’n nos.