Cymorth EBSA
Rhiant Cymorth EBSA
Os ydych chi'n meddwl bod gan eich plentyn EBSA, mae yna ffyrdd y gallwch chi ei gefnogi, ynghyd â'r ysgol ac asiantaethau eraill.
Cydweithio rhwng yr ysgol a'r cartref yw'r ffordd orau o sicrhau bod gorbryderon eich plentyn yn cael eu cefnogi. Er y gall yr ysgol gefnogi'r anghenion hyn yn yr ysgol, gall y cartref gefnogi'r plentyn gyda'i bryderon ynghylch mynd i'r ysgol neu pan fydd yn dychwelyd adref. Dyma rai awgrymiadau da ar gyfer cefnogi eich plentyn a allai fod yn dangos symptomau EBSA:
- Gwrandewch ar bryderon eich plentyn a chydnabod ei emosiynau. Mae’n bwysig peidio â chynhyrfu wrth drafod dychwelyd i’r ysgol gan y gall hwn fod yn gyfnod o rwystredigaeth i chi a’ch plentyn.
- Siaradwch ag ysgol eich plentyn cyn gynted â phosibl i rannu gwybodaeth a chreu dull cyson o gefnogi eich plentyn. Cysylltwch â nhw pan fo'n bosibl fel bod pawb yn deall.
- Crëwch drefn gyson gartref, e.e. boreau, amser bwyd ac amser gwely. Efallai y bydd angen i chi ychwanegu amser at eich trefn arferol i drafod gorbryderon eich plentyn.
- Mae camau bach yn allweddol. Efallai y bydd angen i chi ailadrodd cam eto os yw'ch plentyn yn colli'r ysgol neu'n canfod bod cam penodol yn y cynllun yn peri gorbryder.
- Treuliwch amser yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gan eich plentyn am yr ysgol. Efallai y bydd yn rhaid i chi ymchwilio i wefan yr ysgol neu siarad â staff yr ysgol i'w hateb.
- Cefnogwch eich plentyn i’w helpu i reoli ei deimladau pan fydd yn poeni am fynychu'r ysgol. Gallwch ddefnyddio rhai o'r strategaethau yn yr adnodd y gellir ei lawrlwytho. Gallwch chi ddefnyddio'r rhain hefyd!
- Defnyddiwch wrthrych trosiannol os yw'ch plentyn yn ei chael hi'n anodd cael ei wahanu oddi wrthych, e.e. llun ohonoch, nodyn, eitem fach sy'n ei atgoffa ohonoch chi ayb.
- Mae angen i rieni fod yn gwbl glir ynghylch presenoldeb yn yr ysgol. Rhaid i'r cwestiwn beidio ymwneud ag a fydd y plentyn yn mynd i'r ysgol ond pryd bydd yn mynd. Efallai y bydd angen agwedd gadarn iawn (ond gofalgar). Mae angen cyfarwyddiadau clir a chyson, gan gynnwys yr hyn a elwir yn gyfarwyddiadau ‘record wedi torri’. Mae hyn yn golygu ailadrodd yr un cyfarwyddyd sylfaenol dro ar ôl tro nes ei fod yn ddealladwy.
Er enghraifft, bydd y rhiant yn dweud yn glir ac yn ddigynnwrf, “Rydyn ni'n mynd yn y car nawr.” “Na, mae’n rhy hwyr i hynny – ewch yn y car os gwelwch yn dda.” “Ewch yn y car nawr os gwelwch yn dda.” “Na, dwi'n gofyn i chi fynd yn y car nawr.” “Dydyn ni ddim yn mynd yn ôl y tu mewn i'r tŷ.” Yn y pen draw, dylai’r math hwn o ymagwedd roi ymdeimlad o ddiogelwch i’ch plentyn y gellir dibynnu ar ei deulu ar adegau o argyfwng.
Dylid gwneud y plentyn yn ymwybodol o'r problemau cymdeithasol a rhyngbersonol a all ddeillio o beidio â delio â gwrthod mynd i’r ysgol. Er enghraifft, mae'r ysgol yn lle pwysig iawn i gwrdd â ffrindiau a ‘chadw mewn cysylltiad’ â'r hyn mae pobl ifanc eraill yn eu harddegau yn ei wneud, yn ogystal â datblygu sgiliau i ddelio â sefyllfaoedd anghyfforddus neu frawychus. Felly gall colli’r cysylltiad cymdeithasol pwysig hwn â’r ysgol ychwanegu at bryderon presennol a gwadu cyfleoedd allweddol iddynt ddysgu sut i ddelio â phroblemau cymdeithasol bob dydd.
- Dylid gwneud y plentyn yn ymwybodol o'r problemau cymdeithasol a rhyngbersonol a all ddeillio o beidio â delio â gwrthod mynd i’r ysgol. Er enghraifft, mae'r ysgol yn lle pwysig iawn i gwrdd â ffrindiau a ‘chadw mewn cysylltiad’ â'r hyn mae pobl ifanc eraill yn eu harddegau yn ei wneud, yn ogystal â datblygu sgiliau i ddelio â sefyllfaoedd anghyfforddus neu frawychus. Felly gall colli’r cysylltiad cymdeithasol pwysig hwn â’r ysgol ychwanegu at bryderon presennol a gwadu cyfleoedd allweddol iddynt ddysgu sut i ddelio â phroblemau cymdeithasol bob dydd.
- Gall rhieni/teulu ganolbwyntio ar lwyddiannau cadarnhaol ym mhrofiadau ysgol y plentyn drwy ganolbwyntio ar y pethau da fel ffrindiau ysgol, chwaraeon, hoff bynciau, amser cinio, mynediad at gyfrifiaduron, hoff athrawon ac ati.
Anogir y rhieni/teulu i wneud datganiad fel, “Rwy’n gwybod y gallwch chi ei wneud.” “Rydych chi wedi ei wneud o'r blaen, gallwch chi ei wneud eto” neu “Wel, rydyn ni wedi trafod hyn. Beth sydd angen i chi ei wneud nesaf?” Bydd y datganiadau hyn yn annog y plentyn i wynebu yn hytrach nag osgoi ffynhonnell ei bryder. Canmolwch bob ymdrech sy’n ei helpu i ddychwelyd i’r ysgol neu ymdopi â sefyllfaoedd sy’n peri gorbryder, e.e. cerdded drwy goridorau’r ysgol ar ei ben ei hun, cwblhau gwaith ysgol a neilltuwyd iddo gartref ac ati.
Pwy all eich cefnogi?
Mae'n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun. Efallai y byddwch am ystyried cysylltu â CADY yr ysgol i wirio a ydyw’n gwybod am unrhyw wasanaethau y mae’n eu hargymell neu y gallai eich atgyfeirio atynt, e.e. cymorth i deuluoedd. Efallai y bydd hefyd yn gallu cynnig cymorth therapiwtig i’ch plentyn yn yr ysgol - e.e. ELSA (cynorthwy-ydd cymorth llythrennedd emosiynol).