Cymorth a chyngor ariannol
Budd-daliadau a Lwfansau
Mae’r adran hon yn cynnwys crynodeb o rai o’r budd-daliadau a’r cymorth ariannol. Gallwch gael manylion am y rhain a budd-daliadau eraill gan eich Swyddfa Budd-daliadau leol neu’r Ganolfan Byd Gwaith. Ceir manylion yn y llyfr ffôn dan ‘Jobcentres’, neu GOV.UK (yn agor mewn tab newydd). Gallwch hefyd gael llyfrynnau am fudd-daliadau mewn llawer o swyddfeydd post.
Mae cael cyngor am eich amgylchiadau unigol yn hanfodol, a gellir cael cyngor gan Gynghorydd Budd-daliadau Cyngor Sir Penfro. Ffôn 01437 764551.
Os oes gennych salwch neu anabledd
Cyngor a chymorth i wneud cais am fudd-daliadau
A allech chi hawlio treth yn ôl ar eich cynilion?
Os oes gennych salwch neu anabledd
Lwfans Gweini (AA)
Os ydych dros 65 oed ac os oes arnoch angen help i ofalu amdanoch eich hun, gallech fod yn gymwys i gael Lwfans Gweini. Mae dwy gyfradd, y gyfradd uwch a’r gyfradd is, gan ddibynnu ar y gofal y mae arnoch ei angen. Nid yw Lwfans Gweini’n seiliedig ar brawf modd ac mae’n ddi-dreth.
Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
Ceisiadau Newydd
Allwch chi ond gwneud cais newydd am Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) os ydych yn hawlio am blentyn dan 16 – gelwir hyn yn DLA i blant.
Mae’n rhaid i bobl rhwng 16-64 wneud cais am Daliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) (yn agor mewn tab newydd) yn hytrach na Lwfans Byw i’r Anabl (DLA).
Hawliadau sydd eisoes wedi’u gwneud
Mae’r Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) yn raddol cymryd lle Lwfans Byw i’r Anabl i bobl 16-64 oed, hyd yn oed y rhai sy’n derbyn DLA am gyfnod amhenodol neu am oes. Os oeddech chi’n 65 a throsodd ar 8 Ebrill 2013, gallwch barhau i dderbyn DLA os ydych yn gymwys.
Mae’n debygol na fydd eich DLA yn newid hyd 2015 neu hwyrach, ond mae yna rai eithriadau – gweler GOV.UK (yn agor mewn tab newydd) am ragor o wybodaeth.
Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP)
Mae’r Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) yn helpu gyda rhai o’r costau ychwanegol a achosir gan gyflwr iechyd hirdymor neu anabledd os ydych chi rhwng 16 a 64.
Gallwch dderbyn PIP os ydych yn gweithio neu os nad ydych yn gweithio. Mae’r PIP yn cynnwys dwy ran:
yr elfen byw’n ddyddiol
helpu i gyfranogi mewn bywyd bob dydd;
yr elfen symudedd
helpu i symud o gwmpas.
Mae’n bosibl i chi dderbyn naill ai’r elfen byw’n ddyddiol neu’r elfen symudedd yn unig, neu’r ddwy elfen yr un pryd.
Telir pob rhan ar ddwy lefel wahanol: y ‘gyfradd safonol’ a’r ‘gyfradd uwch’. Mae’r gyfradd a delir i chi yn dibynnu os yw eich gallu i wneud gweithgareddau byw’n ddyddiol neu weithgareddau symudedd wedi’i ‘gyfyngu’ neu ‘wedi ei gyfyngu’n ddifrifol’. Caiff hyn ei brofi yn ystod yr asesiad PIP.
Gallwch wirio sut mae’r Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) yn effeithio arnoch chi drwy ddefnyddio’r teclyn gwirio yn PIP (yn agor mewn tab newydd)
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Os ydych yn sâl neu’n anabl a dan oed Pensiwn Gwladol, gall Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gynnig cymorth ariannol os na allwch weithio, a help personol fel y gallwch weithio os ydych yn gallu. Gallwch wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os ydych yn gyflogedig, yn hunangyflogedig neu’n ddi-waith, neu’n fyfyriwr ar Lwfans Byw i’r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Bersonol.
Efallai y cewch eich trosglwyddo i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os ydych wedi bod yn hawlio budd-daliadau eraill fel Cymhorthdal Incwm neu Fudd-dal Analluogrwydd. Mae’n rhaid i chi fynd i Asesiad Gallu i Weithio tra bod eich cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cael ei asesu. Mae hyn er mwyn gweld i ba raddau y mae eich salwch neu’ch anabledd yn effeithio ar eich gallu i weithio.
Yna, cewch eich rhoi mewn 1 o 2 grŵp os oes gennych hawl i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth:
- grŵp gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith, lle byddwch yn cael cyfweliadau rheolaidd gydag ymgynghorydd
- neu grŵp cymorth, lle nad ydych yn cael cyfweliadau.
Mae faint o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’r math o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth byddwch yn gymwys i’w gael. Ni fyddwch yn gymwys i dderbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cysylltiedig ag incwm os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol.
Gallwch wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth trwy lenwi ac argraffu’r ffurflen (ESA1) sydd ar gael yn GOV.UK (yn agor mewn tab newydd) a mynd â hi i’ch Canolfan Waith leol, neu dros y ffôn.
Os ydych yn gofalu am rywun
Telir Lwfans Gofalwr i bobl sy’n gofalu am rywun sy’n anabl. Nid oes angen i chi fod yn perthyn i’r sawl rydych yn gofalu amdano, nac yn byw gydag ef neu hi.
Gallech fod yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr os ydych yn bodloni’r meini prawf a ganlyn:
- Rydych yn 16 oed neu’n hŷn a;
- Rydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun sy’n cael budd-dal cymwys (Lwfans Gweini, cyfradd ganolig neu uwch Lwfans Byw i’r Anabl, elfen byw’n ddyddiol Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP), cyfradd uchaf neu uwch Lwfans Gweini Cyson gyda Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, neu’r gyfradd sylfaeol (diwrnod llawn) gyda Phensiwn Anabledd Rhyfel, Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP)) a;
- Nid ydych mewn addysg llawn amser (21 awr yr wythnos neu fwy) a;
- Nid ydych yn ennill mwy na £110 yr wythnos os oes gennych swydd rhan-amser.
Gall talu Lwfans Gofalwr leihau budd-daliadau eraill sy’n cael eu talu i chi neu’r sawl rydych yn gofalu amdano. Os ydych yn cael rhai budd-daliadau eraill efallai na thelir Lwfans Gofalwr i chi ond y byddwch yn cael yr hyn a elwir yn ‘hawl sylfaenol’ a phremiwm wedi’i ychwanegu at fudd-daliadau eraill. Gofynnwch am gyngor bob amser cyn hawlio.
Gallwch hefyd hawlio Lwfans Gofalwr (yn agor mewn tab newydd). Gellir defnyddio’r gwasanaeth hwn ar ffôn glyfar neu dabled, ac mae ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, a gall eich helpu i hawlio’n gyflymach. Bydd yn cymryd oddeutu 24 munud i gyflwyno cais ac mae llawer llai o gwestiynau na’r hyn sydd ar y ffurflen bapur. Bydd eich cais yn cyrraedd yr Uned Gofalwyr yn syth wedi i chi ei gyflwyno. Darperir rhifau llinellau cymorth os oes angen help arnoch.
Mae taflen Lwfans Gofalwyr – ‘Everything you need to know about Carer’s Allowance’ ar gael yn GOV.UK (yn agor mewn tab newydd)
Os ydych ar incwm isel
Mae Credyd Treth Gwaith (yn agor mewn tab newydd) yn daliad er mwyn ychwanegu at enillion pobl sy’n gweithio ar gyflog isel.
Er mwyn bod yn gymwys i Gredyd Treth Gwaith rhaid i chi fod:
- rhwng 16 a 24, gyda phlentyn neu anabledd priodol
- yn 25 neu drosodd, gyda neu heb blant, a rydych yn
Cyngor a chymorth i wneud cais am fudd-daliadau
Age Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Cymorth a chyngor am nifer o wahanol bethau, gan gynnwys budd-daliadau a threth i bobl hŷn.
Am fwy o wybodaeth: GOV.UK (yn agor mewn tab newydd)
Newidiadau i fudd-daliadau 2175
Bydd rhai budd-daliadau’n cael eu heffithio os byddwch yn mynd dramor, yn symud i gartref preswyl neu gartref nyrsio neu’n mynd i’r ysbyty. Er enghraiff, bydd Lwfans Gweini a Lwfans Anabledd yn cael eu heffeithio ar ôl 4 wythnos yn yr ysbyty naill ai mewn un arhosiad neu pan roddir hwy gyda’i gilydd. Mae’n bosibl y bydd budd-daliadau eraill yn cael eu heffeithio hefyd.
Os bydd eich amgylchiadau’n newid, neu os oes arnoch eisiau rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r effaith ar fudd-daliadau, cysylltwch â’ch Canolfan Byd Gwaith leol neu’r Swyddfa Budd-daliadau leol.
A allech chi hawlio treth yn ôl ar eich cynilion?
Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i fanciau a chymdeithasau adeiladu ddidynnu treth incwm ar gyfradd o 20% o’r llog cyn iddynt ei dalu i chi. Maent yn talu’r swm hwn i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Os nad ydych i fod i dalu unrhyw dreth gallwch gofrestru eich cyfrif banc a chymdeithas adeiladu i dderbyn llog heb dynnu treth. Gallwch wneud hyn drwy lenwi ffurflen R85 a’i rhoi i’ch banc neu gymdeithas adeiladu.
Os ydych i fod i dalu swm bach o dreth (byddwch yn y categori treth o 10%) efallai y gallwch hawlio rhywfaint o’r dreth a dynnwyd yn ôl. Cysylltwch â’ch swyddfa dreth leol.
Os oes arnoch angen rhagor o Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (yn agor mewn tab newydd)
Ffdd-dal ar Sail Incwm
Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor
Cymorth ar gyfer costau untro - y Gronfa Gymdeithasol
Cymhorthdal Incwm
Mae Cymhorthdal Incwm yn fudd-dal ar sail incwm i bobl rhwng 16 oed ac oed hawl i Gredyd Pensiwn ac sy’n un o’r canlynol:
- gofalwr, beichiog, unig riant gyda phlentyn dan 5 neu, mewn rhai achosion, yn methu gweithio am eich bod yn sâl neu anabl
- heb incwm neu incwm isel (bydd incwm eich partner a chynilion yn cael eu hystyried)
- yn gweithio llai nag 16 awr yr wythnos (a’ch partner yn gweithio llai na 24 awr yr wythnos)
Fe all incwm arall i’r aelwyd effeithio ar faint o Gymhorthdal Incwm sy’n ddyledus. Fel arfer bydd cynilion dros swm arbennig yn golygu na allwch gael Cymhorthdal Incwm (bydd y ffigur hwn yn newid bob blwyddyn fel arfer ac, felly, dylech gadarnhau’r swm cyfredol).
Nid oes angen cyfeiriad parhaol arnoch, e.e. gallwch ddal i hawlio os ydych yn cysgu dan y sêr neu’n byw mewn hostel neu gartref gofal. Gallwch hefyd gymhwyso hyd at 21 oed os ydych yn un o’r uchod, yn amddifad neu wedi ymddieithrio o’ch rhieni ac wedi cofrestru ar gwrs addysg.
GOV.UK (yn agor mewn tab newydd)
Credyd Pensiwn
Mae Credyd Pensiwn yn fudd-dal a delir i bobl sydd wedi cyrraedd yr oed cymwys ac sydd ar incwm isel.
Nid yw Credyd Pensiwn yr un fath â phensiwn ymddeol y wladwriaeth, sy’n seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol yn ystod eich bywyd gweithio. Mae’n bosibl talu Credyd Pensiwn ar ben pensiwn ymddeol a phensiynau eraill.
Mae Credyd Pensiwn yn gysylltiedig ag incwm ac mae dwy ran i’r credyd:
Credyd Gwarant – sy’n codi eich incwm os yw o dan swm penodol
Credyd Cynilion – taliad ychwanegol i bobl sydd wedi cynilo peth arian tuag at eu hymddeoliad, e.e. trwy bensiwn. Fodd bynnag, os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, mae’n bosibl na fyddwch yn gymwys i dderbyn hwn.
Mae oedran Credyd Pensiwn yn codi’n raddol i 65 yn unol ag oedran Pensiwn y Wladwriaeth (65 i fenywod a 66 i ddynion). I ddrganfod pryd fyddwch chi’n gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn neu Bensiwn y Wladwriaeth, defnyddiwch Gyfrifiannell Pensiwn y Wladwriaeth yn GOV.UK (yn agor mewn tab newydd) neu cysylltwch â’r llinell gymorth.
Gallech ddal i allu cael Credyd Pensiwn os yw eich incwm wythnosol yn fwy na’r isafswm, er enghraiff os oes gennych chi neu eich partner anabledd difrifol neu os ydych yn ofalwr. Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gymwys am Gymorth Llog Morgais os ydych yn talu llog ar daliadau morgais, sy’n cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch benthyciwr.
Gwasanaeth Bensiynau (yn agor mewn tab newydd)
Cynllun Incwm Isel y GIG
Os yw eich incwm yn isel a chithau’n ei chael yn anodd talu am gostau iechyd, efallai y gall Cynllun Incwm Isel y GIG eich helpu. Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys am help tuag at gostau:
- Triniaeth ddeintyddol y GIG
- Sbectol a lensys cyffwrdd, neu
- Costau teithio angenrheidiol i’r ysbyty ac oddi yno am driniaeth y GIG os ydy meddyg teulu, meddyg ysbyty neu ddeintydd wedi eich atgyfeirio yno.
I wneud cais, bydd angen i chi lenwi ffurflen HC1. Mae’r ffurflen hon ar gael yn eich Canolfan Byd Gwaith leol, Ysbyty GIG, neu trwy alw Llinell Archebu Cyhoeddiadau’r GIG ar 0345 603 1108. Efallai y bydd gan rai deintyddion a meddygon gopi hefyd.
Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor
Mae cymhwyster ar gyfer y budd-daliadau hyn yn dibynnu ar eich incwm a’ch amgylchiadau teuluol. Hyd yn oed os nad ydych yn gallu cael Budd-dal Treth Gyngor gallech gael gostyngiad yn eich bil (er enghraifft, os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu os yw eich cartref wedi cael ei addasu ar gyfer anghenion person anabl). Telir y budd-daliadau hyn gan Gyngor Sir Penfro. Ffôn: 01437 764551.
Cymorth ar gyfer costau untro - y Gronfa Gymdeithasol
Mae’r Gronfa Gymdeithasol yn darparu cyfandaliadau, grantiau a benthyciadau, sy’n ddewisol ac nad ydynt ar gyfer swm safonol. Mae’n cael ei gweinyddu gan y Ganolfan Byd Gwaith ac mae’n cynnwys benthyciadau cyllidebu, taliadau angladdau a thaliadau tywydd oer a thaliadau tanwydd gaeaf.
Benthyciad Cyllidebu
Gallwch wneud cais am Fenthyciad Cyllidebu i helpu i dalu am bethau hanfodol fel rhent, dodrefn, dillad neu ddyledion hurbwcasu. Mae’r swm allwch chi ei fenthyg yn dibynnu ar eich statws – os ydych yn sengl, yn rhan o bâr neu os oes gennych blant, ac os:
- allwch chi ad-dalu’r benthyciad
- oes gennych unrhyw gynilion dros £1,000 (neu £2,000 os ydych chi neu eich partner dros 62)
- oes arnoch chi eisoes arian i’r Gronfa Gymdeithasol
Ni chodir llog ar Fenthyciadau Cyllidebu felly nid oes ond rhaid i chi ad-dalu’r hyn ydych chi’n ei fenthyg. Fel rheol, mae’n rhaid i chi ad-dalu’r benthyciad o fewn 104 wythnos. Gallwch ymgeisio am fenthyciad os ydych wedi bod yn derbyn budd-daliadau seiliedig ar incwm ers o leiaf 26 wythnos. Mae’n rhaid eich bod yn dal i dderbyn budd-daliadau seiliedig ar incwm pan fydd eich cais yn cael ei asesu. Ni fydd Benthyciadau Cyllidebu yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.
Gallwch lawrlwytho ffurflen (SF500) i wneud cais am y grant hwn o GOV.UK (yn agor mewn tab newydd) neu gallwch gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaithar 0345 603 6967.
Taliadau Angladdau
Mae Taliad Angladd yn helpu pobl sydd ar incwm isel â chostau hanfodol angladd. Gallwch hawlio Taliad Angladd os ydych chi neu eich partner yn cael Credyd Cynhwysol, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (seiliedig ar incwm), Credyd Pensiwn, Credyd Treth Gwaith lle mae elfen o anabledd neu anabledd difrifol yn rhan o’r budd-dal, Credyd Treth Plant ar gyfradd uwch na’r elfen deulu, neu Fudd-dal Tai.
Nid yw cynilion yn effeithio ar Daliadau Angladd, ac ni fydd hawlio Taliad Angladd yn effeithio ar fudd-daliadau eraill.
Gallwch lawrlwytho ffurflen (SF200) i wneud cais am y grant hwn o GOV.UK (yn agor mewn tab newydd)
Taliad Tywydd Oer
Mae Taliadau Tywydd Oer yn helpu tuag at gostau gwresogi ychwanegol yn ystod tywydd oer iawn. Telir taliad o £25.00 yn awtomatig am bob cyfnod 7 niwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth.
Gallwch dderbyn y taliad hwn os ydych hefyd yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (seiliedig ar incwm), Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol. Os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (seiliedig ar incwm), Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm, mae’n rhaid i chi hefyd fod yn derbyn premiwm pensiynwr neu anabledd neu fod â phlentyn dan 5 sy’n anabl.
Nid yw cynilion yn effeithio ar Daliadau Tywydd Oer, ac nid ydynt yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill rydych chi’n eu cael. Fe gewch chi’r taliadau hyn yn awtomatig yn yr un ffordd â’ch budd-daliadau eraill.
Taliadau a chynlluniau eraill
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael credydau Yswiriant Gwladol os nad ydych yn talu Yswiriant Gwladol, e.e. pan fyddwch chi’n hawlio budd-daliadau oherwydd salwch neu ddiweithdra.
Yswiriant Cenedlaethol
Gall credydau helpu i lenwi’r bylchau yn eich cofnod Yswiriant Cenedlaethol, i sicrhau eich bod yn gymwys i dderbyn budd-daliadau penodol gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch gysylltu â HMRC ar 0300 200 3500 (ffontestun: 0300 200 3519) i ganfod os oes unrhyw fylchau yn eich cofnod Yswiriant Cenedlaethol ac i ganfod hefyd os ydych yn gymwys.
Green Deal
Mae Green Deal yn eich helpu i wneud gwelliannau i’ch cartref a fydd yn arbed ynni a chanfod y ffordd orau i dalu amdanynt. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu adennill arian o’r llywodraeth os ydych yn gwneud gwelliannau i’r cartref sy’n arbed ynni drwy Gronfa Gwelliannau i’r Cartref Green Deal. Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cyngor ar Arbed Ynni am ragor o wybodaeth am hyn neu unrhyw faterion arbed ynni eraill ar 0300 123 1234.
Rhyddhau ecwiti
Mae cynlluniau rhyddhau ecwiti’n cynnig cyfle i berchnogion cartref hŷn gael arian am rywfaint o werth eu cartref. Gall hwn fod yn gyfandaliad neu’n daliadau rheolaidd. Cyn i chi gymryd rhan mewn cynllun Rhyddhau ecwiti rhaid i chi ofyn am gyngor ariannol a chyfreithiol annibynnol er mwyn sicrhau mai dyma’r ffordd orau o wneud i’ch arian weithio i chi.
Cymorth ariannol i fyfyrwyr anabl
Mae Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) yn helpu gyda chostau a wynebwyd wrth ddilyn cyrsiau cydnabyddedig mewn prifysgol, a hynny’n uniongyrchol o ganlyniad i anableddau. Mae’r Lwfansau ar gael i fyfyrwyr amser llawn a rhan-amser sydd ag anableddau ond rhaid i fyfyrwyr rhan-amser fod yn astudio 50% o gwrs amser llawn. Mae’r Lwfansau ar gael i israddedigion a graddedigion. Gweler GOV.UK (yn agor mewn tab newydd)
Consesiynau
Cofiwch – gallech fod yn gymwys i gonsesiynau eraill, fel presgripsiwn am ddim ar y GIG, triniaeth ddeintyddol a phrofion llygaid am ddim, teithio am ddim neu am bris is ar y bws a’r trên neu drwydded deledu am ddim. Mae’r meini prawf ar gyfer derbyn consesiynau o’r fath fel arfer yn seiliedig ar oed, anabledd neu’r budd-daliadau rydych yn eu cael.
Cymorth a chyngor ariannol
Mae’r bennod hon yn sôn am rai o’r budd-daliadau y gallech fod yn gymwys iddynt a sut i wneud cais amdanynt, yn ogystal â lle i fynd er mwyn cael cyngor a chefnogaeth ariannol. Mae’n bwysig bod pawb yn hawlio’r budd-daliadau y mae ganddo hawl iddynt a bydd hyn yn amrywio o’r naill unigolyn i’r llall.
Sylwer y gallai unrhyw fudd-daliadau newydd y byddwch yn eu hawlio effeithio ar y budd-daliadau rydych chi neu’r sawl rydych yn gofalu amdano yn eu cael yn barod. Gofynnwch am gyngor bob amser cyn hawlio budd-dal newydd.
Help i reoli eich arian yn y dyfodol
Efallai y byddech yn hoffi paratoi ar gyfer adeg pan na fyddwch yn gallu rheoli eich holl waith papur a’ch biliau eich hun.
Independent Age (yn agor mewn tab newydd)
Mae Independent Age yn cynnig cyngor am ddim dros y ffôn i bobl hŷn, eu teuluoedd a’u gofalwyr ar faterion sy’n gallu effeitho arnynt fel budd-daliadau a gofal cymdeithasol. Mae hefyd yn cynnig cyfeillio wyneb yn wyneb a grwpiau trafod am ddim dros y ffôn; mae’r wefan yn cyfeirio defnyddwyr at wasanaethau a cheir yno hefyd ganllawiau a thaflenni gwybodaeth y gellir eu lawrlwytho.
Dyled
Os ydych chi’n poeni am ddyledion, efallai y bydd y sefydliadau canlynol yn gallu helpu:
Llinell Ddyled Genedlaethol (yn agor mewn tab newydd)
Llinel gymorth sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor ar ddelio gyda dyled. Maent hefyd yn darparu pecynnau gwybodaeth a chyfres o daflenni ffeithiau.
Helpwr Arian (yn agor mewn tab newydd)
Cyngor ariannol am ddim a diduedd a sefydlwyd gan y llywodraeth, gan gynnwys rheoli arian a chyngor ar ddyled.
British Gas Energy Trust (yn agor mewn tab newydd)
o bryd i’w gilydd yn cynnig cymorth ariannol i bobl sy’n byw mewn tlodi neu drallod ac sy’n cael trafferth i dalu eu biliau cyfleustodau.
Cam-drin ariannol
Mae pobl sydd ag analluogrwydd meddyliol yn aml yn agored iawn i niwed. Os nad ydynt yn cael eu diogelu’n iawn, gallent fod mewn perygl o gael eu cam-drin yn ariannol a gallent wynebu colli eu cartref neu eu cynilion. Os ydych yn amau bod rhywun yn cael ei gam-drin yn ariannol, cysylltwch â Gwasanaethau Oedolion Cyngor Sir Penfro, neu os ydych yn meddwl bod trosedd wedi ei chyflawni, cysylltwch â’r heddlu ar unwaith (gweler Diogelu - Cyngor Sir Benfro (sir-benfro.gov.uk).