Cymorth a Thai
Cymdeithas Tai Wales and West
Mae'r gwasanaeth hwn ar gael beth bynnag fo'r ddeiliadaeth; os ydych yn rhentu neu'n berchen ar eich cartref eich hun.
Mae'n Swyddogion Llety â Chymorth yn darparu gwasanaeth cymorth sy'n gysylltiedig â thai ac y mae angen mawr amdano, ac mae'r mathau o gymorth a ddarparir fel a ganlyn:
- rheoli'r gwaith o gynnal a chadw eich cartref
- manteisio ar fudd-daliadau
- cymryd rhan yn y gymuned
- yn ystod cyfnodau o brofedigaeth
- manteisio ar wasanaethau gofal
- sefydlu systemau larwm neu dechnoleg gynorthwyol
- cyngor ynghylch dewisiadau tai eraill
- manteisio ar addasiadau ac offer
Mae'r gwasanaeth cymorth hwn:
- ar gael i unrhyw berson hŷn sy'n byw mewn unrhyw fath o ddeiliadaeth (meddiannydd sy'n berchennog neu rywun sy'n byw mewn llety rhent). Yn ogystal, mae modd i ni drefnu ymweliadau i ysbytai/cartrefi preswyl yn ôl yr angen.
- yn cael ei ddarparu am y cyfnod y bydd ei angen; ni cheir terfyn amser tra bod anghenion cymorth wedi cael eu nodi
- ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg; pa un bynnag yw'r iaith sy'n cael ei ffafrio gan ddefnyddiwr y gwasanaeth
- yn gyfrinachol iawn
- am ddim
Derbynnir cyfeiriadau i'r gwasanaeth gan wasanaethau statudol, hunan-gyfeiriadau a chan asiantaethau o'r sector gwirfoddol. Bydd Swyddogion Cymorth yn ymweld â chi yn eich cartref er mwyn asesu eich anghenion ac er mwyn gweld pa gymorth y byddai modd ei ddarparu. Byddant yn darparu cymorth sy'n gysylltiedig â thai i chi nes y byddwch yn hapus bod eich anghenion wedi cael eu bodloni. Mae modd i'r cymorth fod yn eich cartref neu mewn lleoliad o'ch dewis megis caffi neu ganolfan alw heibio.