Cymorth a Thai

Cymorth â Thai

Gall yr tîm dai gynnig gwybodaeth a chyngor:

  • Os ydych yn ddigartref ac/neu eisiau gwneud cais am dŷ cymdeithasol
  • Os aseswyd bod arnoch angen gofal o ryw fath, bydd swyddogion tai’n cynnig cyngor i chi ynglŷn â’r gwahanol ddewisiadau tai sydd ar gael
  • Ynghylch Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl er mwyn helpu perchnogion/deiliaid neu denantiaid i addasu eu cartref i’w wneud yn haws iddynt fyw ynddo
  • Ynghylch inswleiddio, gwella neu gynnal a chadw eich cartref

Ar y dudalen hon:

Grant Cymorth Tai (GCT)

Tai cymdeithasol

Tai gwarchod

Gofal ychwanegol

Symud i gartref preswyl

Cymdeithas Tai Wales and West

Gweithredu ar gyfer y Digartref yn Sir Benfro (PATH)  


Grant Cymorth Tai (GCT)

Pwrpas y Grant Cymorth Tai yw atal digartrefedd a chefnogi pobl i feddu ar y gallu, annibyniaeth, sgiliau a hyder i gael a/neu gynnal cartref sefydlog ac addas. Drwy gomisiynu gwasanaethau arbenigol a chyffredinol, ein nod yw lleihau ac atal digartrefedd a sicrhau os na ellir osgoi digartrefedd y bydd ond am gyfnod byr ac na fydd yn digwydd eto.

Pa wasanaethau y mae'r Grant Cymorth Tai yn eu hariannu?

  • Llety â chymorth
  • Cefnogaeth i unigolion sy'n cysgu allan
  • Lloches i fenywod a phlant sy'n ffoi rhag cam-drin domestig
  • Cymorth yn llety brys / dros dro yr awdurdod lleol
  • Cymorth cyffredinol ac arbenigol fel bo'r angen i unigolion yn eu cartrefi eu hunain neu yn y gymuned

Pa gymorth y gellir ei gynnig?

  • Gall ein darparwyr weithio mewn partneriaeth â chi i helpu gyda'r canlynol:
  • Cael mynediad at lety diogel, addas a chynaliadwy a thrafod telerau tenantiaeth priodol;
  • Rheoli eich dyledion a'ch arian, megis ôl-ddyledion rhent, hawlio budd-daliadau, a chyllidebu ar incwm isel;
  • Datblygu neu gynnal y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnoch i fyw mor annibynnol â phosibl mewn cartref diogel ac addas;
  • Cael cymorth emosiynol sy'n hybu gwydnwch a llesiant;
  • Cynnig awgrymiadau a chael mynediad at wasanaethau eraill megis iechyd, gofal cymdeithasol ac asiantaethau eraill;
  • Helpu i sicrhau y medrwch aros yn eich cartref trwy fynd i'r afael ag unrhyw ynysigrwydd cymdeithasol a'ch helpu i chwarae rhan lawn yn y gymuned;
  • Eich cefnogi i gael mynediad at wasanaethau sy'n darparu cyfleoedd ar gyfer addysg, hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth;
  • Deall eich hawliau tai, gan gynnwys hawliau lles.

 

Sut i gael mynediad

Mae pob atgyfeiriad am gymorth yn cael ei brosesu drwy ein Porth Cymorth Tai. Mae'r Porth Cymorth Tai yn rhoi un pwynt cyswllt ar gyfer yr holl atgyfeiriadau sy'n cyrraedd ac yn fodd o asesu pob atgyfeiriad er mwyn nodi’r anghenion ac yna atgyfeirio at y darparwr mwyaf addas i gefnogi'r anghenion hynny.

Os byddech chi neu rywun rydych chi'n ei gefnogi yn elwa o gael atgyfeiriad, llenwch y ffurflen atgyfeirio isod ar-lein:

Ffurflen Atgyfeirio Cymorth Tai 

Fel arall, os na allwch lenwi'r ffurflen hon, cysylltwch â Gateway@pembrokeshire.gov.uk i ofyn am ffurflen atgyfeirio.

Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai 2022-26

Mae’r strategaeth hon yn nodi’r dull y bydd Cyngor Sir Penfro yn ei ddefnyddio i barhau i gefnogi ein trigolion mwyaf agored i niwed – y rhai sy’n wynebu risg o ddigartrefedd, neu sy’n profi digartrefedd, a’r rhai sydd angen cymorth i gynnal eu tenantiaethau a byw fel rhan o’u cymunedau.

Un o nodau sylfaenol y strategaeth hon yw helpu pobl i fyw'n annibynnol yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys nid yn unig sicrhau mynediad at dai priodol ond yn ogystal gymryd camau gweithredu strategol i sicrhau bod cyflenwad digonol o gartrefi ar gael ar draws Sir Benfro.

Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai 2022-26

Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r tîm:

Ffôn 01437 774551
E-bost: supporting.people@pembrokeshire.gov.uk


Ffurflenni a lawrlwythiadau

Ar gyfer data a gasglwyd rhwng 1 Ebrill 2023 a 30 Medi 2023

Canllawiau Canlyniadau Newydd (yn agor mewn tab newydd)

Hysbysiad Preifatrwydd – Grant Cymorth Tai  

Tai cymdeithasol

Darperir tai rhent fforddiadwy gan y Cyngor a chymdeithasau tai. I fod yn gymwys rhaid i chi wneud cais i ymuno â Chofrestr Dai’r Cyngor. Gellir cael ffurflenni gan y Cyngor a chymdeithasau tai. 


Tai gwarchod

Ar gyfer pobl hŷn y mae tai gwarchod, ac fel arfer maent ar ffurf grŵp o fyngalos bach neu fflatiau gyda warden a all gynnig rhywfaint o gymorth a chefnogaeth mewn argyfwng. 


Gofal ychwanegol

Mae gofal ychwanegol yn cynnig dewis arall yn lle gofal preswyl, gyda fflatiau o safon ac ystod o wasanaethau o safon fel bwyty sy’n cynnig cinio, sy’n sicrhau y gallwch ddal i fyw’n annibynnol am gymaint o amser ag sy’n bosibl.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â thai: 01437 764551 


Symud i gartref preswyl

Os cewch asesiad bod angen i chi symud i ofal preswyl, efallai bod gennych hawl i gymorth gyda’r costau.

Cartrefi Gofal yng Nghymru: Ateb Eich Cwestiynau

Mae'r canllaw yn cynnwys ystod eang o bynciau, fel dod o hyd i gartref gofal sy'n diwallu eich anghenion; yr wybodaeth a ddylai fod ar gael gan gartref gofal; cael cyfle i ddweud eich dweud mewn penderfyniadau; gweithgareddau a chymdeithasu; defnyddio gofal iechyd; a beth i'w wneud os nad ydych chi'n hapus â chartref gofal.

Mae modd gweld y canllaw yma: Pobl Hyn Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Os hoffech gael copi (neu gopïau) o’r canllaw, ffoniwch 03442 640 670 

Cymdeithas Tai Wales and West

Mae'r gwasanaeth hwn ar gael beth bynnag fo'r ddeiliadaeth;  os ydych yn rhentu neu'n berchen ar eich cartref eich hun. 

Mae'n Swyddogion Llety â Chymorth yn darparu gwasanaeth cymorth sy'n gysylltiedig â thai ac y mae angen mawr amdano, ac mae'r mathau o gymorth a ddarparir fel a ganlyn:

  • rheoli'r gwaith o gynnal a chadw eich cartref
  • manteisio ar fudd-daliadau
  • cymryd rhan yn y gymuned
  • yn ystod cyfnodau o brofedigaeth
  • manteisio ar wasanaethau gofal
  • sefydlu systemau larwm neu dechnoleg gynorthwyol
  • cyngor ynghylch dewisiadau tai eraill
  • manteisio ar addasiadau ac offer

Mae'r gwasanaeth cymorth hwn:

  • ar gael i unrhyw berson hŷn sy'n byw mewn unrhyw fath o ddeiliadaeth (meddiannydd sy'n berchennog neu rywun sy'n byw mewn llety rhent). Yn ogystal, mae modd i ni drefnu ymweliadau i ysbytai/cartrefi preswyl yn ôl yr angen.
  • yn cael ei ddarparu am y cyfnod y bydd ei angen;  ni cheir terfyn amser tra bod anghenion cymorth wedi cael eu nodi
  • ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg;  pa un bynnag yw'r iaith sy'n cael ei ffafrio gan ddefnyddiwr y gwasanaeth
  • yn gyfrinachol iawn
  • am ddim

Derbynnir cyfeiriadau i'r gwasanaeth gan wasanaethau statudol, hunan-gyfeiriadau a chan asiantaethau o'r sector gwirfoddol. Bydd Swyddogion Cymorth yn ymweld â chi yn eich cartref er mwyn asesu eich anghenion ac er mwyn gweld pa gymorth y byddai modd ei ddarparu. Byddant yn darparu cymorth sy'n gysylltiedig â thai i chi nes y byddwch yn hapus bod eich anghenion wedi cael eu bodloni. Mae modd i'r cymorth fod yn eich cartref neu mewn lleoliad o'ch dewis megis caffi neu ganolfan alw heibio.​

Tai Wales & West (yn agor mewn tab newydd)  

 
Gweithredu ar gyfer y Digartref yn Sir Benfro (PATH)

Mae PATH yn rhoi cyngor, cymorth ac eiriolaeth i bobl ddigartref neu’r sawl sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref, er mwyn eu galluogi i sicrhau llety diogel a fforddiadwy. Maent yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n gallu helpu pobl i sicrhau a/neu gynnal tenantiaeth, gan gynnwys pecynnau ail-setlo, cyngor ar ddyled, cymorth mewn argyfwng, pecynnau byw i rai sy’n cysgu allan neu i denantiaid newydd, cynlluniau bond, cynlluniau gwarant teithio a mwy. 

Cymdeithas Gofal Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd)

7 Picton Place, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 2LE

e-bost: pcs@pembrokeshirecaresociety.org.uk

ID: 2064, revised 14/08/2024

Tai gwarchod

Ar gyfer pobl hŷn y mae tai gwarchod, ac fel arfer maent ar ffurf grŵp o fyngalos bach neu fflatiau gyda warden a all gynnig rhywfaint o gymorth a chefnogaeth mewn argyfwng.

ID: 2079, adolygwyd 09/02/2024