Cymorth a Thai
Symud i gartref preswyl
Os cewch asesiad bod angen i chi symud i ofal preswyl, efallai bod gennych hawl i gymorth gyda’r costau.
Cartrefi Gofal yng Nghymru: Ateb Eich Cwestiynau
Mae'r canllaw yn cynnwys ystod eang o bynciau, fel dod o hyd i gartref gofal sy'n diwallu eich anghenion; yr wybodaeth a ddylai fod ar gael gan gartref gofal; cael cyfle i ddweud eich dweud mewn penderfyniadau; gweithgareddau a chymdeithasu; defnyddio gofal iechyd; a beth i'w wneud os nad ydych chi'n hapus â chartref gofal.
Mae modd gweld y canllaw yma: Pobl Hyn Cymru
Os hoffech gael copi (neu gopïau) o’r canllaw, ffoniwch 03442 640 670
ID: 2085, adolygwyd 25/01/2023