Cymorth Cartref a Mwy
Cymorth Cartref a Mwy
Gwasanaeth o fewn y cartref a delir amdano yw Cymorth Cartref a Mwy (HS+). Fe’i crëwyd i gynorthwyo pobl Sir Benfro.
Mae’r gwasanaethau a gynigir yn cynnwys;
- glanhau
- newid dillad gwely
- golchi dillad
- smwddio
Pris y gwasanaeth fydd £15.35 yr awr (lleiafswm o 2 awr) i’w dalu drwy drefn Fy Nghyfrif.
Mae’r gwasanaeth ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm
Cofrestrwch yma os oes gennych ddiddordeb
Unwaith y byddwch wedi cofrestru’ch diddordeb, bydd aelod o’r Tîm Cymorth Cartref a Mwy yn cysylltu â chi i drefnu cyfarfod gyda chi er mwyn teilwra ar gyfer eich anghenion penodol chi.
Ar ôl cytuno, bydd y gwasanaeth yn dechrau a bydd Cynorthwyydd Cymorth Cartref a Mwy’n gwneud y gwasanaethau a ddewiswyd yn ystod y cyfnodau a glustnodwyd.
Os ydych yn dymuno gwneud taliad, yna dilynwch y ddolen hon i Fy Nghyfrif neu fe allwch gysylltu â’r ganolfan alw ar 01437 764551, a gwnewch yn siŵr bod eich rhif cytundeb wrth law gennych.
Gellir cysylltu â’r Tîm Cymorth Cartref yn ogystal. Gweler y manylion isod:
Rhif Ffôn: 01437 775639
E-bost: homesupportplus@pembrokeshire.gov.uk
Oherwydd y sefyllfa bresennol gyda COVID-19, byddwn yn cwblhau cwestiynau sgrinio Coronafeirws cyn pob ymweliad er mwyn sicrhau eich bod yn iach pan fyddwn yn ymweld. Byddwn hefyd yn sicrhau bod pob aelod o staff a fydd yn ymweld â’ch cartref yn glynu at y canllawiau diweddaraf mewn perthynas â, ond heb ei gyfyngu i Gyfarpar Diogelu Personol (PPE), Ymbellhau Cymdeithasol ac Atal Heintiau.