Cymorth EBSA
Adnoddau EBSA
Mae’r dolenni canlynol yn darparu gwybodaeth, adnoddau a chymorth ychwanegol i ysgolion, pobl ifanc a theuluoedd sy’n ymwneud â phryder a lles.
Gwasanaethau Cyngor Sir Penfro
Isod mae gwasanaethau mewnol sy’n darparu cymorth cyffredinol i bobl ifanc a theuluoedd:
Rhwydwaith Cymorth i Deuluoedd Sir Benfro
Yn darparu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael ac yn cyfeirio teuluoedd at y cymorth cywir. Llinell gymorth: 01437 770023 – Dydd Llun – Dydd Gwener 9am – 5pm.
Mae rhagor o wybodaeth am Rwydwaith Cymorth i Deuluoedd Sir Benfro ar gael
Gwasanaethau Iechyd
Efallai y bydd adegau pan fyddai’n fuddiol ymgynghori â gweithwyr meddygol proffesiynol y bydd yr ysgol yn eu defnyddio i ofyn am gymorth a chyngor ychwanegol. Mae rhai enghreifftiau o wasanaethau iechyd y gall ysgol ymgynghori â nhw yn cynnwys:
- Nyrs ysgol
- Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
- Mewngymorth ysgol
- Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd
Gwasanaethau Cymorth Eraill
Mae’r gwasanaethau allanol canlynol yn darparu cyngor a chymorth ychwanegol ar gyfer llesiant:
Mind Sir Benfro
Mae Mind yn elusen iechyd meddwl genedlaethol sy’n cefnogi unigolion ag anghenion iechyd meddwl a’u teuluoedd.
Mae rhagor o wybodaeth am Mind (yn agor mewn tab newydd) ar gael
Gweithredu dros Blant
Yn rhannu gwybodaeth i rieni ar amrywiaeth o bynciau a allai fod yn effeithio ar eu plentyn.
Mae rhagor o wybodaeth am Gweithredu dros Blant (yn agor mewn tab newydd) ar gael
Gwasanaeth Profedigaeth Cruse
Yn cynnig cymorth i deuluoedd sydd wedi cael profedigaeth. Llinell gymorth: 0808 808 1677 – Dydd Llun a Dydd Gwener 9.30am – 5pm; Dydd Mawrth, Dydd Mercher a Dydd Iau 9.30am – 8pm.
Mae rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Profedigaeth Cruse (yn agor mewn tab newydd) ar gael
Young Minds
Elusen sy'n cynnig arweiniad ynghylch lles ac iechyd meddwl pobl ifanc. Maent yn rhannu gwybodaeth i rieni ac yn cynnig llinell gymorth i rieni. Mae galwadau am ddim o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30am a 4pm 0808 802 5544. Mae gwe-sgwrs ar gael hefyd.
Mae rhagor o wybodaeth am YoungMinds (yn agor mewn tab newydd) ar gael
Adnoddau Pellach
Dyma adnoddau neu offer ychwanegol ar gyfer cymorth EBSA:
Canllaw ‘School Anxiety and Refusal’ Young Minds
Mae Young Minds yn darparu canllaw i rieni ar gefnogi plant a phobl ifanc ag EBSA.
School Anxiety and Refusal | Parent Guide to Support | YoungMinds (yn agor mewn tab newydd)