Cymorth EBSA

Ysgol ac Addysg; Cymorth EBSA

Ffactorau sy'n Cyfrannu

Mae'r sylfaen ymchwil bresennol ar osgoi mynd i’r ysgol ar sail emosiynol yn awgrymu nad oes unrhyw achos clir neu adnabyddadwy ar gyfer EBSA, ond yn hytrach cydgysylltiad cymhleth rhwng ffactorau. Gellir rhannu mwyafrif y ffactorau hyn yn dri phrif gategori: ffactorau ysgol, teuluol ac unigol.

Ffactorau Ysgol

  • Bwlio / bwlio canfyddedig (y ffactor ysgol fwyaf cyffredin)
  • Anawsterau mewn pwnc/pynciau penodol
  • Pontio i ysgol uwchradd neu gyfnod allweddol, neu newid ysgol
  • Strwythur y diwrnod ysgol
  • Gofynion academaidd / lefelau uchel o bwysau ac ystafelloedd dosbarth sy'n canolbwyntio ar berfformiad
  • Cludiant neu daith i'r ysgol
  • Arholiadau
  • Anawsterau perthynas rhwng cyfoedion neu staff

Ffactorau Teuluol

  • Gwahanu, ysgariad, neu newid mewn dynameg deuluol
  • Problemau iechyd meddwl a chorfforol rhiant
  • Y plentyn ieuengaf yn y teulu
  • Colled a phrofedigaeth
  • Lefelau uchel o straen teuluol
  • Hanes teuluol o EBSA
  • Gofalwr ifanc

Ffactorau Unigol

  • Heriau gyda hunanymwybyddiaeth / hunaniaeth
  • Nodweddion anianol – amharodrwydd i ryngweithio a thynnu'n ôl o leoliadau, pobl neu wrthrychau anghyfarwydd
  • Ofn methiant a hunanhyder gwael
  • Salwch corfforol
  • Anawsterau dysgu, problemau datblygiadol, neu gyflwr sbectrwm awtistiaeth (os nad yw wedi’i nodi neu heb gefnogaeth)
  • Digwyddiadau trawmatig

Yn ogystal â hyn, gellir rhannu'r ffactorau’n rhai ‘gwthio’ a ‘thynnu’ mewn perthynas â'r amgylchedd, yr ysgol, neu'r plentyn ei hun – gweler isod. Fel bod Thambirajah ac eraill (2008) yn esbonio: “Mae gwrthod  mynd i’r ysgol yn digwydd pan fo straen yn fwy na chefnogaeth, pan fo risgiau yn fwy na gwydnwch, a phan fo ffactorau ‘tynnu’ sy’n hybu diffyg presenoldeb yn yr ysgol yn goresgyn y ffactorau ‘gwthio’ sy’n annog presenoldeb.”

Ffactorau Gwthio’r Ysgol – tuag at fynychu'r ysgol

  • Yn alluog yn academaidd
  • Rhwydweithiau cymdeithasol da
  • Perthynas dda gydag athrawon / cyfoedion

Ffactorau Gwthio’r Cartref – tuag at aros gartref

  • Yn lleihau pryderon ynghylch mynychu'r ysgol
  • Yn mynd i'r afael ag anghenion nas diwallwyd
  • Ddim yn gorfod cwblhau gwaith ysgol
  • Mwynhau gweithgareddau o ddewis

Ffactorau Tynnu'r Ysgol – i ffwrdd o'r ysgol

  • Cyfnod hir o absenoldeb o'r ysgol
  • Pontio anodd i'r ysgol uwchradd
  • Anawsterau academaidd
  • Anawsterau cymdeithasol

Ffactorau Tynnu’r Cartref – i ffwrdd o'r ysgol

  • Newid yn neinameg y teulu
  • Salwch rhiant
  • Hoffi diogelwch / hyblygrwydd o fod gartref
  • Yn ynysig, heb adael y tŷ

Dangosyddion EBSA

Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o ddangosyddion posibl EBSA, fel y gellir cefnogi plant a phobl ifanc cyn gynted â phosibl. Po hiraf y bydd y plentyn neu’r person ifanc allan o’r ysgol oherwydd gorbryder, y mwyaf anodd yw hi iddo ddychwelyd i’r ysgol lle cynhelir patrwm ymddygiad diffyg presenoldeb. Felly, mae’n allweddol i ysgolion fonitro presenoldeb eu disgyblion a nodi unrhyw batrymau o ran diffyg presenoldeb. Gall aelodau staff wella eu dealltwriaeth trwy barhau i fod yn chwilfrydig am ymddygiad disgyblion mewn perthynas ag EBSA a rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr.

Gweler y rhestr isod, sy'n amlygu rhai dangosyddion posibl o EBSA. Mae hyn yn aml yn cael ei weld fel patrwm o ymddygiadau sy’n gysylltiedig â’r ysgol ar draws ystod o sefyllfaoedd a all, o’u cyfuno, achosi gorbryder sylweddol:

  • Anhawster mynychu'r ysgol gyda chyfnodau o absenoldeb hir
  • Plentyn yn gyndyn i adael cartref ac yn aros i ffwrdd o'r ysgol gyda gwybodaeth y rhiant/gofalwr
  • Ar gyfer plant iau, amharodrwydd i adael rhieni neu fynd allan o'r car
  • Absenoldeb rheolaidd
  • Absenoldebau aml ar gyfer mân afiechydon
  • Patrymau mewn absenoldebau, er enghraifft, diwrnodau a/neu bynciau penodol, ar ôl penwythnosau a gwyliau
  • Amharodrwydd i fynychu tripiau ysgol
  • Mae’r person ifanc yn mynegi awydd i fynychu dosbarthiadau ond nid yw’n gallu gwneud hynny
  • Gorbryder ar wahanu a dibyniaeth ar aelodau'r teulu, e.e. pryder yn cael ei fynegi am ddiogelwch y rhai gartref
  • Tystiolaeth o dangyflawni mewn dysgu
  • Ynysigrwydd cymdeithasol ac osgoi cyd-ddisgyblion neu grŵp cyfoedion
  • Ymddygiad heriol, yn enwedig mewn perthynas â sefyllfaoedd penodol yn yr ysgol
  • Cynhyrfu emosiynol difrifol gydag ofn gormodol, pyliau o dymer, a chwynion am deimlo'n sâl ar ddiwrnodau ysgol
  • Iselder, hunan-barch isel a hyder isel
  • Dryswch neu’n anghofus iawn oherwydd diffyg canolbwyntio
  • Newidiadau corfforol, h.y. chwysu, salwch, breichiau a choesau poenus, cur pen, pyliau o banig, poen yn yr abdomen, colli neu fagu pwysau'n gyflym

 Diolchiadau i awdurdod lleol Conwy a Chanllaw EBSA Gorllewin Sussex.

 

ID: 11564, adolygwyd 18/07/2024