Cymorth gan yr adran Gwasanaethau Oedolion

Cymorth gan yr adran Gwasanaethau Oedolion - Asesiadau

Gallwch ofyn am asesiad o’r cymorth sydd ei angen arnoch chi, aelod o’r teulu neu ffrind neu’r sawl rydych yn gofalu amdano. Dylai’r asesiad hwn ystyried yr holl amgylchiadau, gan gynnwys eich cyfraniad i ofal yr unigolyn a’r cymorth sydd arnoch chi ei angen er mwyn dal i ofalu.

Efallai hefyd y bydd yn werth i chi ofyn am gyngor ynglŷn â sut i helpu’r sawl rydych yn gofalu amdano i fod yn llai dibynnol arnoch. Mewn llawer o achosion, ag ychydig o gefnogaeth ac arweiniad, gall rhywun sydd wedi cael anffawd ailddysgu sgiliau. Mae staff yr adran Gwasanaethau Oedolion yn arbenigwyr mewn canfod pa gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn helpu pobl i gael eu hannibyniaeth yn ôl.  

Mae'n bosibl y bydd cymorth ar gael hefyd cyn asesu anghenion. 

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth a Chymorth Gofalwyr Sir Benfro yn cynnig help a chefnogaeth i ofalwyr o 18 oed ymlaen. Cewch gysylltu â nhw trwy:

Ffôn: 01437 611002 neu e-bost pciss@adferiad.org

Carers UK - Assessments Wales (yn agor mewn tab newydd)

ID: 2194, adolygwyd 13/05/2024