Cymorth gan yr adran Gwasanaethau Oedolion
Cymorth gan yr adran Gwasanaethau Oedolion - Asesiadau
Gallwch ofyn am asesiad o’r cymorth sydd ei angen arnoch chi, aelod o’r teulu neu ffrind neu’r sawl rydych yn gofalu amdano. Dylai’r asesiad hwn ystyried yr holl amgylchiadau, gan gynnwys eich cyfraniad i ofal yr unigolyn a’r cymorth sydd arnoch chi ei angen er mwyn dal i ofalu.
Efallai hefyd y bydd yn werth i chi ofyn am gyngor ynglŷn â sut i helpu’r sawl rydych yn gofalu amdano i fod yn llai dibynnol arnoch. Mewn llawer o achosion, ag ychydig o gefnogaeth ac arweiniad, gall rhywun sydd wedi cael anffawd ailddysgu sgiliau. Mae staff yr adran Gwasanaethau Oedolion yn arbenigwyr mewn canfod pa gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn helpu pobl i gael eu hannibyniaeth yn ôl.
Mae'n bosibl y bydd cymorth ar gael hefyd cyn asesu anghenion.
Mae Cymorth Gofalwyr Sir Benfro yn cynnig help a chefnogaeth i ofalwyr o 18 oed ymlaen. Cewch gysylltu â nhw trwy:
Ffôn: 0300 0200 002 neu e-bost carerssupportpembs@ctcww.org.uk
Asesiad gofalwr
Mae gan bob gofalwr hawl i gael asesiad o’i anghenion os yw’n dymuno hynny. Gelwir hyn yn ‘asesiad gofalwr’. Os oeddech yn cael help gan y Gwasanaethau Oedolion cyn i chi ddod yn ofalwr, cofiwch sôn am wrth eich rheolwr gofal eich bod yn edrych ar ôl rhywun arall nawr.
Os ydych eisoes wedi gofyn i’r Gwasanaethau Oedolion am help ar gyfer y sawl rydych yn gofalu amdano, gallwch naill ai siarad â’r un rheolwr gofal neu gallwch ofyn am gael siarad â rhywun gwahanol. Bydd popeth y byddwch yn ei ddweud yn cael ei gadw’n gyfrinachol ac ni fydd yn cael ei ailadrodd wrth y sawl rydych yn gofalu amdano, felly gallwch egluro’n union sut rydych yn teimlo a beth yw’r problemau.
Taliadau Uniongyrchol
Os bydd y Gwasanaethau Oedolion yn asesu bod y sawl rydych yn gofalu amdano yn gymwys i gael cymorth ariannol i helpu i dalu am ei anghenion gofal, efallai y bydd yn dymuno defnyddio’r cynllun taliadau uniongyrchol. Byddai hyn yn eich galluogi i drefnu a phrynu’r cymorth y mae arnoch ei angen ar ei gyfer yn uniongyrchol yn hytrach na bod y cymorth yn cael ei drefnu drwy’r adran Gwasanaethau Oedolion.
Os ydych yn ofalwr sydd wedi cael asesiad gofalwr ac sy’n gymwys i gael cefnogaeth gan eich adran Gwasanaethau Oedolion, gallwch ofyn am daliadau uniongyrchol ar gyfer eich anghenion eich hun. Bydd hyn yn annibynnol ar wasanaethau sy’n cael eu darparu i’r sawl rydych yn gofalu amdano. Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys i gael cymorth cysylltwch â’r adran Gwasanaethau Oedolion ar 01437 764551.
Gwasanaethau gan y Gwasanaeth Iechyd
Gall eich meddyg roi gwybodaeth gyffedinol i chi am y salwch neu’r anabledd sy’n effeithio ar y sawl rydych yn gofalu amdano, a sut y gallai ddatblygu. Ni all y meddyg roi gwybodaeth benodol am y sawl rydych yn gofalu amdano os nad yw’r unigolyn hwnnw’n cytuno y dylech gael y wybodaeth. Mae’n bwysig eich bod yn trafod hyn cyn mynd i weld y meddyg. Gall ef neu hi hefyd eich cyfeirio at sefydliadau arbenigol a all roi gwybodaeth a chefnogaeth i chi.
Yn aml iawn mae gofalu am rywun arall yn gallu achosi llawer o straen a gall hyn arwain at duedd i chi gael anafidau a salwch. Gall y meddyg roi cymorth a chyngor i chi os yw eich iechyd chi’n dioddef oherwydd eich bod yn gofalu am rywun arall. Gallwch gael cyngor ynglŷn â sut i godi rhywun a hyfforddiant perthnasol yn eich meddygfa. Yn annibynnol, gallwch logi gwasanaeth gofal nos er mwyn i chi gael ychydig o gwsg heb neb yn eich deffro.
Os ydych yn dweud wrth eich meddyg eich bod y gofalwr di-dâl, gall eich cofrestru fel gofalwr di-dâl yn ei gofnodion. Gallai hyn helpu i gydlynu gwasanaethau ar eich cyfer chi a’r sawl rydych yn gofalu amdano a gall eich helpu i gael mynediad at wasanaethau cymorth lleol. I gofrestru fel gofalwr di-dâl gyda’ch meddyg teulu, gofynnwch i staff y feddygfa.
Gwybodaeth i ofalwyr - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru) (yn agor mewn tab newydd)
Carers UK - coming out of hospital (yn agor mewn tab newydd)
Cymryd seibiant
Gall gofalu am rywun fod yn flinedig; gall cymryd seibiant fod yn hanfodol i les ac ansawdd bywyd pawb.
Gallai'r unigolyn yr ydych yn gofalu amdano, neu’r rheini rydych yn gofalu amdanynt, hefyd elwa o fwynhau profiadau newydd, newid golygfa a threfn arferol, a chwrdd â phobl eraill.
Mae anghenion pawb yn wahanol a gall fod yn ddefnyddiol cymryd amser i ystyried beth fyddai'n gweithio orau, ee rhyw awr yr wythnos, diwrnod yma ac acw neu hyd yn oed wyliau.