Cymorth gyda chostau olew gwresogi a nwy petrolewm hylifol (LPG) (2026)

Cymorth gyda chostau olew gwresogi a nwy petrolewm hylifol (LPG) (2026)

Cymorth gyda chostau olew gwresogi a nwy petrolewm hylifol (LPG) (2026)

Os ydych chi’n gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor oherwydd eich bod chi ar incwm isel, ac rydych chi’n dibynnu ar olew gwresogi neu LPG i gynhesu’ch cartref, rydych chi’n gymwys i gael taliad untro o £200.  

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Os ydych chi eisoes yn cael Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ac nad yw eich cartref wedi’i gysylltu â’r grid nwy, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol ac yn eich gwahodd i wneud cais. Gofynnir i chi gadarnhau eich math o danwydd gwresogi drwy roi anfoneb i ni o’r 12 mis diwethaf a darparu manylion banc.

Os nad ydych chi’n cael Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar hyn o bryd, mae’r manylion cymhwysedd a’r manylion ymgeisio i’w gweld yma: Gostyngiad y dreth gyngor

Pa mor hir sydd gennyf i wneud cais?

Rhaid i chi fod yn cael Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, neu fod wedi gwneud cais llwyddiannus am Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Gorffennaf 2026. Yna dylech wneud cais am y cymorth olew gwresogi ac LPG cyn gynted â phosibl. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Medi 2026.

Rwy’n barod i wneud cais

Cyn gwneud cais, gwnewch yn siŵr bod gennych gopi o’ch anfoneb neu dderbynneb olew gwresogi/LPG o’r 12 mis diwethaf a chopi o gyfriflen banc sy’n dangos manylion eich banc yn glir (heb fod yn fwy na chwe mis oed).

Pan fyddwch chi’n barod i wneud cais: Gwnewch gais nawr

Sut alla i gael cymorth pellach?

Os oes gennych ymholiad penodol gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio: fuelsupportscheme@pembrokeshire.gov.uk neu ffonio Gwasanaethau Refeniw ar 01437 764551 - tîm budd-daliadau tai.

A oes cefnogaeth arall ar gael?

Rydym wedi dod â chymorth a chyngor ynghyd i helpu ein cymuned gyda phwysau costau byw, i gyd mewn un lle: Help gyda chostau byw

 

ID: 15407, revised 25/06/2026