Cymorth i Wneud Penderfyniadau

Eiriolaeth

Beth yw Eiriolaeth?

Mae eiriol yn golygu siarad o blaid rhywun. Mae Eiriolaeth yn ymwneud â sicrhau fod llais pobl yn cael ei glywed ac yn cael gwrandawiad. 
Mae'n ymwneud â helpu pobl i wneud dewisiadau drostynt eu hunain mewn bywyd. 
Mae'n rhoi cyfle i bobl fod mor annibynnol ag y dymunant fod.

Gallwch dderbyn cefnogaeth gan eiriolwr pan fyddwch yn :

  • Gwneud cwyn
  • Herio penderfyniad a wnaed am wasanaeth yr ydych chi'n ei dderbyn
  • Gwneud penderfyniad ynghylch gwasanaeth y gall fod ei angen arnoch.

Mae mathau gwahanol o eiriolaeth:

Cyffredinol

Mae eiriolaeth gyffredinol neu generig yn cefnogi pobl sy'n teimlo nad ydyn nhw'n gallu mynegi'u barn neu rai sy'n teimlo nad oes neb yn gwrando arnyn nhw.

Mae Eiriolaeth Proffesiynol Annibynnol 3 Sir yn darparu sawl math o eiriol cyffredinol. 

Mae Pembrokeshire People First yn darparu gwasanaeth eiriol sy'n cynrychioli buddiannau unigol pobl ag anableddau dysgu sy'n byw yn Sir Benfro. 

Am ragor o ddarparwyr gwasanaeth eiriol, cysylltwch â PAVS (Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro) (yn agor mewn tab newydd) ar 01437 769422.

EGMA (IMCA)

Os oes gennych chi neu'r person yr ydych chi'n gofalu amdano anabledd neu salwch sy'n ei gwneud hi'n anodd gwneud penderfyniadau am driniaeth feddygol, anghenion gofal, cyllid ac agweddau eraill ar fywyd bob dydd, gall Eiriolwr Gallu Meddyliol Annibynnol (EGMA) eich helpu.

Mae EGMA od yn gweithio gyda phobl nad ydyn nhw'n meddu ar y gallu i wneud rhai penderfyniadau pwysig, ac nad oes ganddyn nhw neb arall y gellir ymgynghori â nhw er mwyn ceisio adnabod eu dymuniad. Cydlynir y gwasanaeth EGMA ar draws Gorllewin Cymru yn sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin gan Mental Health Matters.

Rhaid i EGMA gael ei gyfarwyddo ac yna ei ymgynghori ag ef yn achos pobl nad oes ganddynt y gallu ble nad oes neb arall ar gael i'w cefnogi (heblaw am staff cyflogedig), mewn unrhyw achos:

  • pan fydd corff o'r GIG yn cynnig darparu triniaeth feddygol ddifrifol, neu
  • pan fydd corff o'r GIG neu Awdurdod Lleol yn cynnig trefnu llety (neu newid llety) mewn ysbyty neu gartref gofal, ac y bydd y person yn aros yn yr ysbyty'n hirach na 28 niwrnod, neu y byddan nhw'n aros yn y cartref gofal am fwy nag 8 wythnos.

Gellir cyfarwyddo EGMA i gefnogi rhywun nad yw'n meddu ar y gallu i wneud penderfyniadau ynghylch:

  • adolygiadau gofal yn ymwneud â llety ble nad oes neb ar gael i ymgynghori â nhw yn achos pobl 16 mlwydd oed neu hŷn
  • achosion Diogelwch Oedolion, waeth a yw teulu, ffrindiau, neu eraill yn ymwneud â'r achos ai peidio, a ble maen nhw'n 18 mlwydd oed neu hŷn

Gellir cyfeirio rhywun gan berson ag awdurdod a dylid eu cyflwyno'n ysgrifenedig drwy lenwi ffurflen gyfeirio a'i hanfon drwy gyfrwng ffacs, e-bost neu'r post/

Pan wneir cyfeiriad ar lafar, dylid llenwi'r ffurflen gyfeirio o fewn 24 awr.

I wybod rhagor am y gwasanaeth EGMA, cysylltwch: EGMA Cymru (yn agor mewn tab newydd)

EIMA

Mae Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (EIMA) wedi cael ei hyfforddi'n arbennig i weithio o fewn i fframwaith y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 er mwyn cefnogi pobl i ddeall eu hawliau dan y ddeddf a chymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n ymwneud â'u gofal a'u triniaeth. Mae dyletswydd gyfreithiol yn bodoli i ddarparu EIMA i bob un sy'n gymwys i'w dderbyn.

Gallwch dderbyn cefnogaeth EIMA os ydych chi:

  • Yn glaf mewnol mewn ysbyty ac yn cael eich asesu neu'n derbyn triniaeth ar gyfer problem iechyd meddwl tra eich bod chi'n aros yno
  • Wedi eich cadw yn yr ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl
  • Wedi eich cadw dan amodau Adran fer
  • Yn glaf anffurfiol
  • Yn cael eich ystyried ar gyfer llawdriniaeth niwrolegol ar gyfer anhwylder meddwl neu therapi electrogynhyrfol o dan ddeunaw oed
  • Yn destun Gorchymyn Triniaeth Gymunedol
  • Wedi eich rhyddhau'n amodol neu'n destun gwarchodaeth

I ddysgu mwy am wasanaethau EIMA, cysylltwch: Eiriolaeth Gorllewin Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Gwefannau defnyddiol

Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus (yn agor mewn tab newydd)

Hourglass (yn agor mewn tab newydd)

Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall

ID: 2184, adolygwyd 29/08/2023