Cymorth i Wneud Penderfyniadau
Dirprwyaeth – Canllaw i aelodau’r teulu
Beth yw dirprwyaeth?
Mae dirprwyaeth yn broses gyfreithiol sy’n caniatáu i rywun wneud penderfyniadau ar ran oedolyn nad yw bellach yn gallu gwneud rhai penderfyniadau drosto’i hun oherwydd diffyg galluedd meddyliol.
Efallai y bydd angen i chi wneud cais am ddirprwyaeth os yw’r unigolyn:
- yn 18 oed neu’n hŷn
- heb y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau penodol
- heb atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus dilys
Y Llys Gwarchod sy’n penderfynu a ddylid penodi dirprwy.
Mathau o ddirprwyaeth
Dirprwyaeth eiddo a materion ariannol
Mae hyn yn caniatáu i ddirprwy reoli:
- Cyfrifon banc
- Budd-daliadau a phensiynau
- Biliau a dyledion
- Eiddo a chyllid
Dyma’r math mwyaf cyffredin o ddirprwyaeth.
Dirprwyaeth lles personol
Mae hyn yn caniatáu i ddirprwy wneud penderfyniadau ynghylch y canlynol:
- Gofal iechyd
- Trefniadau gofal
- Materion lles
Dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig y mae’r Llys yn caniatáu’r math hwn o ddirprwyaeth.
Cyn i chi wneud cais
Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi’ch hun:
- A oes gan yr unigolyn atwrneiaeth arhosol (LPA) eisoes?
- A oes atwrneiaeth barhaus (EPA) ar waith?
- A yw trefniant penodai gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ddigonol?
- A all yr unigolyn wneud rhai penderfyniadau ei hun o hyd?
- A yw dirprwyaeth wir yn angenrheidiol?
- A ellid datrys y broblem drwy opsiwn llai cyfyngol?
Dim ond pan nad oes dewis arall addas y dylid defnyddio dirprwyaeth.
Sut i wneud cais am ddirprwyaeth
Cam 1: Cael asesiad galluedd
Amserlen nodweddiadol: 2 i 8 wythnos
Rhaid i weithiwr proffesiynol gadarnhau nad yw’r galluedd gan yr unigolyn i wneud y penderfyniadau perthnasol.
Caiff yr asesiad ei gwblhau ar ffurflen COP3 a gall un o’r canlynol wneud hyn:
- Meddyg teulu
- Ymgynghorydd
- Seiciatrydd
- Gweithiwr cymdeithasol
- Gweithiwr proffesiynol cymeradwy arall
Cam 2: Cwblhau’r ffurflenni cais
Amserlen nodweddiadol: 1 i 3 wythnos
Y prif ffurflenni yw’r canlynol:
- COP1 – ffurflen gais
- COP3 – asesiad galluedd
- COP4 – datganiad dirprwy
Dylech sicrhau bod yr holl wybodaeth yn gywir ac yn gyfredol.
Gall ceisiadau anghyflawn achosi oedi.
Cam 3: Cyflwyno’r cais
Amserlen nodweddiadol: Yn syth ar ôl i’r ffurflenni gael eu cwblhau
Anfonwch y ffurflenni wedi’u cwblhau i’r Llys Gwarchod a thalwch y ffi am wneud y cais.
Efallai y cewch ostyngiadau i’r ffioedd neu y cewch eich esgusodi rhag talu’r ffioedd yn dibynnu ar amgylchiadau ariannol.
Cam 4: Hysbysu aelodau’r teulu a phartïon â diddordeb
Amserlen nodweddiadol: O fewn 14 diwrnod i gyfarwyddyd y Llys
Efallai y bydd y Llys yn gofyn i chi hysbysu’r canlynol:
- Yr unigolyn nad yw’r galluedd ganddo (lle bo’n briodol)
- Aelodau agos o’r teulu
- Pobl eraill a nodwyd gan y Llys
Mae hyn yn rhoi cyfle i bobl godi unrhyw bryderon.
Cam 5: Penderfyniad y Llys
Amserlen nodweddiadol: 4 i 9 mis ar gyfer ceisiadau syml
Bydd y Llys Gwarchod yn ystyried y canlynol:
- Tystiolaeth o ddiffyg galluedd
- A oes angen dirprwyaeth
- Unrhyw wrthwynebiadau a godwyd
- Budd pennaf yr unigolyn
- A yw’r dirprwy arfaethedig yn addas
Gall y Llys ofyn am ragor o’r wybodaeth neu gynnal gwrandawiad.
Cam 6: Cyhoeddi Gorchymyn Dirprwyaeth
Amserlen nodweddiadol: 1 i 3 wythnos ar ôl cymeradwyaeth terfynol
Os caiff y cais ei gymeradwyo:
- Mae’r Llys yn cyhoeddi Gorchymyn Dirprwyaeth
- Mae Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dechrau goruchwylio
- Gall y dirprwy ddechrau gwneud penderfyniadau o fewn yr awdurdod a roddwyd iddo
Pa mor hir mae’r broses yn ei chymryd?
Mae ceisiadau am ddirprwyaeth fel arfer yn cymryd tua chwech i naw mis. Gall achosion mwy cymhleth gymryd mwy o amser. Gall dechrau’r asesiad galluedd a chasglu gwybodaeth yn gynnar helpu i osgoi oedi.
Cyfrifoldebau pwysig dirprwy
Os cewch eich penodi’n ddirprwy, rhaid i chi wneud y canlynol:
- Gweithredu er budd pennaf yr unigolyn bob amser
- Gwneud penderfyniadau a ganiateir gan y Gorchymyn Llys yn unig
- Cynnwys yr unigolyn mewn penderfyniadau lle bynnag y bo modd
- Cadw cofnodion ariannol cywir
- Cadw arian ar wahân lle bo’n briodol
- Cwblhau adroddiadau y gofynnir amdanynt gan Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus
- Hysbysu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am newidiadau sylweddol
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn goruchwylio dirprwyon a gall ofyn am wybodaeth neu ymweliadau.
Beth sy’n digwydd os yw aelodau’r teulu’n anghytuno
Mae’r Llys Gwarchod yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Dymuniadau a theimladau’r unigolyn
- Budd pennaf yr unigolyn
- Pwy sydd fwyaf addas i weithredu fel dirprwy
Gall anghydfod teuluol gynyddu’r amser y mae’n ei gymryd i’r Llys wneud penderfyniad.
Pwyntiau allweddol i’w cofio
- Gwiriwch a yw atwrneiaeth arhosol, atwrneiaeth barhaus neu drefniant arall eisoes yn bodoli.
- Fel arfer dim ond pan nad oes dewis arall addas ar gael y mae angen dirprwyaeth.
- Mae angen asesiad proffesiynol o alluedd.
- Rhaid i geisiadau fod yn gyflawn a rhaid iddynt gael eu cefnogi gan dystiolaeth.
- Gall y broses gymryd rhwng chwech a naw mis.
- Rhaid i ddirprwyon weithredu er budd pennaf yr unigolyn bob amser.
- Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn goruchwylio dirprwyon ar ôl eu penodi.
Manylion cyswllt a manylion cymorth eraill
Gallwch hefyd gael cymorth a gwybodaeth gan y canlynol:
- Y Llys Gwarchod (yn agor mewn tab newydd)
- Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (yn agor mewn tab newydd)
- Cyngor ar Bopeth (yn agor mewn tab newydd)
- Cyfreithwyr sy’n arbenigo mewn materion y Llys Gwarchod
- Gwasanaethau eiriolaeth