Cymorth i Wneud Penderfyniadau
Dirprwyon
Beth yw Dirprwy a beth y mae’n ei wneud?
- Mae Dirprwy yn gweithredu i gyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol a roddir arno gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 ac yn gweithredu yn unol â Rheolau’r Llys Gwarchod 2017 a’r Safonau Dirprwy ar gyfer Dirprwyon Awdurdodau Cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG).
- Bydd Cyngor Sir Penfro (CSP) yn gwneud cais i’r Llys Gwarchod i weithredu fel Dirprwy unigolyn ar gyfer eiddo a materion ariannol er mwyn rheoli cyllid yr unigolyn os ydyw’n bodloni meini prawf CSP ar gyfer y gwasanaeth hwn.
Cymhwysedd ar gyfer cael Dirprwy
- Bydd Gwasanaethau Cymdeithasol CSP yn gwneud cais i’r Llys Gwarchod i weithredu fel Dirprwy ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sydd:Wedi cael Asesiad Deddf Galluedd Meddyliol a chyfarfod budd pennaf sy’n pennu bod angen dirprwy i ddiwallu anghenion asesedig yr unigolyn.
- Â digon o gyllid ar y pryd i dalu’r gost o wneud cais am ddirprwy, ynghyd â £2,000.00 neu ddigon o arian i dalu cost y gwasanaeth. Bydd cyllid yn cynnwys, ond efallai na fydd yn gyfyngedig i’r canlynol: cynilion, pensiynau a phob ffynhonnell incwm neu asedau gan gynnwys eiddo a phethau gwerthfawr.
- Heb berson addas arall, megis perthynas neu ffrind agos, sy’n fodlon gweithredu yn rhinwedd y swydd hon.
Sut y caiff asedau a chyllid eu rheoli gan Ddirprwy?
- Os oes gan y defnyddiwr gwasanaeth eiddo, bydd y Dirprwy yn gwneud trefniadau hyd nes y ceir gorchymyn i werthu gan y Llys Gwarchod, i ymweld bob deufis neu ar yr amlder a nodir gan y polisi yswiriant i sicrhau ei fod yn cael ei gynnal i safon dda.
- Gwneir trefniadau ar gyfer yswiriant adeilad a chynnwys lle bo modd.
- Gwneir trefniadau ar gyfer cynnal a chadw eiddo megis, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: garddio a chynnal a chadw boeleri.
- Ar gyfer cynnwys eiddo, gellir storio rhai eitemau yn ddiogel ac/neu efallai y bydd rhai eitemau’n cael eu hanfon i’r cartref preswyl. Bydd eiddo’n cael ei glirio trwy gwmni clirio tai a gomisiynir a bydd eitemau/pethau gwerthfawr yn cael eu gwerthu mewn arwerthiant.
- Unwaith y gwneir gorchymyn i werthu gan y Llys Gwarchod, bydd yr eiddo yn cael ei werthu am werth y farchnad gydag o leiaf tri phrisiad a bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi.
- Bydd pob cais am ddirprwy gydag eiddo sy’n cael ei brydlesu neu ei rentu yn cael ei gyfeirio at gyfreithwyr y panel.
- Sicrhau bod dyledion yn cael eu talu.
Motability
Bydd y Dirprwy yn gyfrifol am unrhyw gerbyd a roddir drwy’r Cynllun Motability gan fod hyn yn gysylltiedig ag elfen symudedd budd-daliadau penodol. Fodd bynnag, bydd angen i’r Tîm Rheoli Gofal Oedolion benderfynu pa mor briodol yw mynediad parhaus i gerbyd Motability neu’r angen amdano fel penderfyniad budd pennaf a’i adolygu’n flynyddol.
Taliadau am Ddirprwyon
Codir tâl ar y defnyddiwr gwasanaeth yn unol â chanllawiau’r OPG.
Ffioedd (yn agor mewn tab newydd)
Bydd y cyngor yn talu’r ffi am gais llys ymlaen llaw ac yn anfonebu’r defnyddiwr gwasanaeth.
Os oes unigolyn addas ond nad yw’n gallu talu’r costau llys sy’n ymwneud â’r cais ymlaen llaw, yna gall CSP wneud hyn ar ei ran. Anfonebir y defnyddiwr gwasanaeth am y costau y gall y Dirprwy eu talu gan ddefnyddio ei arian unwaith y gwneir gorchymyn.
Manylion cyswllt
Canolfan Gyswllt Cyngor Sir Penfro - 01437 764551
Tîm Dirprwyon a Phenodeiaeth - 01437 775618