Cymorth i Wneud Penderfyniadau
Gwneud penderfyniadau yn y dyfodol
Efallai y byddech yn hoffi paratoi ar gyfer adeg pan na fyddwch yn gallu cyflawni eich busnes o ddydd i ddydd neu wneud eich gwaith papur eich hun.
Atwrneiaeth
Gallwch wneud cais am Atwrneiaeth Arhosol (LPA) a gallwch ddewis un neu ragor o bobl rydych yn ymddiried ynddynt i ymdrin â rhai materion sy’n ymwneud â’ch eiddo, eich cyllid neu eich lles personol, neu’r holl faterion hynny, pan mae hynny’n mynd yn broblem i chi, ac os yw hynny’n digwydd. Rhaid i chi wneud cais am Atwrneiaeth Arhosol tra mae’r gallu gennych i wneud hynny.
Mae pobl yn aml yn penodi mwy nag un ‘atwrnai’ i weithredu ar eu rhan, i’w diogelu rhag camddefnyddio’r pwerau eang dros eiddo a materion ariannol sy’n dod gyda’r Atwrneiaeth ac oherwydd y gallai pobl fod â gwahanol sgiliau yn ymwneud ag eiddo, cyllid neu les personol. Gall atwrneiod weithredu ‘ar y cyd’ (lle mae’n rhaid iddynt i gyd arwyddo trafodion) neu ‘ar y cyd ac yn unigol’ lle nad oes angen mwy nag un person i arwyddo. Os byddwch yn newid eich meddwl yn ddiweddarach ynglŷn â’r unigolyn neu’r bobl rydych wedi eu dewis, gallwch ddirymu’r ddogfen.
Rhaid i Atwrneiaeth Arhosol fod wedi ei chofrestru gyda’r Llys Gwarchod cyn y gellir ei defnyddio. Gall yr Atwrneiaeth Arhosol cyllid ac eiddo fod yn weithredol ar unwaith neu pan fyddwch yn colli galluedd a gellir nodi hyn – dim ond pan fyddwch yn colli galluedd y gellir defnyddio’r Atwrneiaeth Arhosol iechyd a lles.
Gallwch ddefnyddio cyfreithiwr i wneud Atwrneiaeth Arhosol neu gallwch lenwi ffurflen ar-lein Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (yn agor mewn tab newydd)
Os ydych wedi gwneud ‘Atwrneiaeth Barhaus (EPA)’ yn barod neu os ydych yn gweithredu ar ran rhywun dan Atwrneiaeth Barhaus, bydd yn dal yn ddilys dan y ddeddfwriaeth newydd oni bai fod y sawl a’i gwnaeth yn penderfynu ei dinistrio a gwneud Atwrneiaeth Arhosol yn ei lle. Rhaid i Atwrneiaeth Barhaus fod wedi ei chofrestru pan fo’r unigolyn yn colli galluedd os yw’n mynd i gael ei defnyddio.
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn caniatáu i chi wneud ‘penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth’ os oes triniaeth feddygol benodol na fyddech yn dymuno ei chael yn y dyfodol. Gallai hyn gynnwys triniaeth cynnal bywyd.
Yn y dyfodol, efallai na fyddwch yn gallu dweud wrth bobl pa driniaethau nad ydych am eu cael – efallai oherwydd eich bod yn methu â chyfathrebu neu oherwydd nad oes gennych y galluedd meddyliol. Efallai y bydd eich teulu’n gwybod beth yw eich dymuniadau, ond beth os nad ydynt yno?
Dylech ysgrifennu eich penderfyniad ymlaen llaw a rhoi copi i bobl bwysig – eich teulu a’ch meddyg teulu er enghraiff. Os nad ydych yn gallu ysgrifennu, dywedwch wrthynt beth yw eich penderfyniad ymlaen llaw.
Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall