Cymorth i Wneud Penderfyniadau

Penodeiaeth

Beth yw Penodai a beth y mae’n ei wneud?

  • Awdurdodir Penodai gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar gais llwyddiannus i reoli budd-daliadau unigolyn ar ei ran.
  • Mae’n awdurdodi talu biliau a/neu wasgaru arian gan ddefnyddio budd-daliadau a geir gan Gyngor Sir Penfro (CSP) ar ran y defnyddiwr gwasanaeth.
  • Bydd yn hysbysu’r Adran Gwaith a Phensiynau am unrhyw newidiadau sy’n bwysig.
  • Bydd yn monitro adolygiadau, budd-daliadau a geir, arian sy’n cael ei wario a balans cronfa’r Penodeiaeth.

Math o Benodeiaeth

Mae Cyngor Sir Penfro yn cynnig dau fath o Benodeiaeth i ddefnyddiwr gwasanaeth cymwys:

  1. Mae Penodeiaeth Cartref Gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth mewn lleoliad cartref gofal parhaol.
  2. Mae Penodeiaeth Cymunedol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sy’n byw yn y gymuned.

Cymhwysedd ar gyfer cael Penodai

Gall rhywun gael Penodeiaeth Corfforaethol os:

  • Ydyw’n ddefnyddiwr gwasanaeth o fewn gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau iechyd Cyngor Sir Penfro gydag asesiad anghenion presennol, asesiad Deddf Galluedd Meddyliol a/neu gynllun gofal a chymorth a gweithiwr CSP penodedig.
  • Nad oes unrhyw unigolyn addas arall, fel perthynas neu ffrind agos a all reoli budd-daliadau’r unigolyn.
  • Nad oes ganddo fwy na £3,000 yn ei gyfrif(on) banc neu ddigon o arian i dalu cost y gwasanaeth ac mae’n rhaid iddo gael rhywun i helpu i reoli’r cyfrifon, oni bai bod cais am Ddirprwy hefyd yn cael ei wneud.
  • Nad oes ganddynt Benodai, Dirprwy neu unigolyn ag Atwrneiaeth eisoes, oni bai bod pryderon diogelu yn bresennol.
  • Lle bo’n briodol, ceir cytundeb wedi’i lofnodi i ildio Penodeiaeth sy’n bodoli eisoes.

Sut bydd budd-daliadau yn cael eu rheoli gan Benodai?

  • Bydd budd-daliadau a geir yn cael eu dyrannu i gyfriflyfr defnyddiwr gwasanaeth pwrpasol.
  • Bydd defnyddwyr gwasanaeth yn cael arian gwario a fydd naill ai’n cael ei dalu i’w darparwr, ei gredydu i gyfrif banc penodol neu gerdyn rhagdaledig.
  • Darperir taliadau arian parod dim ond pan nad oes dewis arall ar gael.
  • Bydd defnyddwyr gwasanaeth Penodeiaeth Cymunedol yn cael eu hasesu i weld a oes angen cerdyn rhagdalu arnynt. Bydd y Tîm Dirprwy Benodai yn credydu’r cerdyn yn unol â’r trefniadau y penderfynir arnynt gan y defnyddiwr gwasanaeth ar y cyd â gweithiwr cymorth a/neu weithiwr cymdeithasol.

Motability

Bydd y Penodai yn gyfrifol am unrhyw gerbyd a roddir drwy’r Cynllun Motability gan fod hyn yn gysylltiedig ag elfen symudedd budd-daliadau penodol. Fodd bynnag, bydd angen i’r Tîm Rheoli Gofal Oedolion benderfynu pa mor briodol yw mynediad parhaus i gerbyd Motability neu’r angen amdano fel penderfyniad budd pennaf a’i adolygu’n flynyddol.

Taliadau Gwasanaeth ar gyfer Penodeiaeth

Codir ffi weinyddol yn unol â Pholisi Codi Tâl cyfredol y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Manylion cyswllt

Canolfan Gyswllt Cyngor Sir Penfro - 01437 764551

Tîm Dirprwyon a Phenodeiaeth - 01437 775618

ID: 11328, adolygwyd 15/02/2024