Cymorth i Wneud Penderfyniadau
Y Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005)
Os oes gennych chi neu’r sawl rydych yn gofalu amdano anabledd neu salwch sy’n achosi anhawster i wneud penderfyniadau ynglŷn â thriniaeth feddygol, anghenion gofal, materion ariannol ac agweddau eraill ar fywyd bob dydd, gall y Ddeddf Galluedd Meddyliol eich helpu. Mae’n egluro ym mha amgylchiadau y gall pobl eraill weithredu ar ran rhywun nad yw’n gallu gwneud penderfyniadau drosto ei hun ac yn nodi’r cyfyngiadau a’r mesurau diogelu sy’n bodoli ar hyn o bryd.
Nod y Ddeddf yw rhoi unigolion wrth graidd unrhyw benderfyniadau sy’n cael eu gwneud ynglŷn â’u gofal gan roi iddynt y gefnogaeth a’r cyngor y mae arnynt ei angen er mwyn gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain lle bo modd. Penderfynir ynglŷn â gallu ar sail mater penodol ac ar adeg benodol, ac nid yw dod i’r casgliad nad yw rhywun yn gallu penderfynu rhywbeth heddiw yn golygu na fydd ganddo ef neu hi y gallu i wneud penderfyniad ynglŷn â rhywbeth arall ar adeg wahanol.
Diffiniwyd trosedd newydd dan y Ddeddf hefyd, sef cam-drin neu esgeuluso’n fwriadol unrhyw un nad oes ganddo allu meddyliol.
Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall