Cymorth i Wneud Penderfyniadau
Y Llys Gwarchod
Gall y Llys Gwarchod wneud penderfyniadau ynglŷn â chyllid a lles pobl na allant wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Os yw rhywun yn cael incwm o fudd-daliadau yn unig, ac nad oes ganddo unrhyw gyfalaf, yna gall ei faterion gael eu rheoli gan Benodai – drwy’r Adran Gwaith a Phensiynau. Os oes ganddo gyfalaf, h.y. cynilion, yna bydd angen dirprwy wedi ei benodi gan lys.
Os yw eich ffrind neu berthynas:
- Heb allu meddyliol i reoli ei faterion ariannol neu ei les ei hun
- Heb wneud Atwrneiaeth Barhaus neu Arhosol a bellach heb allu meddyliol i wneud hynny
- Yn meddu ar asedau y mae angen eu defnyddio er ei fudd ef neu hi neu eu gweinyddu mewn rhyw ffordd ; neu
- Yn wynebu penderfyniadau cymhleth ynglŷn â lles na ellir eu datrys mewn unrhyw ffordd arall
Yna gallwch wneud cais i’r Llys Gwarchod. Bydd y llys naill ai’n gwneud penderfyniad untro neu’n penodi Dirprwy i reoli a gweinyddu materion yn ymwneud ag eiddo ac arian yr unigolyn.
I gael ffurflenni a llyfrynnau am Atwrneiaeth Arhosol neu’r Llys Gwarchod ffoniwch adran gwasanaethau i gwsmeriaid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus:
Ffôn 0300 456 0300 – llinellau ffôn ar agor Llun – Gwener, 9am – 5pm (ar wahân i ddydd Mercher, 10am – 5pm)
Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall