Cymorth prydau ysgol a chostau

Trosolwg

Yn yr adran hon:

Dysgwch am brydau ysgol am ddim, bwydlenni a grantiau i helpu gyda hanfodion yr ysgol.



Cymorth prydau ysgol a chostau ysgol

Efallai y byddwch chi’n gallu cael help gyda chost prydau ysgol a hanfodion eraill. Mae tair prif fath o gefnogaeth:



Prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd (UPFSM)

  • Beth mae’n ei olygu: Prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd llawn amser yng Nghymru.
  • Pwy sy’n ei gael: Pob plentyn ysgol gynradd mewn addysg amser llawn, waeth beth fo’u hincwm.
  • Oes angen i chi wneud cais? Na. Bydd eich plentyn yn cael y prydau hyn yn awtomatig.
  • Pwysig: Nid yw’r prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yn rhoi mynediad i chi at y Grant Hanfodion Ysgol. I gael cymorth ychwanegol gyda chostau ysgol bydd angen i chi wneud cais ar gyfer dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim, hyd yn oed os yw’ch plentyn yn cael prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd.

 


Dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim (eFSM)

  • Beth mae’n ei olygu: Prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar incwm neu fudd-daliadau eich cartref.
  • Pwy sy’n ei gael: Plant ysgol gynradd neu uwchradd sy’n mynychu llawn amser y mae eu teuluoedd yn bodloni meini prawf penodol.
  • Oes angen i chi wneud cais? Oes. Hyd yn oed os yw’ch plentyn eisoes yn cael prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, dylech wneud cais dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim i ddatgloi cymorth ychwanegol.
  • Pam ymgeisio? Os ydych chi’n gymwys, byddwch chi hefyd yn cael mynediad at y Grant Hanfodion Ysgol.


Grant Hanfodion Ysgol

  • Beth mae’n ei olygu: Taliad i helpu gyda chostau ysgol fel gwisg ysgol, esgidiau, cit chwaraeon ac offer.
  • Pwy sy’n ei gael: Teuluoedd y mae eu plant o oedran ysgol gorfodol ac sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a phlant sy’n derbyn gofal.
  • Cyfanswm:£200 i blant Blwyddyn 7, £125 ar gyfer pob blwyddyn ysgol arall (Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11).
  • Oes angen i chi wneud cais? Oes. Rydych chi’n gwneud cais yn awtomatig ar yr un pryd â gwneud cais dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim.
  • Pwysig: Dim ond un cais sydd angen i chi ei wneud am brydau ysgol am ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol.

 


Pam ei bod werth gwneud cais


Hyd yn oed os yw’ch plentyn eisoes yn cael y prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, gall gwneud cais dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim roi mynediad i chi i:

  • Grant Hanfodion Ysgol (i helpu gyda gwisg ysgol, cit, a mwy)
  • Cyllid ychwanegol i ysgol eich plentyn i gefnogi ei ddysgu
  • Prydau ysgol am ddim yn yr ysgol uwchradd

 

Tabl cymharu

 

Nodwedd

Prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd (cyffredinol)

Prydau ysgol am ddim (i ddysgwyr sy’n gymwys)

Pwy sy’n ei gael?

Pob disgybl cynradd llawn amser

Yn seiliedig ar incwm/budd-daliadau

Angen cais?

Nac oes

Oes

Ar gael yn yr ysgol uwchradd?

Nac oes

Oes

Yn datgloi Grant Hanfodion Ysgol?

Nac oes

Oes

 

 

 

Gwiriwch a ydych chi’n gymwys

Gwneud cais Dysgwyr sy’n Gymwys am Brydau Ysgol Am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol

ID: 14879, adolygwyd 26/02/2026