Cymorth prydau ysgol a chostau
Bwydlenni ysgolion a gofynion deietegol arbennig
Dysgwch am beth sydd ar y fwydlen a sut rydym yn cefnogi deietau arbennig ac alergeddau.
Bwydlenni ysgolion cynradd
Mae pob disgybl ysgol gynradd llawn amser yn Sir Benfro yn cael prydau ysgol am ddim.
Mae prydau ysgol gynradd yn bodloni y Canllawiau Maeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Gallwch wneud y canlynol:
- Gweld bwydlen presennol yr ysgol gynradd
- Gofynnwch i Alexa: “Alexa, gofyn i Gyngor Sir Penfro beth sydd i ginio yn yr ysgol heddiw?”
Bwydlenni ysgolion uwchradd
Mae ysgolion uwchradd yn cynnig gwasanaeth ar ddull caffeteria gyda dewis eang o brydau poeth, byrbrydau a diodydd.
Gweld rhestr o brisiau ysgolion uwchradd
Cymorth ar gyfer gofynion deietegol arbennig
Gellir darparu ar gyfer gofynion deietegol arbennig ar gais.
Ysgol gynradd
Deietau a ragnodwyd yn feddygol
Er enghraifft: deietau alergeddau, diabetig (sy’n cyfrif carbohydradau).
Cwblhewch y ffurflen gais am ddeiet a ragnodwyd yn feddygol a’i dychwelyd i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.
Gwnewch yn siŵr bod adran B wedi’i chwblhau gan weithiwr meddygol proffesiynol, neu eich bod wedi cynnwys llythyr meddygol diweddar yn cadarnhau’r diagnosis a’r diet gofynnol.
Deiet ar sail crefydd, diwylliant neu foeseg
Cwblhewch y ffurflen ar-lein ar gyfer deiet ar sail crefydd, diwylliant neu foeseg.
Newidiadau i ofynion ddeietegol
Os bydd anghenion deietegol eich plentyn yn newid, llenwch y ffurflen berthnasol eto.
Neu, cwblhewch y ffurflen dileu gofynion deietegol arbennig i ddileu gofynion deietegol.
Ysgol uwchradd
Mae arlwyo yn yr ysgol uwchradd yn gweithredu ar raddfa llawer mwy nag yn yr ysgolion cynradd, ac mae dewis ehangach o fwyd yn cael ei gynnig. Dydy hi ddim yn ymarferol gweithredu'r un gweithdrefnau â'r rhai sy'n cael eu gweithredu mewn lleoliadau ysgolion cynradd.
Efallai bydd angen cyngor ar rai disgyblion yn ymwneud â'r bwyd y mae modd ei fwyta. Dylai plant drafod eu hanghenion gyda'r staff arlwyo sy'n gallu gwirio'r pecynnau a'r cynhwysion am alergenau (mewn prydau cyfansawdd).
Mewn achosion cymhleth ble bydd angen gweithredu mesurau ychwanegol, mae modd trafod y rhain gyda'r Tîm Arlwyo. Bydd cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu.
Does dim modd i ni reoli'r bwyd y mae cwsmeriaid eraill yn dod ag ef i'r ardal giniawa.
Angen cymorth?
I ofyn am gymorth deiet arbennig cysylltwch â’n tîm arlwyo
Ffoniwch: 01437 764551
E-bost: special.diets@pembrokeshire.gov.uk
Os ydych chi’n ansicr ynglŷn â bwydlenni neu anghenion dietegol, cysylltwch â ni.