Cymorth prydau ysgol a chostau
Cwestiynau cyffredin
Dewch o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin am brydau ysgol am ddim a grantiau ysgol.
Dolenni cyflym
- Beth yw’r gwahaniaeth rhwng prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd a phrydau ysgol am ddim i ddysgwyr sy’n gymwys?
- A allaf gael prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd a phrydau ysgol am ddim i ddysgwyr sy’n gymwys?
- A fydd fy nghais dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn cael ei ôl-ddyddio?
- Oes angen i mi wneud cais os yw fy mhlentyn eisoes yn cael prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd?
- Beth os oes gen i fwy nag un plentyn neu mae angen i mi ychwanegu plentyn arall?
- Beth os nad ydw i’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar gyfer dysgwyr sy’n gymwys neu’r Grant Hanfodion Ysgol?
- Sut ydw i’n cael y Grant Hanfodion Ysgol?
- Dydw i ddim wedi cael y taliad Grant Hanfodion Ysgol – beth ddylwn i ei wneud?
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd a phrydau ysgol am ddim i ddysgwyr sy’n gymwys?
- Prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd (UPFSM): Prydau bwyd am ddim i bob disgybl ysgol gynradd llawn amser yng Nghymru. Dim angen cais.
- Dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim: Prydau bwyd am ddim yn seiliedig ar incwm neu fudd-daliadau. Rhaid i chi wneud cais. Mae dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim hefyd yn datgloi’r Grant Hanfodion Ysgol (os ydynt o oedran ysgol gorfodol).
Nodwedd |
Prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd (cyffredinol) |
Prydau ysgol am ddim (i ddysgwyr sy’n gymwys) |
|
Pwy sy’n ei gael? |
Pob disgybl cynradd llawn amser |
Yn seiliedig ar incwm/budd-daliadau |
|
Angen cais? |
Nac oes |
Oes |
|
Ar gael yn yr ysgol uwchradd? |
Nac oes |
Oes |
|
Yn datgloi Grant Hanfodion Ysgol? |
Nac oes |
Oes |
A allaf gael prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd a phrydau ysgol am ddim i ddysgwyr sy’n gymwys?
Oes. Os yw’ch plentyn yn cael prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yn yr ysgol gynradd, dylech chi dal i wneud cais dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim. Mae hyn yn rhoi mynediad i chi at y Grant Hanfodion Ysgol ac yn sicrhau bod prydau bwyd am ddim yn parhau yn yr ysgol uwchradd.
A fydd fy nghais dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn cael ei ôl-ddyddio?
Na fydd. Dim ond o’r dyddiad y byddwch yn cyflwyno’ch cais y gall prydau ysgol am ddim ddechrau. Ni ellir eu hôl-ddyddio.
Oes angen i mi wneud cais os yw fy mhlentyn eisoes yn cael Prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd?
Oes. Mae’r prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yn awtomatig ar gyfer disgyblion cynradd, ond mae angen cais ar gyfer dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim. Mae gwneud cais am brydau ysgol am ddim yn datgloi cefnogaeth ychwanegol.
Beth os oes gen i fwy nag un plentyn neu mae angen i mi ychwanegu plentyn arall?
Gallwch gynnwys eich holl blant ar yr un cais. Os oes angen i chi ychwanegu plentyn arall yn ddiweddarach, cysylltwch â ni:
Ffoniwch: 01437 764551
E-bost: free.school.meals@pembrokeshire.gov.uk
Beth os nad ydw i’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim na’r Grant Hanfodion Ysgol?
Os nad ydych chi’n gymwys, byddwch chi’n dal i gael y prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd. Gallwch dalu am brydau bwyd yn yr ysgol uwchradd gan ddefnyddio ein system ar-lein.
Sut i dalu am brydau ysgol
Sut ydw i’n cael y Grant Hanfodion Ysgol?
Nid oes angen i chi wneud cais ar wahân. Os byddwch yn gwneud cais am brydau ysgol am ddim ac yn gymwys, caiff y grant ei brosesu’n awtomatig.
Dydw i ddim wedi cael taliad Grant Hanfodion Ysgol – beth ddylwn i ei wneud?
Os nad ydych wedi cael eich Grant Hanfodion Ysgol o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl clywed eich bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, cysylltwch â’n tîm Grant Gwisg Ysgol:
Ffoniwch: 01437 764551
Cyfeiriad e-bost: SUGS@pembrokeshire.gov.uk
Byddwn yn gwirio statws eich cais a’ch taliad.