Cymorth prydau ysgol a chostau

Ehangu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 7 ac 8

Darganfyddwch a ydyw eich plentyn yn gymwys am gynnig ehangach prydau ysgol am ddim, pryd y bydd y cynnig yn dechrau, a beth y mae angen i chi ei wneud.

 

Pwy a all wneud cais

Gallwch wneud cais os ydych chi’n bodloni’r meini prawf canlynol:

  • Mae eich plentyn ym Mlwyddyn 7 neu Flwyddyn 8
  • Rydych chi’n cael Credyd Cynhwysol

Nid oes terfyn incwm ar gyfer yr hawlogaeth ehangach hon os ydych chi’n cael Credyd Cynhwysol.

Peidiwch â gwneud cais mewn perthynas â’r cynnig ehangach hwn os yw eich plentyn yn symud i Flwyddyn 9. Nid yw disgyblion sy’n dechrau Blwyddyn 9 yn cael eu cynnwys yn y cynnig ehangach hwn.

 

Pryd y bydd prydau ysgol am ddim yn dechrau

Gellir gwneud ceisiadau o fis Medi 2026.

Bydd prydau ysgol am ddim o dan y cynllun ehangach hwn yn dechrau ar 2 Tachwedd 2026.

 

Gwneud cais am gynnig ehangach prydau ysgol am ddim

Gwneud cais am brydau ysgol am ddim

Gallwch barhau i wneud cais ar ôl 2 Tachwedd 2026. Bydd ceisiadau yn parhau i gael eu derbyn ar ôl i’r cynllun ddechrau.

 

Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais

Nid oes angen i chi wneud cais eto os yw’r canlynol yn wir:

  • Rydych chi eisoes wedi gwneud cais am gynllun ehangach prydau ysgol am ddim
  • Rydych chi wedi cael neges e-bost yn cadarnhau bod enw eich plentyn wedi ei ychwanegu at y rhestr

Mae eich gwybodaeth eisoes wedi ei phrosesu.

 

Talu am brydau ysgol cyn i’r cynllun ddechrau

Rhaid i chi barhau i ychwanegu arian i gyfrif arlwyo heb arian eich plentyn nes bod y cynllun yn dechrau ar 2 Tachwedd 2026.

Ni fydd costau prydau ysgol a brynwyd cyn 2 Tachwedd 2026 yn cael eu had-dalu.

 

Lwfans prydau dyddiol

Bydd eich plentyn yn cael lwfans dyddiol o £3.

O ran y lwfans:

  • mae’n adnewyddu’n awtomatig bob bore
  • nid yw’n trosglwyddo i’r diwrnod nesaf

Chi sy’n dal i fod yn gyfrifol am ychwanegu arian i’r cyfrif os yw pryniannau eich plentyn yn costio mwy na £3 y diwrnod.

 

Pryd y mae angen i chi wneud cais eto

Os yw eich plentyn yn symud o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 8, rhaid i chi wneud cais eto.

Mae hyn er mwyn gallu gwirio cymhwysedd eto.

 

Grant Hanfodion Ysgol

Nid yw’r cynnig ehangach hwn yn newid cymhwysedd ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol.

Mae’r Grant Hanfodion Ysgol yn dal i fod yn seiliedig ar drothwy incwm aelwyd o dan £616.67 y mis fesul aelwyd.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen ehangu genedlaethol, ewch i:

Llywodraeth Cymru yn cadarnhau buddsoddiad ychwanegol o £15m mewn prydau ysgol am ddim i ddysgwyr cymwys mewn ysgolion uwchradd | LLYW.CYMRU

ID: 15863, adolygwyd 06/10/2026