Cymorth prydau ysgol a chostau
Cael cymorth gyda chostau ysgol: Grant Hanfodion Ysgol
Os yw’ch plentyn yn ddysgwr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim (prydau ysgol am ddim sy’n seiliedig ar brawf modd), gallwch hefyd gael cymorth ariannol ychwanegol trwy’r Grant Hanfodion Ysgol os ydyw o oedran ysgol gorfodol.
Mae’r grant hwn yn helpu gyda chost pethau sydd eu hangen ar eich plentyn ar gyfer yr ysgol.
Beth mae’r grant yn ei gynnwys
Gallwch ddefnyddio’r grant ar gyfer:
- Gwisg ysgol ac esgidiau
- Cit chwaraeon ar gyfer gwersi addysg gorfforol
- Bagiau ysgol
- Offer ar gyfer gwersi (fel deunydd ysgrifennu)
- Offer TG (fel llechen neu liniadur)
- Eitemau ar gyfer gweithgareddau y tu allan i’r ysgol sy’n cefnogi dysgu
Pwy sy’n gymwys?
- Teuluoedd â phlant o oedran ysgol gorfodol (Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11) sy’n ddysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim.
- Pobl ifanc sy’n derbyn gofal.
Nid oes angen i chi wneud cais ar wahân os ydych chi eisoes wedi gwneud cais am brydau ysgol am ddim i ddysgwyr sy’n gymwys —bydd y Grant Hanfodion Ysgol yn cael ei brosesu’n awtomatig os ydych chi’n gymwys.
Faint allwch chi ei gael
- £200 i bob plentyn os ydyn nhw ym Mlwyddyn 7 (i helpu gyda chost dechrau yn yr ysgol uwchradd)
- £125 i bob plentyn ar gyfer pob blwyddyn ysgol gorfodol arall (Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11)
Gwneir taliadau unwaith bob blwyddyn academaidd ac fel arfer cânt eu gwneud o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl i’ch cais am brydau ysgol am ddim gael ei gymeradwyo.
Gwnewch gais nawr
Os nad ydych chi wedi gwneud cais dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim eto, gwnewch gais ar-lein. Nid oes angen i chi wneud cais ar wahân os ydych chi eisoes wedi gwneud cais am brydau ysgol am ddim i ddysgwyr sy’n gymwys —bydd y Grant Hanfodion Ysgol yn cael ei brosesu’n awtomatig os ydych chi’n gymwys.
Gwneud cais Dysgwyr sy’n Gymwys am Brydau Ysgol Am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol
I wneud cais am y Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer person ifanc sy’n derbyn gofal, cwblhewch Grant Hanfodion Ysgol Cais ar gyfer Person Ifanc sy`n derbyn Gofal a’i hanfon drwy e-bost at SUGS@pembrokeshire.gov.uk
Os oes angen help arnoch, cysylltwch â’n tîm Grant Gwisg Ysgol ar 01437 764551 neu SUGS@pembrokeshire.gov.uk
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais
- Byddwn yn gwirio eich manylion ac yn cadarnhau a ydych chi’n gymwys
- Os ydych chi’n gymwys:
- Bydd eich plentyn yn cael prydau ysgol am ddim - o fewn pum diwrnod gwaith
- Byddwn yn talu’r grant yn uniongyrchol i chi drwy drosglwyddiad banc gan ddefnyddio manylion y cyfrif banc a ddarparwyd pan wnaethoch chi eich cais am brydau ysgol am ddim i ddysgwyr sy’n gymwys - o fewn 10 diwrnod gwaith
- Os nad ydych chi’n gymwys, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi o fewn 10 diwrnod gwaith
Angen cymorth?
Ffoniwch: 01437 764551
Cyfeiriad e-bost: SUGS@pembrokeshire.gov.uk
Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin