Cymorth prydau ysgol a chostau
Gwneud cais am brydau ysgol am ddim
Gall rhai teuluoedd gael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar incwm neu fudd-daliadau. Gelwir yn brydau ysgol am ddim (eFSM).
Os yw eich plentyn yn gymwys, bydd yn cael prydau ysgol am ddim ac, os yw o oedran ysgol gorfodol, byddwch hefyd yn cael y Grant Hanfodion Ysgol.
Gwneud cais dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim
Pwy sy’n gymwys?
Gallwch wneud cais os yr ydych chi yn cael un o’r canlynol:
- Cymorthdal incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Cymorth o dan ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Yr elfen warantedig o Gredyd Pensiwn
- Credyd Treth Plant (cyn belled nad ydych chi hefyd yn cael Credyd Treth Gwaith) a bod eich incwm blynyddol yn is na £16,190
- Credyd Treth Gwaith ‘ychwanegol (yn cael ei dalu am bedair wythnos ar ôl i chi beidio â bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith)
- Credyd Cynhwysol ac mae incwm eich cartref yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth a heb gynnwys budd-daliadau (£616.67 y mis)
Os nad ydych yn siwr, gwnewch gais beth bynnag - byddwn ni yn gwirio ar eich rhan.
Pwy ddylai wneud cais?
- Rhieni neu ofalwyr plant ysgol gynradd neu uwchradd sy’n mynychu amser llawn
- Hyd yn oed os yw’ch plentyn eisoes yn cael prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yn yr ysgol gynradd, rhaid i chi wneud cais dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim i ryddhau cymorth ychwanegol.
Os yw’ch plentyn eisoes yn cael prydau ysgol am ddim i ddysgwyr sy’n gymwys, nid oes angen i chi wneud cais eto.
Cyn i chi ddechrau: yr hyn y bydd ei angen arnoch chi
- Eich rhif Yswiriant Gwladol neu eich rhif Gwasanaeth Cynnal Cenedlaethol i Geiswyr Lloches
- Manylion eich plentyn:
- Enw llawn
- Dyddiad geni
- Enw’r ysgol
Sut i wneud cais
Gwneud cais ar-lein. Mae ond yn cymryd ychydig funudau.
Gwneud cais dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim
Os oes angen help arnoch, cysylltwch â’n tîm Prydau Ysgol Am Ddim ar 01437 764551 neu free.school.meals@pembrokeshire.gov.uk
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais
- Byddwn yn gwirio eich manylion yn erbyn systemau cenedlaethol.
- Mae hyn fel arfer yn cymryd hyd at 5 diwrnod gwaith. Os bydd yn cymryd mwy o amser, byddwn ni yn rhoi gwybod i chi.
Os ydych chi’n gymwys:
- Bydd ysgol eich plentyn yn cael gwybod o fewn wythnos.
- Byddwch hefyd yn cael eich ystyried ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol - o fewn pythefnos i’r cais ddod i law.
Os nad ydych chi’n gymwys:
- Byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost neu lythyr o fewn 5 diwrnod gwaith.
Faint o gefnogaeth rydych chi’n ei gael
- Prydau ysgol am ddim i’ch plentyn.
- Mynediad at y Grant Hanfodion Ysgol (os yw’ch plentyn o oedran ysgol gorfodol):
- £200 i ddisgyblion Blwyddyn 7.
- £125 i ddisgyblion ym mhob grŵp blwyddyn arall (o’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11).
Manteision gwneud cais
- Prydau ysgol am ddim i ddisgyblion uwchradd.
- Cyllid ychwanegol ar gyfer ysgol eich plentyn.
- Datgloi’r Grant Hanfodion Ysgol i gael help gyda gwisg ysgol, cit ac offer (os yw’ch plentyn o oedran ysgol gorfodol).
Newidiadau ac ail-ymgeisio
Rydym yn gwirio cymhwysedd yn rheolaidd, felly does dim angen i chi ail-ymgeisio bob blwyddyn oni bai:
- Bod eich amgylchiadau’n newid.
- Rydych chi’n newid eich cyfenw.
- Mae angen i chi wneud cais dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim ar gyfer unrhyw blentyn nad ydych wedi gwneud cais amdano o’r blaen.
Os bydd eich incwm neu fudd-daliadau’n newid, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.
Angen cymorth?
Ffoniwch: 01437 764551
E-bost: free.school.meals@pembrokeshire.gov.uk