Cymorth prydau ysgol a chostau

Talu am brydau ysgol

Ysgolion cynradd

Mae pob disgybl ysgol gynradd llawn amser yn cael prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd.
Nid oes angen i chi dalu.

Mae disgyblion rhan-amser yn talu £2.55 am bob pryd.
Os hoffech i’ch plentyn gael prydau ysgol, anfonwch e-bost at cashless.catering@pembrokeshire.gov.uk i ofyn am gyfrif arlwyo heb arian parod.


Ysgolion uwchradd

Mae ysgolion uwchradd yn defnyddio system arlwyo heb arian parod.
Mae disgyblion yn talu gan ddefnyddio:

  • Cerdyn arlwyo heb arian parod
  • Neu adnabod bysedd (system fiometrig)

 


Beth yw biometrig?

Mae biometrig yn golygu defnyddio olion bysedd yn lle cerdyn neu rif PIN. Mae’n ddiogel, yn gyflym, ac yn helpu i leihau ciwiau.


Dysgwch am sut mae dull biometrig yn gweithio

Noder. Nid yw dull biometrig ar gael ym mhob ysgol uwchradd

Mae terfyn gwariant dyddiol o £6 (gallwch ofyn am newidiadau i’r terfyn hwn).


Sut i dalu

Gallwch chi ychwanegu arian i gyfrif eich plentyn:

  • Ar-lein drwy Fy Nghyfrif

  Talu ar-lein nawr

 

  • Drwy sefydlu debyd uniongyrchol

       Lawrlwythwch ffurflen debyd uniongyrchol

 

  • Dros y ffôn:
    • Ffoniwch 01437 764551 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am–5pm)
    • Neu defnyddiwch y gwasanaeth awtomataidd 24 awr: 01437 775164



Rhybuddion balans isel

Cofrestrwch am hysbysiadau e-bost a neges testun am ddim pan fydd eich balans yn gostwng o dan £10.


Gosod rhybuddion balans isel


Ad-daliadau a chredydau

  • Mae ad-daliadau ar gael os yw’ch plentyn yn gadael yr ysgol neu’n rhoi’r gorau i ddefnyddio’r gwasanaeth

Os oes angen ad-daliad arnoch, cysylltwch â cashless.catering@pembrokeshire.gov.uk


Angen cymorth?

Ffoniwch: 01437 764551


E-bost: cashless.catering@pembrokeshire.gov.uk



Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin

ID: 14892, adolygwyd 25/02/2026