Cynghorau Tref a Chymuned
Cynghorau cymuned, tref a dinas Sir Benfro
Cynghorau cymuned, tref a dinas (cynghorau lleol) yw lefel y llywodraeth sydd agosaf at ein cymunedau.
Beth mae’r cynghorau lleol hyn yn ei wneud?
Rôl cynghorau lleol yw cynrychioli cymunedau neu drefi unigol yn Sir Benfro. Mae ganddynt bwerau cyfreithiol i gyflenwi rhai gwasanaethau a dyletswyddau yn dibynnu ar faint y gymuned y maent yn ei chynrychioli a’u cyllideb. Mae enghreifftiau o wasanaethau a ddarperir gan gynghorau lleol yn cynnwys:
- Mannau gwyrdd
- Mannau chwarae i blant
- Neuaddau cymuned
- Cyfleusterau cyhoeddus
I gael rhagor o wybodaeth am gynghorau a’r hyn y maent yn ei wneud, ewch i: Un Llais Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Cynghorau cymuned, tref a dinas yn Sir Benfro
Yn Sir Benfro, mae gennym ni:
- 67 o gynghorau cymuned
- Naw cyngor tref
- Un cyngor dinas
Am fwy o wybodaeth am bob un o’r cynghorau hyn, gallwch ymweld â’n rhestr o wefannau cynghorau tref a chymuned.
Fe welwch y canlynol:
- Manylion cyswllt eich cyngor lleol
- Dogfennau allweddol gan gynnwys agendâu a chofnodion cyfarfodydd
- Gwybodaeth ddefnyddiol arall yn ymwneud â gwaith eich cyngor
Cynghorwyr cymuned, tref a dinas
Mae pob cyngor lleol yn cynnwys cynghorwyr etholedig, yn amrywio mewn nifer o chwech yn y cymunedau lleiaf, i 18 yn y mwyaf.
 diddordeb mewn bod yn gynghorydd lleol?
Gall bod yn gynghorydd roi boddhad mawr.
Mae cynghorwyr:
- yn cael eu hethol bob pum mlynedd (mewn etholiadau llywodraeth leol)
- â hawl i daliad blynyddol bach
Mae swyddi cynghorwyr yn dod yn wag yn ystod y pum mlynedd rhwng etholiadau. Cysylltwch â chlerc eich cyngor tref neu gymuned os hoffech wybod mwy am y cyfleoedd yn eich ardal.
Mae disgwyl i’r etholiadau llywodraeth leol nesaf gael eu cynnal yn 2027.
Clercod cynghorau lleol
Mae pob cyngor lleol yn cael ei gefnogi gan glerc cyflogedig sy’n sicrhau bod y cyngor yn rhedeg yn effeithiol. Yr unigolyn hwn hefyd fel arfer yw’r swyddog ariannol cyfrifol ar gyfer y cyngor.
 diddordeb mewn bod yn glerc i gyngor lleol?
I gael rhagor o fanylion am ddod yn glerc cyngor lleol, gan gynnwys pa gymwysterau sydd eu hangen, ewch i dudalen: Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol (SLCC) (yn agor mewn tab newydd)
Hysbysiadau statudol
Mae’r adran hon yn rhestru’r hysbysiadau cyfredol, gweithredol a statudol ar gyfer etholiadau i gynghorau lleol yn Sir Benfro.