Cynghori Tai

Cynghor ar Dai

Mae’r Tîm Cyngor ar Dai yn darparu cyngor ar dai yn rhad ac am ddim.  Ein nod yw atal digartrefedd trwy gynnig cyngor a chymorth i’ch galluogi i aros yn eich cartref eich hun, neu efallai y gallwn helpu sicrhau llety amgen drwy edrych ar yr holl ddewisiadau tai.  Bydd Swyddog Tai yn gweithio gyda chi i geisio eich atal rhag bod yn ddigartref neu i roi cymorth gyda’ch digartrefedd.

Mae’r Tîm Cyngor ar Dai yn gweithio’n unol â Deddf Tai (Cymru) 2014 (yn agor mewn tab newydd), a gellir gweld copi ohoni gan ddefnyddio’r ddolen isod, a fydd yn mynd â chi i wefan Llywodraeth Cymru:-

Gyda phwy y dylwn i gysylltu os oes gen i broblem o ran tai?

Oriau Swyddfa Cyngor Sir Penfro

Llun i Gwener rhwng 9 a 5 o’r gloch.

Cysylltwch â’r Swyddog Tai ar Ddyletswydd ar 01437 764551 neu drwy’r e-bost housingadvice@pembrokeshire.gov.uk

Os ydych chi’n mynd i fod yn ddigartref y noson honno, ewch i weld y Swyddog Tai ar Ddyletswydd yn Adain y Gogledd, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP. 

Tu allan i Oriau Swyddfa Cyngor Sir Penfro

Gwener 5 yr hwyr i 9 y bore dydd Llun.

Cysylltwch â’r Gweithiwr Cymdeithasol ar Ddyletswydd o’r Tîm Allan o Oriau ar 03003 332222

Beth yw digartrefedd?

‘Gallech fod yn ddigartref os ydych yn cysgu ar y stryd, os nad oes gennych hawliau i aros lle yr ydych chi, neu os ydych yn byw mewn tŷ sy’n anaddas. Gallwch fod yn ddigartref hyd yn oed os oes gennych do uwch eich pen.’ (Shelter Cymru, 2018)

Pa sefyllfa sy’n cyfrif fel bod yn ddigartref?

Nid oes rhaid i chi fod yn cysgu ar y stryd i gael eich dosbarthu’n ddigartref. Gallech fod yn ddigartref yn gyfreithiol os ydych:

  • Yn aros dros dro gyda ffrindiau neu deulu
  • Yn aros mewn hostel neu wely a brecwast
  • Yn byw mewn amodau gorlawn (yn agor mewn tab newydd) iawn
  • Mewn perygl o drais neu gamdriniaeth (yn agor mewn tab newydd) yn eich cartref
  • Yn byw mewn amodau gwael sy’n effeithio ar eich iechyd
  • Yn byw yn rhywle lle nad oes gennych hawl gyfreithiol i fyw (e.e. sgwat (yn agor mewn tab newydd))
  • Yn byw yn rhywle na allwch fforddio talu amdano heb eich amddifadu eich hun o’r hanfodion sylfaenol
  • Yn cael eich gorfodi i fyw ar wahân i’ch teulu, neu rywun y byddech fel arfer yn byw gydag ef/hi, oherwydd bod eich llety yn anaddas. (Shelter Cymru, 2018)

Beth os ydw i’n ddigartref heno?

Os ystyrir eich bod yn ddigartref y noson honno, gall y swyddog ar ddyletswydd gynnig yr opsiynau canlynol i chi;

  • Llety dros dro neu lety argyfwng yn amodol ar gynnal asesiad risg (gall hyn fod yn Sir Benfro neu du hwnt, gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol).
  • Darparu gwybodaeth i chi er mwyn i chi gael pecyn cysgu allan.
  • Cyfryngu gyda’ch teulu/ffrind/partner/landlord ac ati i’ch galluogi i aros dros nos.

*Sylwer, nid yw’r rhestr hon yn gyflawn a bydd yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Beth all y Cyngor ei wneud i’m helpu gyda fy mhroblemau tai?

Efallai y gall Swyddog Tai eich helpu gyda’r canlynol:

  • Llenwi ffurflen Gais am Dŷ i ymuno â chofrestr Tai y Cyngor.  I gael mwy o wybodaeth, ewch i  Cartrefi Dewisedig Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) 
  • Cyngor cyffredinol ar dai, yn cynnwys:
  • Cyngor ar rentu’n breifat
  • Cyngor ar rentu gan yr Awdurdod Lleol neu Gymdeithas Dai
  • Cyngor ar beth i’w wneud os ydych chi’n cael anhawster talu eich morgais
  • Cyfryngu gyda’ch teulu, landlord neu gwmni morgais.
  • Cyfeirio at asiantaethau eraill a allai helpu.
  • Cyngor cyfreithiol sylfaenol am dai.
  • Cyngor ariannol sylfaenol a chyngor sylfaenol ar reoli dyled.
  • Cyfeirio at Dîm Tai Sector Preifat y Cyngor ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â dilysrwydd hysbysiadau a hefyd ar gyfer diffygion a pheryglon posibl.
  • Gwneud trefniadau i fynychu Swyddfeydd y Cyngor ar gyfer apwyntiad gyda Swyddog Tai, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau unigol.

Pwy arall allai fy helpu gyda phroblem Tai?

Mae’r sefydliadau canlynol yn gweithio ochr yn ochr â’r Cyngor a’r gwasanaeth y mae ganddo ddyletswydd statudol i’w ddarparu, ac efallai y gall eich helpu neu gynorthwyo gyda’ch problemau tai.

Shelter Cymru (yn agor mewn tab newydd)  

Oriau agor: Llun i Gwener o 9:30am – 4pm

Cymdeithas Gofal Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd)

E-bost: pcs@pembrokeshirecaresociety.org.uk

 

Oriau agor: Llun i Gwener o 10am- 4pm 

PATCH (yn agor mewn tab newydd)

E-bost: contact@patchcharity.org.uk neu tracy@patchcharity.org.uk

Ffôn: 01646 699275 Llun, Mercher ac Iau o 9am - 2pm

Symudol: 07775571431 Llun – Gwener o 9am – 4pm 

Oriau agor: Llun i Gwener 10am – 2pm 

Canolfan Cyngor ar Bopeth (yn agor mewn tab newydd)

E-bost: advice@pembscab.org

Infoengine (yn agor mewn tab newydd)

Yn ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd

Byddai angen i chi fynychu apwyntiad gyda Swyddog Tai a fyddai’n eich helpu i lenwi Asesiad Anghenion Tai er mwyn asesu eich angen o ran tai – gelwir hwn yn Asesiad Adran 62 yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014. Gall ffrind, aelod o’r teulu, eiriolwr neu weithiwr cymorth ddod gyda chi i’ch apwyntiad.

Eich Cyfweliad Digartrefedd

Rydych chi naill ai wedi gofyn am gael gweld Swyddog Tai neu wedi gwneud apwyntiad i weld Swyddog Tai mewn perthynas â’ch sefyllfa dai. Rydym yn gwerthfawrogi y gallech chi fod yn teimlo’n bryderus ynglŷn â hyn. Mae’r daflen hon yn helpu i esbonio beth i’w ddisgwyl o’r cyfarfod hwn.

Beth ddylech chi ei ddisgwyl?

Gall y cyfarfod fod yn rhyw awr o hyd. Yn ystod yr amser hwn, bydd angen i’r Swyddog Tai ofyn llawer o gwestiynau manwl i chi ynglŷn â’ch sefyllfa. Gallai’r rhain gynnwys cwestiynau personol am eich iechyd, sefyllfa ariannol, amgylchiadau blaenorol a phresennol a, lle bo’n briodol, unrhyw gofnod troseddol. Mae’n rhaid i ni ofyn y cwestiynau hyn er mwyn pennu ba gymorth, os o gwbl, y gallwn ei roi i chi. Mae’n bwysig eich bod yn ateb yn llawn ac yn onest. Efallai y caiff cyfweliadau eu cynnal mewn bwth cyfweld agored. Mynediad cyfyngedig sydd gennym i fwth preifat, felly dywedwch wrth y Swyddog Tai pe bai hyn yn well gennych. Nodwch y gallai hyn
gynyddu’r amser y byddwch yn aros i weld Swyddog Tai.

Os oes unrhyw beth nad ydych yn dymuno’i drafod, neu os ydych chi’n teimlo’n anesmwyth gydag unrhyw rai o’r cwestiynau, rhowch wybod i’r Swyddog Tai ar y pryd. Dylech wybod, os na allwch ateb cwestiynau yn llawn, y gallai hyn gyfyngu ar y cymorth y gallwn ei roi i chi.

Beth ddylech chi ddod gyda chi i’r cyfweliad?

Er mwyn cynorthwyo’r Swyddog Tai i gael gwell dealltwriaeth o’ch amgylchiadau, ac i allu gwneud penderfyniad yn fwy cyflym o ran pa gymorth, os o gwbl, y gellir ei roi, dewch â’r canlynol gyda chi i’ch cyfweliad:-

  • Prawf Hunaniaeth e.e. tystysgrif geni, trwydded yrru, pasbort ac ati.
  • Manylion eich incwm a gwariant e.e. eich cyfriflenni banc am y tri mis diwethaf.
  • Manylion unrhyw feddyginiaeth yr ydych chi neu aelod o’ch teulu wedi’i chael ar bresgripsiwn e.e. presgripsiwn amlroddadwy, llythyr meddyg teulu ac ati

Os nad yw’r wybodaeth hon gennych yn y cyfweliad, trafodwch hyn gyda’ch Swyddog Tai ac os oes ei hangen, dylid ei darparu cyn gynted ag y bo modd ar ôl eich cyfweliad.

Beth allwn ni ei wneud i helpu?

Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Bydd y Swyddog Tai yn gallu rhoi mwy o gyngor ynglŷn â hyn pan fyddwch wedi trafod eich amgylchiadau. Sylwer fod unrhyw gyngor sy’n cael ei roi yn rhad ac am ddim, a bydd yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd gennych. Gofynnir i chi hefyd lofnodi Datganiad sy’n datgan bod y wybodaeth a ddarparoch i ni yn wybodaeth gywir ac nad ydych wedi atal gwybodaeth nac wedi ein camarwain ni o ran eich amgylchiadau. Hefyd, trwy lofnodi’r Datganiad, rydych yn caniatáu i’r Swyddog Tai wneud ymholiadau, fel isod, i gynorthwyo â gallu rhoi cyngor pellach i chi, a chymorth, os yw’n briodol.

Beth sy’n digwydd ar ôl y cyfarfod?

Bydd y Swyddog Tai yn gwneud ymholiadau, gan gynnwys, lle bo’n berthnasol, gwiriadau gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau, Adrannau eraill y Cyngor e.e. Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Meddygon Teulu a Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol eraill, landlordiaid blaenorol a phresennol, asiantaethau credyd ac adrannau eraill y llywodraeth e.e. y Gwasanaeth Prawf, yr Heddlu a hefyd unrhyw un o’ch rhwydwaith cefnogi e.e. teulu, ffrindiau, gofalwyr/gweithwyr cymorth ac ati. Sylwer nad yw hon yn rhestr gyflawn, gan y bydd yn dibynnu ar amgylchiadau pob cwsmer unigol. Gallwn hefyd ddefnyddio gwybodaeth sy’n wybodaeth gyhoeddus, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’n bwysig eich bod yn darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol mor gyflym ag y bo modd, gan y gallai oedi ymestyn yr amser ymchwilio, neu arwain at benderfyniad wedi’i seilio ar wybodaeth anghyflawn. Bydd y Swyddog Tai yn gwneud penderfyniad wedyn ynglŷn â pha gymorth, os o gwbl, y gallwn ei ddarparu yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Fe’ch hysbysir am y penderfyniad hwn yn ysgrifenedig cyn pen 10 diwrnod
gwaith yn dilyn y tro cyntaf yr aethoch at yr Adran Dai mewn perthynas â’ch sefyllfa dai. Rhoddir enw eich Swyddog Tai i chi. Gall eich Swyddog Tai roi rhestr o wybodaeth bellach sydd ei hangen i chi hefyd, neu restr o bethau y mae angen i chi eu gwneud. Rhoddir Pecyn Cyngor ar Dai i chi hefyd, a dylech ei ddarllen ar y cyfle cynharaf ar ôl eich cyfweliad. Os oes unrhyw gwestiynau gennych ynglŷn â’r wybodaeth
a ddarparwyd i chi yn y Pecyn Cyngor ar Dai, cysylltwch â’ch Swyddog Tai ynglŷn â hyn. Os ydych yn aneglur ynghylch unrhyw ran o’r wybodaeth ar y daflen hon, gofynnwch i’r Swyddog Tai ar ddechrau eich cyfarfod.

Beth fydd fy Swyddog Tai a minnau’n ei wneud i ddatrys fy mhroblemau Tai?

Creu Cynllun Tai Personol gyda thasgau y bydd angen i chi a’ch Swyddog Tai eu gwneud er mwyn eich helpu i ddod o hyd i lety addas, cynaliadwy a fforddiadwy. Bydd hwn yn nodi manylion y camau rhesymol y byddai angen i chi’ch dau eu cymryd yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Gallai’r rhain gynnwys:

  • Chwilio am eiddo yn y sector rhentu preifat.
  • Cynilo ar gyfer bond a/neu rent ymlaen llaw er mwyn cael tenantiaeth.
  • Gwneud cais am gymorth bond ar gyfer eiddo addas yn y sector rhentu preifat.
  • Cwblhau gwiriadau perthnasol sy’n ofynnol yn gyfreithiol i gefnogi cais am fond e.e. mae’n RHAID bod y landlord/asiantaeth wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru.
  • Sicrhau bod eich cais am Dŷ yn gyfredol a bod y bandio cywir wedi’i ddyfarnu i adlewyrchu’ch amgylchiadau.
  • Gwneud atgyfeiriadau perthnasol i asiantaethau cefnogi.
  • Ymgysylltu â gweithwyr cymorth a/neu asiantaethau.
  • Mynd ati i geisio dod o hyd i lety arall, e.e. gwneud cynigion perthnasol ar eich cais Cartrefi Dewisedig.
  • Derbyn copi ysgrifenedig o’r help y gallwch ei ddisgwyl gan yr Adran Dai.
  • Diweddaru eich gilydd ynglŷn ag unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau.

* Sylwer nad yw’r rhestr hon yn gyflawn a bydd eich Cynllun Tai Personol yn seiliedig ar eich amgylchiadau unigol ac yn cael ei ddiweddaru fel bo’r gofyn.

 

 

ID: 1764, adolygwyd 10/11/2023