Cynghorwyr Sir a Phwyllgorau

Cwestiynau gan y Cyhoedd mewn cyfarfodydd y Cyngor Llawn; Nodiadau Cyfarwyddyd

Nodyn Cyfarwyddyd i'r Cyhoedd sy'n Cyflwyno Cwestiynau yng Nghyfarfodydd Cyffredin y Cyngor

Mae gan y cyhoedd sy'n byw neu'n gweithio yn Sir Benfro hawl i ofyn cwestiynau yng nghyfarfodydd Cyffredin y Cyngor. Ni chaiff unrhyw un gyflwyno mwy na dau gwestiwn mewn unrhyw un cyfarfod.

I ofyn cwestiwn, cwblhewch y ffurflen atodedig os gwelwch yn dda 

Cyflwyno cwestiynau i`r Cyngor gan aelod o`r cyhoedd

Rhaid i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd dderbyn y ffurflen o leiaf ddeg diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod lle gaiff ei gyflwyno.

Gofynnir cwestiynau ar lafar gan y Aelod Llywyddol ar ran yr aelod perthnasol o'r cyhoedd, yn y drefn y cawsant eu derbyn. Gall y Aelod Llywyddol roi cwestiynau tebyg ynghyd os y'i hystyrir yn briodol gwneud hynny.

Gall y Aelod Llywyddol, mewn ymgynghoriad â'r Phennaeth y Gyfraith a Llywodraethu, wrthod cwestiwn os ystyrir:

  • nad yw'r cwestiwn yn ymwneud â mater y mae gan y Cyngor gyfrifoldeb amdano neu nad yw'n effeithio ar Sir Benfro;
  • ei fod yn gwestiwn difenwol neu'n peri trallod;
  • ei fod yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol neu eithriedig, neu y byddai'r ymateb yn debygol o ddatgelu gwybodaeth o'r fath;
  • ei fod yn sylweddol debyg i gwestiwn a gyflwynwyd yn ystod y chwe mis blaenorol.

Bydd cwestiynau ond yn cael eu hystyried gan y cyhoedd sydd:

  • Yn etholwyr llywodraeth leol ar gyfer Sir Benfro;
  • Dros 16 oed ond a fyddai'n gymwys fel arall fel etholwr ar gyfer Sir Benfro;
  • Yn breswylydd, perchennog neu denant unrhyw dir neu fangre arall yn Sir Benfro; ac wedi bod am y 12 mis diwethaf ar ei hyd;
  • Yn gyflogedig neu â'u prif neu unig weithle wedi bod yn Sir Benfro yn ystod y 12 mis diwethaf ar ei hyd;
  • neu wedi bod yn byw yn Sir Benfro yn ystod y 12 mis diwethaf ar ei hyd.

Os caiff cwestiwn ei wrthod gan nad yw'n bodloni'r meini prawf uchod, bydd yn cael ei ddychwelyd ynghyd â'r rhesymau dros ei wrthod. Mae penderfyniad y Aelod Llywyddol, mewn ymgynghoriad â'r Phennaeth y Gyfraith a Llywodraethu, yn derfynol.

Bydd y Aelod Llywyddol yn gwahodd yr Arweinydd, yr Aelod Cabinet priodol neu Gadeirydd y Pwyllgor priodol i ymateb i'r cwestiwn. Rhaid i'r person sy'n ateb naill ai ddarparu ateb llafar sylweddol i'r cwestiwn neu ymgymryd i roi ateb ysgrifenedig o fewn deg Diwrnod Gwaith Clir i ddyddiad y cyfarfod.

Caniateir uchafswm o 30 munud ar gyfer holi at ateb yr holl gwestiynau.

Pan na fydd cwestiwn yn cael ei gyrraedd yn ystod y cyfarfod, bydd y Aelod Llywyddol yn dosbarthu'r cwestiynau i'r Arweinydd, yr Aelod Cabinet priodol neu Gadeirydd y Pwyllgor priodol ar unwaith wedi i'r cyfarfod ddod i ben a bydd y person hwnnw/honno'n anfon ateb ysgrifenedig o fewn deg Diwrnod Gwaith Clir i ddyddiad y cyfarfod, gyda'r ateb yna'n ffurfio rhan o'r Cofnodion.

Mae’n rhaid i chi fynychu’n bersonol neu o bell, a rhaid i chi ddweud pwy ydych wrth y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd neu ei chynrychiolydd cyn dechrau'r cyfarfod. Os na fyddwch yn gwneud hynny, yna ni fydd y cwestiwn yn cael ei roi gerbron y cyfarfod.

Bydd angen i ni weld tystiolaeth o'ch hunaniaeth ar ddiwrnod y cyfarfod, e.e. pasbort, trwydded yrru neu fil cyfleustodau diweddar. Gellir cyflwyno copi wedi’i sganio.

 

 

ID: 1344, adolygwyd 31/01/2023