Cynghorwyr Sir a Phwyllgorau
Cwestiynau gan y Cyhoedd mewn cyfarfodydd y Cyngor Llawn; Nodiadau Cyfarwyddyd
Nodyn Cyfarwyddyd i'r Cyhoedd sy'n Cyflwyno Cwestiynau yng Nghyfarfodydd Cyffredin y Cyngor
Mae gan y cyhoedd sy'n byw neu'n gweithio yn Sir Benfro hawl i ofyn cwestiynau yng nghyfarfodydd Cyffredin y Cyngor. Ni chaiff unrhyw un gyflwyno mwy na dau gwestiwn mewn unrhyw un cyfarfod.
I ofyn cwestiwn, cwblhewch y ffurflen atodedig os gwelwch yn dda
Cyflwyno cwestiynau i`r Cyngor gan aelod o`r cyhoedd
Rhaid i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd dderbyn y ffurflen o leiaf ddeg diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod lle gaiff ei gyflwyno.
Gofynnir cwestiynau ar lafar gan y Aelod Llywyddol ar ran yr aelod perthnasol o'r cyhoedd, yn y drefn y cawsant eu derbyn. Gall y Aelod Llywyddol roi cwestiynau tebyg ynghyd os y'i hystyrir yn briodol gwneud hynny.
Gall y Aelod Llywyddol, mewn ymgynghoriad â'r Phennaeth y Gyfraith a Llywodraethu, wrthod cwestiwn os ystyrir:
- nad yw'r cwestiwn yn ymwneud â mater y mae gan y Cyngor gyfrifoldeb amdano neu nad yw'n effeithio ar Sir Benfro;
- ei fod yn gwestiwn difenwol neu'n peri trallod;
- ei fod yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol neu eithriedig, neu y byddai'r ymateb yn debygol o ddatgelu gwybodaeth o'r fath;
- ei fod yn sylweddol debyg i gwestiwn a gyflwynwyd yn ystod y chwe mis blaenorol.
Bydd cwestiynau ond yn cael eu hystyried gan y cyhoedd sydd:
- Yn etholwyr llywodraeth leol ar gyfer Sir Benfro;
- Dros 16 oed ond a fyddai'n gymwys fel arall fel etholwr ar gyfer Sir Benfro;
- Yn breswylydd, perchennog neu denant unrhyw dir neu fangre arall yn Sir Benfro; ac wedi bod am y 12 mis diwethaf ar ei hyd;
- Yn gyflogedig neu â'u prif neu unig weithle wedi bod yn Sir Benfro yn ystod y 12 mis diwethaf ar ei hyd;
- neu wedi bod yn byw yn Sir Benfro yn ystod y 12 mis diwethaf ar ei hyd.
Os caiff cwestiwn ei wrthod gan nad yw'n bodloni'r meini prawf uchod, bydd yn cael ei ddychwelyd ynghyd â'r rhesymau dros ei wrthod. Mae penderfyniad y Aelod Llywyddol, mewn ymgynghoriad â'r Phennaeth y Gyfraith a Llywodraethu, yn derfynol.
Bydd y Aelod Llywyddol yn gwahodd yr Arweinydd, yr Aelod Cabinet priodol neu Gadeirydd y Pwyllgor priodol i ymateb i'r cwestiwn. Rhaid i'r person sy'n ateb naill ai ddarparu ateb llafar sylweddol i'r cwestiwn neu ymgymryd i roi ateb ysgrifenedig o fewn deg Diwrnod Gwaith Clir i ddyddiad y cyfarfod.
Caniateir uchafswm o 30 munud ar gyfer holi at ateb yr holl gwestiynau.
Pan na fydd cwestiwn yn cael ei gyrraedd yn ystod y cyfarfod, bydd y Aelod Llywyddol yn dosbarthu'r cwestiynau i'r Arweinydd, yr Aelod Cabinet priodol neu Gadeirydd y Pwyllgor priodol ar unwaith wedi i'r cyfarfod ddod i ben a bydd y person hwnnw/honno'n anfon ateb ysgrifenedig o fewn deg Diwrnod Gwaith Clir i ddyddiad y cyfarfod, gyda'r ateb yna'n ffurfio rhan o'r Cofnodion.
Bydd angen i ni weld tystiolaeth o'ch hunaniaeth e.e. pasbort, trwydded yrru neu fil cyfleustodau diweddar. Gellir cyflwyno copi wedi'i sganio.
Gair neu Ddau Amdanom Ni
Y Cyngor
Mae'r Cyngor yn cynnwys 60 o Gynghorwyr ac mae pob un ohonynt yn cynrychioli trigolion sy'n byw mewn gwahanol ardaloedd yn Sir Benfro. Dyletswydd y Cynghorwyr yw gwasanaethu eu cymunedau er mwyn darparu gwasanaethau i'r cyhoedd. Bob pedair blynedd fe gynhelir etholiad lleol, a dyna pryd y bydd Cynghorwyr yn cael eu hethol i'w swyddi gan drigolion Sir Benfro. Yn ogystal â gweithio mewn Cymunedau bydd Cynghorwyr yn cwrdd yn rheolaidd yn gyfangorff a elwir ‘y Cyngor' lle byddant yn penderfynu ar y polisi drwyddo draw ac yn pennu cyllideb y sefydliad ar gyfer y flwyddyn.
Y Cabinet
Bydd y Cyngor yn ethol arweinydd a bydd Cabinet yn cael ei benodi, gan yr arweinydd, er mwyn eu cynorthwyo i wneud eu gwaith. Bydd deg Cynghorydd yn ffurfio Cabinet a bydd pob un ohonynt yn cynrychioli rhan o'r sefydliad. Bydd y Cabinet yn cwrdd yn rheolaidd ac yn gwneud penderfyniadau sydd yn unol â pholisïau'r Cyngor, gyda chymorth swyddogion y Cyngor.