Cyngor a Chefnogaeth i Fusnesau

Alergenau mewn Diodydd Poeth

Cyflwyniad

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cynnal gwaith samplu safonau bwyd yn ddiweddar, gan edrych am bresenoldeb llaeth mewn coffi di-laeth. Ymwelwyd â detholiad o safleoedd bwyd yn Sir Benfro a gofynnwyd am goffi di-laeth a oedd yn addas ar gyfer rhywun ag alergedd i laeth. Roedd 83% o'r samplau a brofwyd yn cynnwys olion llaeth ac roedd 67% yn cynnwys digon o brotein llaeth i achosi niwed difrifol neu hyd yn oed farwolaeth i rywun ag alergedd llaeth. Mae’r canlyniadau hyn, yn dilyn marwolaeth drasig dioddefwr alergedd i laeth ar ôl yfed yr hyn y credwyd ei fod yn siocled poeth di-laeth a brynwyd o safle manwerthu yn y DU, wedi ysgogi’r daflen gyngor hon i fusnesau Sir Benfro ar y rheolaethau sydd eu hangen pan fydd cwsmer yn gofyn am ddiod boeth heb alergenau.

 

Deddfau Gwybodaeth a Diogelwch Bwyd: Cynhwysion Alergenig

 

Cyfraith Gwybodaeth Bwyd: Cynhwysion Alergenig

Os gofynnir i chi am gynhwysion alergenig mewn diod, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi hysbysu cwsmeriaid pa un o’r 14 alergen sydd ynddi. Rhaid i hyn gynnwys cynhwysion y cynhwysion, fel unrhyw bowdrau, topins, ysgeintiadau neu suropau a ddefnyddir yn y diodydd. Dylid hefyd ystyried unrhyw ddatganiadau rhagofalus am alergenau ar restrau cynhwysion, gan sicrhau eu bod yn cael eu cyfathrebu’n briodol fel ‘gall gynnwys’ yn hytrach na chynhwysion gwirioneddol.

Rhaid i'r wybodaeth a roddwch i gwsmeriaid am alergenau fod yn gywir, yn gyson ac yn gyfredol.

 

Yr 14 alergen yw:

  • seleri

  • grawnfwydydd sy'n cynnwys glwten (fel gwenith, rhyg, haidd a cheirch)

  • cramenogion (fel corgimychiaid, crancod a chimychiaid)

  • wyau

  • pysgod

  • bysedd y blaidd

  • llaeth

  • molysgiaid (fel cregyn gleision ac wystrys)

  • mwstard

  • pysgnau

  • sesame

  • ffa soia

  • sylffwr deuocsid a sylffitau (os yw'r sylffwr deuocsid a'r sylffitau mewn crynodiad o fwy na deg rhan y filiwn)

  • cnau coed (fel cnau almon, cnau cyll, cnau Ffrengig, cnau Brasil, cnau cashiw, cnau pecan, cnau pistasio a chnau macadamia)

 

 

Cyfraith Diogelwch Bwyd: Os Gofynnir i Chi a yw Diod yn Cynnwys Alergenau

Os gofynnir i chi am alergenau, byddwch yn ymwybodol ei bod yn anodd iawn darparu pryd o fwyd neu ddiod sy'n hollol rydd o unrhyw alergenau mewn safle bach a phrysur.

Efallai yr hoffech chi ddweud wrth y cwsmer:

“Dyma’r alergenau y mae’r ddiod yn eu cynnwys… OND ni allaf warantu y bydd y ddiod yn gwbl rydd o’r cynhwysyn y mae gennych alergedd iddo oherwydd gall symiau bach iawn o alergenau fod yn bresennol mewn cynhwysion yr wyf yn eu prynu, oherwydd croeshalogi.”

Os ydych chi'n defnyddio'r cynhwysyn alergenig ar eich safle, efallai yr hoffech chi ddweud:

“Dyma’r alergenau y mae’r ddiod yn eu cynnwys… OND ni allaf warantu y bydd y ddiod yn hollol rydd o’r cynhwysyn y mae gennych alergedd iddo oherwydd rwy’n defnyddio’r cynhwysyn hwn ar fy safle ac efallai y bydd symiau bach iawn o alergenau yn bresennol oherwydd croeshalogi o offer yn ystod y dydd / gyda’r nos.”

Er enghraifft, os gofynnir i chi ddarparu diod heb laeth a defnyddio powdr llaeth mewn diodydd eraill ar eich safle, gallai'r powdr llaeth hwn halogi arwynebau ac offer eraill yn hawdd, hyd yn oed os nad yw'r halogiad hwn yn weladwy i'r llygad dynol. 

Sylwch NAD yw'n ofynnol i chi yn ôl y gyfraith i ddarparu diod sy'n hollol rydd o alergen, gan y gallai fod yn anodd iawn osgoi halogiad neu groeshalogi. Dylech esbonio hyn i'r cwsmer.

 

 

Siarad â Chwsmeriaid am Alergeddau

Wrth siarad â chwsmeriaid am alergeddau, byddwch yn ofalus eu bod yn eich deall chi, a'ch bod chi yn eu deall nhw.

  • Weithiau gall cwsmeriaid deimlo embaras yn siarad am eu halergedd ac efallai na fyddant yn ei esbonio'n ofalus iawn.

  • Weithiau gall cwsmeriaid fod wedi bod yn yfed alcohol, a allai effeithio ar eu barn.

  • Weithiau efallai y bydd cwsmeriaid wedi archebu diod o’r blaen a heb sylweddoli eich bod yn defnyddio rysáit wahanol i’r un y maent wedi arfer â hi neu eich bod wedi newid cynhwysyn.

  • Weithiau gall cwsmeriaid feddwl mai dim ond ar ffurf ysgafn yw eu halergedd, ond gall alergeddau waethygu dros amser.

 

 

Paratoi Diod Heb Alergen Penodol

 

Dealltwriaeth a Chytundeb

Os rhoddir yr holl wybodaeth angenrheidiol i'r cwsmer a'ch bod chi a'r cwsmer yn bendant yn cytuno ac yn deall, efallai y byddwch yn penderfynu gweini diod a wnaed heb yr alergen.

 

 

Gweithdrefnau Glanhau

Glanhau Offer:

  • Defnyddiwch ddŵr ffres, poeth iawn, menig rwber, glanedydd, glanweithydd (sy'n bodloni safonau Prydeinig) a chadachau ffres i lanhau'r holl offer.

  • Sicrhewch fod yr holl offer y byddai’r ddiod yn dod i gysylltiad â nhw yn cael eu glanhau a’u diheintio, gan gynnwys tywalltwyr, jygiau, llwyau, thermomedrau llaeth, cwpanau a chaeadau.

 

 

Diheintio Peiriannau Coffi

Diheintiwch yn Drylwyr:

  • Sicrhewch fod pibellau dŵr a stêm, ffyn a ffroenellau a allai fod wedi bod mewn cysylltiad â chynhyrchion sy'n cynnwys alergenau yn cael eu diheintio'n ofalus gan ddefnyddio peiriant glanhau dau gam i gael gwared ar bob olion o alergenau. Ystyriwch a allai fod olion unrhyw alergen, er enghraifft proteinau llaeth, y tu mewn i'r peiriant, yn enwedig yn y ffroenell stemio.

Gwyliwch rhag Sblashio:

  • Diheintiwch offer am yr eildro cyn paratoi diod heb alergenau er mwyn osgoi halogiad o ddiodydd parod gerllaw.

Stemio / Ffroenell Wresogi:

  • Os nad oes gennych ffroenell ar wahân i gynhesu llaeth ar gyfer pob math o ddiod heb alergenau, trafodwch ddewisiadau amgen ar y fwydlen gyda’r cwsmer a allai ganiatáu i laeth oer gael ei ddefnyddio yn ei ddiod, neu cynheswch y llaeth ar gyfer ei ddiod gan ddefnyddio ffynhonnell wres arall fel microdon.

Gwiriwch Swyddogaethau Glanhau:

    • Efallai na fydd swyddogaethau glanhau awtomatig ar beiriannau coffi yn effeithiol wrth gael gwared ar holl olion alergenau. Dylid trafod hyn gyda chyflenwyr neu gynhyrchwyr y peiriant.
 

 

Hylendid Arwynebau a Dwylo

Glanhau Arwynebau ac Offer:

  • Glanhewch arwynebau gwaith yn drylwyr gan ddefnyddio dŵr poeth a glanedydd, sychwch nhw â thywel papur, yna glanhewch nhw eto gan ddefnyddio glanweithydd neu ddiheintydd (glanhad dau gam). Gwiriwch a oes angen gadael y glanweithydd ar yr arwyneb am amser penodol (mae pum munud yn gyffredin).

  • Po fwyaf garw yw'r wyneb, yr anoddaf yw cael gwared ar alergen, felly gall fod yn anodd diheintio ffroenellau gweadog ac ati ar ddiwedd breichiau stemio yn effeithiol, a’r un peth yn wir am jygiau plastig wedi'u treulio a’u difrodi neu offer eraill mewn cyflwr gwael.

Ymolchi Dwylo:

  • Ymolchwch eich dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr poeth ac yna eu sychu â thywel papur glân. Nid yw glanweithyddion dwylo yn cael gwared ar alergenau.

Ffedogau a Chlytiau:

  • Sicrhewch fod ffedogau a chlytiau wedi'u golchi'n ffres.
 

 

Storio a Pharatoi Bwydydd Heb Alergenau

Trin a Rheoli Alergenau:

  • Rhaid i weithredwyr busnesau bwyd drin a rheoli alergenau bwyd yn effeithiol.

Stopio a Chanolbwyntio:

  • Dylai staff roi'r gorau i bob tasg arall a rhoi sylw llawn i baratoi diod heb alergenau.

Storio:

  • Storiwch gynhwysion ac offer ar gyfer prydau/diodydd heb alergenau mewn cynwysyddion â chaead wedi'u labelu. Ystyriwch roi codau lliw ar gyfer y cynwysyddion hyn.

  • Dylid storio dewisiadau eraill heb alergenau ar wahân, e.e. dylid storio llaeth soia neu almon ar wahân i gynhyrchion sy'n cynnwys alergenau yn eich oergell. Dylid glanhau a diheintio unrhyw ddiferion neu ollyngiadau yn eich oergell ar unwaith.

  • Dylid cadw cwpanau neu fygiau wedi’u gwrthdroi a'u storio ar arwyneb glân wedi'i ddiheintio a'u hamddiffyn rhag unrhyw halogiad gan alergenau. Ystyriwch ddefnyddio cwpan tecawê o ddeunydd pacio newydd, heb ei agor.

Ardal Ddynodedig:

  • Defnyddiwch ardal ddynodedig i baratoi diodydd/bwydydd heb alergenau gydag offer dynodedig ar wahân. Ystyriwch baratoi'r ddiod mewn cwpan nodedig fel ei bod yn hawdd ei hadnabod o ddiodydd eraill.

 

 

Rheoli Diogelwch Bwyd a Chadw Cofnodion

Pecyn Bwyd Mwy Diogel Busnes Gwell:

  • Cwblhewch ac adolygwch y dulliau diogel newydd “Alergeddau Bwyd – Gorsensitifrwydd i Fwyd” a “Gwahanu Bwydydd” yn yr adran croes-halogi, a “Rheoli Gwybodaeth am Alergenau Bwyd” yn yr adran rheoli.

Systemau Amgen:

  •  Os ydych yn defnyddio system rheoli diogelwch bwyd ddogfenedig amgen, sicrhewch ei bod yn cynnwys alergeddau bwyd, darparu gwybodaeth am alergenau, a risgiau croes-halogi. Dylid cofnodi unrhyw ‘fethiannau a fu bron â digwydd’ fel y gellir adolygu’r rhesymau a arweiniodd at weini diod anghywir o bosibl, neu unrhyw gamgymeriadau, er mwyn sicrhau na fydd digwyddiad tebyg yn digwydd eto.

Cadwch Ddeunydd Pecynnu Gwreiddiol:

  • Er mwyn sicrhau olrheiniadwyedd cynhwysion, argymhellir osgoi eu symud o'u pecynnau gwreiddiol. Mae'r arfer hwn yn helpu i sicrhau y gellir olrhain cyflenwyr a rhifau sypiau, sy'n hanfodol ar gyfer cydymffurfio â Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004. Os oes angen tywallt eitem i gynhwysydd arall, mae'n hanfodol cadw gwybodaeth am alergenau a rhifau sypiau. Mae olrheiniadwyedd priodol yn caniatáu ar gyfer nodi unrhyw ffynonellau halogi ac yn sicrhau y gellir rhannu rhybuddion am groes-halogi posibl â chwsmeriaid yn effeithiol.

 

 

Rhybudd

Dim Sicrwydd:

  • Cofiwch, nid oes rhaid i chi rhoi sicrwydd bod bob pryd/diod yn rhydd o alergen penodol. Os na allwch sicrhau hyn, rhaid i chi ei esbonio i'r cwsmer wrth drafod alergenau. Rhaid i chi ystyried risgiau croes-halogi ac, os yw'r ddiod yn cynnwys yr alergen hwnnw, hyd yn oed mewn symiau bach iawn, rydych mewn perygl o wneud cwsmer yn ddifrifol wael a hefyd yn cyflawni troseddau. Mae pobl hefyd wedi marw ar ôl profi adweithiau alergaidd i fwyd. 
 

 

Hyfforddiant

ID: 12948, adolygwyd 24/03/2025