Cyngor a Chefnogaeth i Fusnesau

Benthyciad Camau Bach at Fenter

Mae ‘Camau Bach at Fenter' wedi ymuno â Loteri Sir Benfro i gynnig i fentrwyr ifanc newydd addawol rhwng 18 a 25 oed y cyfle i fenthyg £500 yn ddi-log i helpu gyda chostau eu busnes.   

Fe fydd y benthyciad i'w dalu'n ôl tros 12 mis gyda'r ddau fis cyntaf yn wyliau talu.

Sefydlwyd benthyciad ‘Camau Bach at Fenter' ym mis Ionawr 2012 a hyd yma mae wedi helpu 6 o fentrwyr ifanc lleol gydag amrywiaeth o gostau, o brynu rhagor o stoc i brynu peiriannau hanfodol

Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am y mentrwyr ifanc rydyn ni wedi eu helpu gyda benthyciad ‘Camau Bach at Fenter', cliciwch yma:   

Os oes diddordeb gyda chi ym menthyciad ‘Camau Bach at Fenter', neu mewn gwybod rhagor amdano, ffoniwch Christina Morgan 01437 776251 neu anfonwch e-bost at christina.morgan@pembrokeshire.gov.uk 

 

 

 

ID: 492, adolygwyd 09/05/2018