Cyngor a Chefnogaeth i Fusnesau
Cyfleoedd Consesiynau Masnachu
Trosolwg
Mae Sir Benfro’n ardal o harddwch eithriadol sy’n cynnwys traethau gwobrwyol, cestyll, safleoedd hynafol a pharc cenedlaethol arfordirol. Mae’r gefnlen drawiadol hon yn cynnig cyfleoedd cyffrous i fentrwyr a busnesau lleol ddatblygu cyfleoedd masnachu.
Rydym yn cynnig nifer o gyfleoedd consesiynau masnachu ledled y Sir ac mae’n croesawu ceisiadau amdanynt. Rydym hefyd yn croesawu mynegiadau o ddiddordeb mewn datblygu cyfleoedd consesiynau newydd.
Consesiynau sy’n cael eu cynnig
Math o gontract yw consesiynau masnachu rhwng awdurdodau / endidau contractio a chyflenwyr.
Enghreifftiau o gonsesiynau masnachu cyfredol yw:
- consesiwn hufen iâ ar safle traeth: yn gwerthu hufen iâ o fan / uned
- consesiwn caffi: caffi’n cael ei redeg o adeilad y Cyngor fel llyfrgell neu ganolfan hamdden
Ble caiff cyfleoedd consesiynau eu hysbysebu?
Caiff cyfleoedd consesiynau eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd) Sefydlwyd y wefan hon gan Lywodraeth Cymru gyda’r bwriad o helpu busnesau gael hyd i gontractau sy’n cael eu cynnig gan y sector cyhoeddus ledled Cymru.
Mae tudalen 'chwilio am gontractau' yn rhoi ffordd syml i’ch busnes gael hyd i gyfleoedd i ddarparu nwyddau, gwaith neu wasanaethau i’r sector cyhoeddus. Gallwch chwilio trwy ddefnyddio geiriau allweddol, yn ôl lleoliad, neu drwy rybuddion (cyfleoedd cyfredol, cyfleoedd yn y dyfodol neu ganlyniadau contractau). Gallech chwilio, er enghraifft, trwy ddefnyddio dim ond y gair allweddol 'Consesiwn'. Fel arall, gallech chwilio yn ôl y gair allweddol 'Consesiwn' a dewis ymhle i chwilio, fel 'De-orllewin Cymru', i weld pa fathau o gyfleoedd consesiynau sydd yn y fan honno.
Os oes gennych ddiddordeb mewn contract consesiwn arbennig sy’n cael ei hysbysu, yna bydd angen i chi gyflwyno’r wybodaeth y gofynnir amdani erbyn y dyddiad cau.
Pryd gaiff cyfleoedd consesiynau eu hysbysebu?
Bydd hyn yn dibynnu ar y math o gyfle consesiwn. Mae rhai contractau consesiynau’n dymhorol ac yn gweithredu yn ystod cyfnodau prysurach y flwyddyn, mae rhai’n flynyddol ac fe all rhai gael eu dyfarnu am nifer o flynyddoedd. Yn nodweddiadol, caiff contractau eu hysbysu o leiaf fis cyn iddynt ddechrau. Mae cyfleuster ar Gwerthwchigymru (yn agor mewn tab newydd) i gael hysbysiad o gyfleoedd cynnig newydd sy’n cyfateb i’r categorïau busnes sydd o ddiddordeb i chi.
Oes gennych chi syniad am gonsesiwn masnachu?
Os hoffech fynegi eich diddordeb mewn dilyn consesiwn masnachu newydd mewn safle arbennig yn Sir Benfro bydd angen i chi lenwi’r Ffurflen Gais Consesiwen
Cysylltiadau allweddol
I gael rhagor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol gydag un o’n swyddogion, ffoniwch 01437 764551 a gofynnwch am gael siarad â swyddog ynghylch cyfleoedd consesiynau masnachu neu e-bostiwch procurement@pembrokeshire.gov.uk gan roi manylion beth fyddech yn hoffi’i drafod ynghyd â’ch manylion cysylltu.