Cyngor a Chefnogaeth i Fusnesau
Cynrychiolydd Cynllun Kickstart
Mae Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i gyflogwyr i greu lleoliadau gwaith ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed. I gefnogi busnesau a sefydliadau yn Sir Benfro i gael mynediad at gynllun Kickstart, bydd Cyngor Sir Penfro yn dod yn gynrychiolydd ar gyfer y cynllun. Fel cynrychiolydd, byddwn yn cydweithio gyda chi i sicrhau’r gofyniad lleiaf o 30 cyfle gwaith ar gyfer pob cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Bydd Cyngor Sir Penfro, fel cynrychiolydd ar gyfer Cynllun Kickstart, yn:
- eich cefnogi chi i greu cyfleoedd gwaith i bobl ifanc sy'n cwrdd â gofynion Cynllun Kickstart
- sicrhau bod eich cyfle am swydd yn gymwys ar gyfer y cynllun a chyflwyno cais i DWP
- gweithio gyda chi i'ch helpu chi i ddarparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan DWP i hawlio taliadau o'r cynllun yn llwyddiannus
- hawlio cyllid y cynllun gan DWP a'i drosglwyddo i chi fel y cyflogwr am gyfle gwaith Kickstart.
Yn ogystal, gall Cyngor Sir Penfro gynnig gwasanaethau i'ch helpu chi i fodloni gofynion cymorth gwaith a hyfforddiant y cynllun.
Os ydych chi'n creu cyfleoedd i berson ifanc ag anabledd neu gyflwr iechyd, gallwn eich cyfeirio at gyngor ar sut y gall y cynllun Mynediad i'r Gwaith eich cefnogi chi hefyd.
Beth yw cynllun Kickstart?
Gyda chynllun Kickstart, gallwch greu lleoliadau gwaith chwe mis ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o ddiweithdra tymor hir.
Dylai'r lleoliadau gwaith rydych chi'n eu creu annog gweithwyr i ddatblygu sgiliau a phrofiad a fydd yn ddefnyddiol iddyn nhw yn y swyddi maen nhw'n eu cyflawni ar ôl y lleoliad gwaith.
Sut mae Cynllun Kickstart yn gweithio?
Bydd cyllid yn talu cant y cant o'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol am 25 awr yr wythnos ynghyd â chyfraniadau Yswiriant Gwladol cysylltiedig ag isafswm cyfraniadau cofrestru awtomatig y cyflogwr. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'r gwariant hwn i'w hawlio yn ôl o'r cynllun.
Mae swm o £1,500 y swydd hefyd ar gael ar gyfer costau sefydlu, cefnogaeth a hyfforddiant (bydd 7 taliad fesul cam, £1,500 ar ôl cadarnhau dechrau'r swydd, ad-daliad cyflog / costau cysylltiedig yn mis).
Fe gewch y cyllid os bydd eich cais yn llwyddiannus
Er nad yw'r cynllun ei hun yn brentisiaeth, gall pobl ifanc symud ymlaen i brentisiaeth (yn agor mewn tab newydd) ar unrhyw adeg yn ystod neu ar ôl eu lleoliad.
A ydw i'n gymwys?
Gall unrhyw fusnes neu sefydliad wneud cais am y cyllid, waeth beth a fo'i faint, cyhyd â bod y swyddi sy'n cael eu creu yn newydd.
Ni allant ddisodli swyddi gwag presennol neu rai sydd wedi'u cynllunio, ac ni allant beri i weithwyr neu gontractwyr presennol golli neu leihau eu cyflogaeth.
Rhaid i'r rolau rydych chi'n eu creu fod yn:
- leiafswm o 25 awr yr wythnos, am chwe mis
- talu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf ar gyfer eu grŵp oedran. Ers 1 Ebrill 2020 y gyfradd yw
- Cyfradd 21 - 24 oed: £8.20
- Cyfradd 18 - 20 oed: £6.45
- Cyfradd 17-18 oed: £4.55
Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2020 (yn agor mewn tab newydd)
- ni ddylai fynnu bod pobl yn ymgymryd â hyfforddiant helaeth cyn iddynt ddechrau'r lleoliad gwaith
- yn fwy na hynny, dylai pob cais amlinellu sut y bydd y lleoliad yn datblygu sgiliau a phrofiad y person ifanc, gan gynnwys:
- cefnogaeth i chwilio am waith tymor hir, gan gynnwys cyngor gyrfa a gosod nodau
- cefnogaeth gyda CV a pharatoadau cyfweliad
- cefnogaeth i'r person ifanc sydd â sgiliau sylfaenol, fel presenoldeb, cadw amser a gwaith tîm
- unwaith y bydd y lleoliad wedi'i greu, gall rhywun arall ei gymryd unwaith y bydd yr ymgeisydd cyntaf wedi cwblhau ei dymor chwe mis cyntaf.
Sut i wneud cais
Os ydych chi am roi cyfle trwy gynllun cynrychiolwyr Kickstart Cyngor Sir Penfro, gallwch gofrestru'ch diddordeb ar-lein: PCC Kickstart (yn agor mewn tab newydd)
Os oes angen help arnoch gyda'r broses, rhowch wybod i ni trwy gysylltu â ni trwy employability@pembrokeshire.gov.uk a bydd un o'n Swyddogion Cyswllt Busnes mewn cysylltiad i ddarparu cefnogaeth.
Pan fyddwch wedi cyflwyno'ch diddordeb ar gyfer y cynllun, byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau'r camau nesaf.
Yr hyn sydd angen i chi ei ddarparu ar gyfer y mynegiant o ddiddordeb
Bydd angen:
- Cyfeirnod Tŷ'r Cwmnïau neu rif y Comisiwn Elusennau (os yw'n berthnasol)
- cyfeiriad a manylion cyswllt eich sefydliad
- manylion y lleoliadau gwaith a'u lleoliad
- gwybodaeth ategol i ddangos bod y lleoliadau swyddi yn swyddi newydd ac yn cwrdd â meini prawf Cynllun Kickstart (yn agor mewn tab newydd)
- gwybodaeth am y gefnogaeth y gall y sefydliad ei rhoi i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd pobl ifanc
Os oes angen cymorth arnoch i ddeall neu fodloni gofynion y cynllun, cysylltwch â'n Swyddogion Cyswllt Busnes trwy e-bostio employability@pembrokeshire.gov.uk