Cyngor a Chefnogaeth i Fusnesau

Defnyddio'r Gymraeg yn Eich Busnes

Cynllun newydd gan Gomisiynydd y Gymraeg yw’r Cynnig Cymraeg (yn agor mewn tab newydd). Mae’n rhoi cydnabyddiaeth i gwmnïau ac elusennau sy’n gweithio’n ddwyieithog. Trwy weithio gyda Thîm Hybu’r Comisiynydd i greu Cynllun Datblygu’r Gymraeg, gall eich busnes chi fod yn gymwys i geisio am gydnabyddiaeth am eich Cynnig Cymraeg. Pwrpas y Cynnig Cymraeg yw ei gwneud hi’n glir i’r cyhoedd pa wasanaethau gallwch chi gynnig yn Gymraeg. Mae’n gyfle i chi ddangos i gleientiaid eu bod yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg ac yn barod i’w ddefnyddio. Mae’r Cynnig Cymraeg yn eich helpu i hyrwyddo’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael, ac i gynyddu’r defnydd ohonynt.

Sut mae’n gweithio?

  1. Y cam cyntaf yw cysylltu gyda Thîm Hybu’r Gymraeg am sgwrs ac i gwblhau hunan asesiad am eich defnydd o’r Gymraeg ar hyn o bryd.
  2. Wedyn, byddwn yn gweithio gyda chi i roi Cynllun Datblygu’r Gymraeg at ei gilydd; gosod targedau os oes angen cynyddu eich darpariaeth, a sicrhau bod pawb yn y cwmni yn ymwybodol o’r hyn chi’n ei gynnig.
  3. Unwaith bydd eich Cynllun yn barod, byddwn yn gweithio gyda chi i adnabod eich Cynnig Cymraeg: beth yw penawdau eich gwasanaethau Cymraeg?
  4. Cyflwyno i’r Comisiynydd am gymeradwyaeth swyddogol
  5. Dathlu a hyrwyddo’r ffaith eich bod wedi derbyn y Cynnig Cymraeg

Un sefydliad sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg yw Planed. Dywedodd Abi Marriott, "Mae’r Cynnig Cymraeg wedi cael effaith bositif ar ein gwaith ac ar ddatblygiad proffesiynol aelodau o’r tîm yn barod. Mae’n fuddiol iawn cael cynllun strwythuredig a thargedau cyraeddadwy i anelu tuag atynt."

Cysylltwch â’r Tîm Hybu am sgwrs: hybu@cyg-wlc.cymru

ID: 6930, adolygwyd 10/11/2023