Cyflwynir y grant hwn (hyd at uchafswm o £1,000) mewn ymateb i'r problemau a wynebir mewn canol trefi o ganlyniad i bandemig COVID-19. Nod y grant yw sicrhau bod canol ein trefi yn gweithio'n ddiogel er mwyn cefnogi hyfywedd hirdymor busnesau.
Mae'r cyllid hwn ar gael hyd at uchafswm cyfradd ymyrraeth o 80%, yn ôl-weithredol o 26 Mehefin 2020 i fusnesau canol trefi.
Dylai prosiectau arfaethedig ystyried y canlynol:
Rhaid i'r holl ddodrefn a chyfarpar fod yn unol â'r Canllaw Dylunio.
Gall ceisiadau gael eu hystyried lle bydd prosiectau’n derbyn caniatâd Diwylliant Caffi.
Gall fod cydymffurfio â Thrwyddedu Stryd, Anghenion Cynllunio a Chaniatâd Priffyrdd, lle bydd angen. Am wybodaeth a chyngor ebostiwch streetcare@pembrokeshire.gov.uk
Mae grantiau ar gael i fentrau annibynnol a bach a chanolig sy'n meddu ar drwydded caffi palmant. Os nad oes gennych drwydded, gallwch wneud cais yn yma
Mae canol trefi Hwlffordd, Dinbych-y-pysgod, Saundersfoot, Penfro, Doc Penfro, Tyddewi, Abergwaun ac Wdig, Aberdaugleddau, Arberth, Neyland, Trefdraeth, Crymych a Llandudoch yn gymwys ar gyfer y grant hwn. Cyfeiriwch at y mapiau trefi sydd wedi'u hatodi.
At hynny, rhaid i'ch busnes:
Caiff ceisiadau ôl-weithredol am grantiau eu hystyried cyhyd â bod yr eitemau/gwaith wedi'u harchebu ar 26 Mehefin neu ar ôl hynny, a'u bod yn cydymffurfio â'r gofynion addasrwydd.
Llwythwch i lawr y Ffurflen Gais Diwylliant Caffi a’i ebostio i Covid19businesssupport@pembrokeshire.gov.uk er mwyn gwneud cais.
Hysbysiad Preifatrwydd - Grant Diwylliant Caffi