Cyngor a Chefnogaeth i Fusnesau
Hyfforddiant Hylendid Bwyd
Gofynion Hyfforddiant Hylendid Bwyd
Mae'r rheoliad (CE) Rhif 852/2004 ar gyfer Hylendid Bwydydd yn mynnu bod pobl sy'n trin bwyd sy'n gweithio mewn busnes bwyd o dan oruchwyliaeth ac wedi eu cyfarwyddo ac/neu eu hyfforddi ar gyfer materion hylendid bwyd sy'n berthnasol i'w gwaith. Mae'n mynnu hefyd bod y rhai sy'n gyfrifol am ddatblygu gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd yn derbyn hyfforddiant digonol ar gyfer gweithredu egwyddorion HACCP*.
*(Yr Egwyddorion HACCP yw'r saith egwyddor y mae'r ddeddfwriaeth uchod yn eu mynnu sy'n angenrheidiol ar gyfer rheoli bwyd yn effeithiol a diogel).
Mae lefel yr hyfforddiant sydd ei angen ar weithiwr arbennig yn dibynnu ar ei ddyletswyddau. Er enghraifft, mae ar bobl sy'n ymwneud â pharatoi bwydydd agored risg uchel (e.e. pen-cogyddion, cogyddion, cynorthwywyr arlwyo, pobl sy'n gwneud brechdanau, ac ati) angen hyfforddiant ar lefel uwch na'r rhai sy'n gweini ar gwsmeriaid neu'n golchi llestri.
Mae enghreifftiau o gyrsiau gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd ar gael yn Hyfforddiant diogelwch bwyd | rhaglenni hyfforddi Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd