Cyngor a Chefnogaeth i Fusnesau
Menter Gymdeithasol a'r Trydydd Sector
Help i Fusnesau Cymdeithasol, Elusennau a Grwpiau Cymunedol
Cronfa Perchnogaeth Gymunedol (yn agor mewn tab newydd)
Mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol bellach ar agor.
Bydd y gronfa yn darparu cymorth ariannol i gymunedau ledled y DU iddynt gymryd perchnogaeth o asedau, amwynderau a chyfleusterau sydd mewn perygl o gael eu colli ond sydd o werth i bobl a'r ardal leol.
Bydd modd i gymunedau ceisio am hyd at £250,000 o arian cyfatebol i'w helpu i brynu, meddiannu neu adnewyddu asedau cymunedol ffisegol sydd mewn perygl, i'w rhedeg fel busnesau sydd dan berchnogaeth gymunedol.
Cronfa Cydnerthedd Chwaraeon (yn agor mewn tab newydd)
Bydd y gronfa hon yn cael ei defnyddio i gefnogi clybiau chwaraeon a rhwydweithiau partner sydd â rôl i sicrhau bod y genedl yn gallu parhau i fod yn egnïol a mwynhau’r manteision i iechyd a llesiant a ddaw yn sgîl chwaraeon.
Benthyciadau Carlam CGGC (yn agor mewn tab newydd)
Bydd benthyciadau’n cael eu teilwra i anghenion unigol pob ymgeisydd o ran swm, telerau a’r proffil ad-dalu. Maent yn dechrau â darn o bapur gwag – beth y mae ei angen arnoch? Beth sy’n gweddu orau i chi o ran telerau neu ad-daliadau? Mae’r broses ymgeisio’n finimol a bydd y mwyafrif o’r sefydliadau a gymeradwyir yn gweld arian yn eu cyfrifon banc o fewn 7 niwrnod i gyflwyno cais wedi’i gwblhau (yn amodol ar lofnodi’r ddogfennaeth yn brydlon).
Treth ar Damponau (yn agor mewn tab newydd)
Mae’r gronfa £15 miliwn wedi’i bwriadu ar gyfer sefydliadau elusennol, buddiannol a dyngarol ledled y DU i ariannu prosiectau sy’n dwyn budd uniongyrchol i fenywod a merched difreintiedig, sy’n mynd i’r afael â thrais ac sy’n cefnogi eu hiechyd meddwl a’u llesiant.
Cyllid ar gyfer gwasanaethau Cam-drin Domestig cenedlaethol (yn agor mewn tab newydd)
Mae’r Swyddfa Gartref bellach wedi cyhoeddi’r canllawiau mewn perthynas â chronfa £2 filiwn ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig. Bydd y gronfa wedi’i bwriadu ar gyfer:
- Sefydliadau sy’n darparu gwasanaeth cenedlaethol (h.y. sy’n gwasanaethu Cymru a/neu Loegr i gyd).
- Sefydliadau lle mae’r dioddefwyr a gynorthwyir wedi’u gwasgaru i raddau helaeth yn ddaearyddol dros ardal sawl Comisiynydd Heddlu a Throseddu, a/neu lle nad oes ardal un Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n fan sefydlog amlwg ar gyfer y mwyafrif o ddioddefwyr.
- Sefydliadau ymbarél neu ail haen.
- Sefydliadau sy’n gwneud gwaith meithrin capasiti, neu sy’n cynorthwyo sefydliadau eraill i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n cefnogi’r heddlu gyda’u hymateb i gam-drin domestig. Mae hefyd yn cynnwys y rhai sy’n cefnogi awdurdodau lleol neu gyrff statudol eraill
Gwasanaethau Cam-drin Domestig lleol (yn agor mewn tab newydd)
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi lansio rhan bellach o’r cyllid cam-drin domestig hefyd, sy’n cynnwys:
- £10 miliwn ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig sydd eisoes wedi’u comisiynu gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu; a
- £5 miliwn ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig nad ydynt wedi’u comisiynu ar hyn o bryd gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu
Gwasanaethau Cam-drin Rhywiol lleol (yn agor mewn tab newydd)
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi lansio’r canlynol bellach hefyd:
- £5 miliwn o gyllid ar gyfer gwasanaethau trais rhywiol, sy’n cynnwys sefydliadau sydd eisoes wedi’u comisiynu gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu a rhai nad ydynt wedi’u comisiynu ar hyn o bryd gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu; a
- Chronfa £5 miliwn ar wahân ar gyfer sefydliadau sydd eisoes yn cael eu hariannu trwy’r Gronfa Cymorth Trais a Cham-drin Rhywiol genedlaethol
Cynllun Cyllid Diogelwch ar gyfer Mannau Addoli (yn agor mewn tab newydd)
Mae Cynllun Cyllid Diogelwch Amddiffynnol y Swyddfa Gartref ar gyfer Mannau Addoli bellach ar agor i fannau addoli a chanolfannau cysylltiedig gan gymunedau ffydd ledled Cymru a Lloegr.
Sefydliad Screwfix (yn agor mewn tab newydd)
Mae Sefydliad Screwfix ar agor yn awr ar gyfer ceisiadau gan elusennau cofrestredig a sefydliadau nid-er-elw ledled y DU. I fod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr:
- Fod yn helpu’r rhai sydd mewn angen oherwydd caledi ariannol, salwch, trallod neu anfanteision eraill yn y DU.
- Bod yn chwilio am gyllid i gefnogi prosiectau sy’n ymwneud ag atgyweirio, cynnal a chadw, gwella neu adeiladu cartrefi, adeiladau cymunedol ac adeiladau eraill.
Mae grantiau hyd at £5,000 ar gael ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud ag atgyweirio, cynnal a chadw, gwella neu adeiladu cartrefi, adeiladau cymunedol ac adeiladau eraill mewn ardaloedd amddifadus neu ar gyfer y rhai sydd mewn angen. Gall hyn gynnwys atgyweirio adeiladau sydd wedi mynd â’u pen iddynt ac addurno cartrefi pobl sy’n byw ag afiechyd ac anabledd. Dylai prosiectau fod yn eco-gyfeillgar.
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy – Cefnogi Adfer Natura 2000 (yn agor mewn tab newydd)
Nod y Cynllun Rheoli Cynaliadwy – Cefnogi Adfer Natura 2000 yw cefnogi buddsoddiad cyfalaf ar raddfa’r dirwedd, gan gyflawni camau gweithredu i wella cyflwr safleoedd Natura 2000 ledled Cymru erbyn mis Mawrth 2021. Rhwydwaith o safleoedd bridio a gorffwys craidd ar gyfer rhywogaethau prin ac o dan fygythiad, a rhai mathau prin o gynefinoedd naturiol a warchodir drwy eu hawl eu hunain, yw Natura 2000. Sefydlwyd y cynllun yn sgîl pandemig y coronafeirws (COVID-19) sydd, ym marn Llywodraeth Cymru, wedi taflu goleuni ar werth natur a phwysigrwydd mynediad at yr amgylchedd naturiol i iechyd a llesiant.
Bydd isafswm y grant yn £10,000 a bydd yr uchafswm yn £4 miliwn. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i fwyafrif y cynigion fod yn yr ystod £50,000 - £500,000; fodd bynnag, nid yw hyn yn rhagwahardd ceisiadau ar gyfer prosiectau llai ag isafswm gwerth o £10,000 neu brosiectau lluosog cydweithredol mawr y tu hwnt i £500,000.