Cyngor a Chefnogaeth i Fusnesau

Sir Benfro yn paratoi ar gyfer Brexit

Mae Cyngor Sir Penfro yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sefydliadau eraill i baratoi ar gyfer ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.

Ein nod yw atal Brexit rhag effeithio ar wasanaethau'r Cyngor ac ar fusnesau a thrigolion Sir Benfro yn negyddol.

Rydym wrthi'n gwneud y canlynol:

  • Rydym wedi penodi swyddog a fydd yn cydlynu ymateb y Cyngor i Brexit;
  • Rydym wedi nodi Brexit fel risg gorfforaethol allweddol, ac rydym yn gweithio i feithrin y ddealltwriaeth orau bosibl o'r goblygiadau i'r Cyngor a Sir Benfro; 
  • Rydym yn monitro digwyddiadau cenedlaethol i ddeall amgylchiadau sy'n debygol o godi yn sgil Brexit, a defnyddio'r wybodaeth hon i ddatblygu a diweddaru Strategaeth Brexit Gorfforaethol a dogfennau strategol allweddol eraill megis y Cynllun Ariannol Tymor Canolig;
  • Rydym yn cydweithio â'n holl wasanaethau i ddeall goblygiadau Brexit ac i roi mesurau wrth gefn ar waith;
  • Rydym yn bartner yn Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed Powys sy'n paratoi atebion amlasiantaeth i'r heriau y gall Brexit eu hachosi;
  • Rydym yn cydweithio â grwpiau cenedlaethol sy'n cynllunio ar gyfer Brexit, er enghraifft ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud:

  • Rhannu gwybodaeth gywir a dibynadwy am Brexit â busnesau, cymunedau a phobl yn Sir Benfro, neu eu cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth;
  • Darparu gwybodaeth a chymorth i'n cyflogeion o aelod-wladwriaethau eraill yn yr UE y gall fod angen iddynt ddefnyddio'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE;
  • Sicrhau y caiff holl brosiectau'r Cyngor a ariennir gan yr UE eu cwblhau a'u dirwyn i ben yn unol â'r holl reoliadau cymwys;
  • Ystyried sut y gellir helpu meysydd o economi, cymdeithas neu amgylchedd Sir Benfro y gall Brexit effeithio arnynt yn anghymesur;
  • Cydweithio â phartïon eraill sydd â diddordeb er mwyn sicrhau bod cronfeydd rhanbarthol newydd ar gael a bod y rhaglenni i'w cyflawni yn addas ar gyfer anghenion a chyfleoedd Sir Benfro.

Cysylltu â ni

Brexit@pembrokeshire.gov.uk

Dolenni Defnyddiol

Noder: Nid yw Cyngor Sir Penfro yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

“Un Siop un Stop” Brexit – Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd)

 Llywodraeth y DU (yn agor mewn tab newydd)

Sefydliadau Eraill yn Ne-orllewin Cymru

Cyngor Sir Caerfyrddin (yn agor mewn tab newydd)

Cyngor Sir Ceredigion (yn agor mewn tab newydd)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (yn agor mewn tab newydd)

Statws Preswylydd Sefydlog yr UE

Dolenni nad ydynt yn ymwneud â'r llywodraeth (gweler y rhestr uchod o ddolenni Llywodraeth Cymru)

Citizens Advice (yn agor mewn tab newydd)

The 3 Million (yn agor mewn tab newydd)

 

ID: 5510, adolygwyd 10/11/2023