Cyngor a Chefnogaeth i Fusnesau

SPF Grantiau llai na 100k - Datblygu Busnes

Mae cyllid busnes Cyfalaf a Refeniw ar gael i fusnesau yn Sir Benfro o dan bedwar categori, Grant Twf Busnes, Grant Cychwyn Busnes, Grant Menter Ieuenctid a'r Grant Lleihau Carbon.

Bydd pob grant yn gyfraniad i'ch cynllun cyffredinol arfaethedig gyda'r ymgeisydd yn gorfod dod o hyd i isafswm o 50% fel arian cyfatebol o rywle arall.

Gweinyddir y broses ymgeisio am Grant Busnes gan y tîm Datblygu Busnes yn adran Datblygu Economaidd Awdurdodau Lleol.

Cliciwch ar y dolenni perthnasol i weld disgrifiad ac yn eligibly ar gyfer pob grant a gweld sut i wneud cais


Grant Twf Busnes [£500-£50,000]

Grant Cychwyn Busnes [£500-£10,000]

Grant Menter Ieuenctid [£250-£1,000]

Grant Lleihau Carbon [£1000-£25,000]

ID: 9843, revised 22/07/2024

Mewnforio ac Allforio Nwyddau: Model Gweithredur Ffin

Ar 1 Ionawr 2021 bydd y cyfnod pontio gyda’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben, a’r Deyrnas Unedig yn gweithredu ffin allanol, lawn fel cenedl sofran. Mae hyn yn golygu y bydd rheolaethau’n cael eu gosod ar symud nwyddau rhwng Prydain a’r UE.

Er mwyn rhoi mwy o amser i’r diwydiant wneud trefniadau angenrheidiol, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu cyflwyno’r rheolaethau ffin newydd mewn tri cham hyd at 1 Gorffennaf 2021.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllaw ar sut y bydd y ffin â’r Undeb Ewropeaidd yn gweithio ar ôl y cyfnod pontio (yn agor mewn tab newydd)

 

ID: 7022, adolygwyd 10/11/2023

Cynrychiolydd Cynllun Kickstart

Mae Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i gyflogwyr i greu lleoliadau gwaith ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed. I gefnogi busnesau a sefydliadau yn Sir Benfro i gael mynediad at gynllun Kickstart, bydd Cyngor Sir Penfro yn dod yn gynrychiolydd ar gyfer y cynllun. Fel cynrychiolydd, byddwn yn cydweithio gyda chi i sicrhau’r gofyniad lleiaf o 30 cyfle gwaith ar gyfer pob cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Bydd Cyngor Sir Penfro, fel cynrychiolydd ar gyfer Cynllun Kickstart, yn:

  • eich cefnogi chi i greu cyfleoedd gwaith i bobl ifanc sy'n cwrdd â gofynion Cynllun Kickstart
  • sicrhau bod eich cyfle am swydd yn gymwys ar gyfer y cynllun a chyflwyno cais i DWP
  • gweithio gyda chi i'ch helpu chi i ddarparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan DWP i hawlio taliadau o'r cynllun yn llwyddiannus
  • hawlio cyllid y cynllun gan DWP a'i drosglwyddo i chi fel y cyflogwr am gyfle gwaith Kickstart.

Yn ogystal, gall Cyngor Sir Penfro gynnig gwasanaethau i'ch helpu chi i fodloni gofynion cymorth gwaith a hyfforddiant y cynllun.

Os ydych chi'n creu cyfleoedd i berson ifanc ag anabledd neu gyflwr iechyd, gallwn eich cyfeirio at gyngor ar sut y gall y cynllun Mynediad i'r Gwaith eich cefnogi chi hefyd.

Beth yw cynllun Kickstart?

Gyda chynllun Kickstart, gallwch greu lleoliadau gwaith chwe mis ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o ddiweithdra tymor hir.

Dylai'r lleoliadau gwaith rydych chi'n eu creu annog gweithwyr i ddatblygu sgiliau a phrofiad a fydd yn ddefnyddiol iddyn nhw yn y swyddi maen nhw'n eu cyflawni ar ôl y lleoliad gwaith.

Sut mae Cynllun Kickstart yn gweithio?

Bydd cyllid yn talu cant y cant o'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol am 25 awr yr wythnos ynghyd â chyfraniadau Yswiriant Gwladol cysylltiedig ag isafswm cyfraniadau cofrestru awtomatig y cyflogwr. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'r gwariant hwn i'w hawlio yn ôl o'r cynllun.

Mae swm o £1,500 y swydd hefyd ar gael ar gyfer costau sefydlu, cefnogaeth a hyfforddiant (bydd 7 taliad fesul cam, £1,500 ar ôl cadarnhau dechrau'r swydd, ad-daliad cyflog / costau cysylltiedig yn mis).

Fe gewch y cyllid os bydd eich cais yn llwyddiannus

Er nad yw'r cynllun ei hun yn brentisiaeth, gall pobl ifanc symud ymlaen i brentisiaeth (yn agor mewn tab newydd) ar unrhyw adeg yn ystod neu ar ôl eu lleoliad.

A ydw i'n gymwys?

Gall unrhyw fusnes neu sefydliad wneud cais am y cyllid, waeth beth a fo'i faint, cyhyd â bod y swyddi sy'n cael eu creu yn newydd.

Ni allant ddisodli swyddi gwag presennol neu rai sydd wedi'u cynllunio, ac ni allant beri i weithwyr neu gontractwyr presennol golli neu leihau eu cyflogaeth.

Rhaid i'r rolau rydych chi'n eu creu fod yn:

  • leiafswm o 25 awr yr wythnos, am chwe mis
  • talu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf ar gyfer eu grŵp oedran. Ers 1 Ebrill 2020 y gyfradd yw
    • Cyfradd 21 - 24 oed: £8.20
    • Cyfradd 18 - 20 oed: £6.45
    • Cyfradd 17-18 oed: £4.55

Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2020 (yn agor mewn tab newydd)                                      

  • ni ddylai fynnu bod pobl yn ymgymryd â hyfforddiant helaeth cyn iddynt ddechrau'r lleoliad gwaith
  • yn fwy na hynny, dylai pob cais amlinellu sut y bydd y lleoliad yn datblygu sgiliau a phrofiad y person ifanc, gan gynnwys:
  • cefnogaeth i chwilio am waith tymor hir, gan gynnwys cyngor gyrfa a gosod nodau
  • cefnogaeth gyda CV a pharatoadau cyfweliad
  • cefnogaeth i'r person ifanc sydd â sgiliau sylfaenol, fel presenoldeb, cadw amser a gwaith tîm
  • unwaith y bydd y lleoliad wedi'i greu, gall rhywun arall ei gymryd unwaith y bydd yr ymgeisydd cyntaf wedi cwblhau ei dymor chwe mis cyntaf.

Sut i wneud cais

Os ydych chi am roi cyfle trwy gynllun cynrychiolwyr Kickstart Cyngor Sir Penfro, gallwch gofrestru'ch diddordeb ar-lein: PCC Kickstart (yn agor mewn tab newydd)

Os oes angen help arnoch gyda'r broses, rhowch wybod i ni trwy gysylltu â ni trwy employability@pembrokeshire.gov.uk a bydd un o'n Swyddogion Cyswllt Busnes mewn cysylltiad i ddarparu cefnogaeth.

Pan fyddwch wedi cyflwyno'ch diddordeb ar gyfer y cynllun, byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau'r camau nesaf.

Yr hyn sydd angen i chi ei ddarparu ar gyfer y mynegiant o ddiddordeb

Bydd angen:

  • Cyfeirnod Tŷ'r Cwmnïau neu rif y Comisiwn Elusennau (os yw'n berthnasol)
  • cyfeiriad a manylion cyswllt eich sefydliad
  • manylion y lleoliadau gwaith a'u lleoliad
  • gwybodaeth ategol i ddangos bod y lleoliadau swyddi yn swyddi newydd ac yn cwrdd â meini prawf Cynllun Kickstart (yn agor mewn tab newydd)
  • gwybodaeth am y gefnogaeth y gall y sefydliad ei rhoi i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd pobl ifanc

Os oes angen cymorth arnoch i ddeall neu fodloni gofynion y cynllun, cysylltwch â'n Swyddogion Cyswllt Busnes trwy e-bostio employability@pembrokeshire.gov.uk

 

 

 

 

ID: 6964, adolygwyd 10/11/2023

Defnyddio'r Gymraeg yn Eich Busnes

Cynllun newydd gan Gomisiynydd y Gymraeg yw’r Cynnig Cymraeg (yn agor mewn tab newydd). Mae’n rhoi cydnabyddiaeth i gwmnïau ac elusennau sy’n gweithio’n ddwyieithog. Trwy weithio gyda Thîm Hybu’r Comisiynydd i greu Cynllun Datblygu’r Gymraeg, gall eich busnes chi fod yn gymwys i geisio am gydnabyddiaeth am eich Cynnig Cymraeg. Pwrpas y Cynnig Cymraeg yw ei gwneud hi’n glir i’r cyhoedd pa wasanaethau gallwch chi gynnig yn Gymraeg. Mae’n gyfle i chi ddangos i gleientiaid eu bod yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg ac yn barod i’w ddefnyddio. Mae’r Cynnig Cymraeg yn eich helpu i hyrwyddo’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael, ac i gynyddu’r defnydd ohonynt.

Sut mae’n gweithio?

  1. Y cam cyntaf yw cysylltu gyda Thîm Hybu’r Gymraeg am sgwrs ac i gwblhau hunan asesiad am eich defnydd o’r Gymraeg ar hyn o bryd.
  2. Wedyn, byddwn yn gweithio gyda chi i roi Cynllun Datblygu’r Gymraeg at ei gilydd; gosod targedau os oes angen cynyddu eich darpariaeth, a sicrhau bod pawb yn y cwmni yn ymwybodol o’r hyn chi’n ei gynnig.
  3. Unwaith bydd eich Cynllun yn barod, byddwn yn gweithio gyda chi i adnabod eich Cynnig Cymraeg: beth yw penawdau eich gwasanaethau Cymraeg?
  4. Cyflwyno i’r Comisiynydd am gymeradwyaeth swyddogol
  5. Dathlu a hyrwyddo’r ffaith eich bod wedi derbyn y Cynnig Cymraeg

Un sefydliad sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg yw Planed. Dywedodd Abi Marriott, "Mae’r Cynnig Cymraeg wedi cael effaith bositif ar ein gwaith ac ar ddatblygiad proffesiynol aelodau o’r tîm yn barod. Mae’n fuddiol iawn cael cynllun strwythuredig a thargedau cyraeddadwy i anelu tuag atynt."

Cysylltwch â’r Tîm Hybu am sgwrs: hybu@cyg-wlc.cymru

ID: 6930, adolygwyd 10/11/2023

Sir Benfro yn paratoi ar gyfer Brexit

Mae Cyngor Sir Penfro yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sefydliadau eraill i baratoi ar gyfer ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.

Ein nod yw atal Brexit rhag effeithio ar wasanaethau'r Cyngor ac ar fusnesau a thrigolion Sir Benfro yn negyddol.

Rydym wrthi'n gwneud y canlynol:

  • Rydym wedi penodi swyddog a fydd yn cydlynu ymateb y Cyngor i Brexit;
  • Rydym wedi nodi Brexit fel risg gorfforaethol allweddol, ac rydym yn gweithio i feithrin y ddealltwriaeth orau bosibl o'r goblygiadau i'r Cyngor a Sir Benfro; 
  • Rydym yn monitro digwyddiadau cenedlaethol i ddeall amgylchiadau sy'n debygol o godi yn sgil Brexit, a defnyddio'r wybodaeth hon i ddatblygu a diweddaru Strategaeth Brexit Gorfforaethol a dogfennau strategol allweddol eraill megis y Cynllun Ariannol Tymor Canolig;
  • Rydym yn cydweithio â'n holl wasanaethau i ddeall goblygiadau Brexit ac i roi mesurau wrth gefn ar waith;
  • Rydym yn bartner yn Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed Powys sy'n paratoi atebion amlasiantaeth i'r heriau y gall Brexit eu hachosi;
  • Rydym yn cydweithio â grwpiau cenedlaethol sy'n cynllunio ar gyfer Brexit, er enghraifft ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud:

  • Rhannu gwybodaeth gywir a dibynadwy am Brexit â busnesau, cymunedau a phobl yn Sir Benfro, neu eu cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth;
  • Darparu gwybodaeth a chymorth i'n cyflogeion o aelod-wladwriaethau eraill yn yr UE y gall fod angen iddynt ddefnyddio'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE;
  • Sicrhau y caiff holl brosiectau'r Cyngor a ariennir gan yr UE eu cwblhau a'u dirwyn i ben yn unol â'r holl reoliadau cymwys;
  • Ystyried sut y gellir helpu meysydd o economi, cymdeithas neu amgylchedd Sir Benfro y gall Brexit effeithio arnynt yn anghymesur;
  • Cydweithio â phartïon eraill sydd â diddordeb er mwyn sicrhau bod cronfeydd rhanbarthol newydd ar gael a bod y rhaglenni i'w cyflawni yn addas ar gyfer anghenion a chyfleoedd Sir Benfro.

Cysylltu â ni

Brexit@pembrokeshire.gov.uk

Dolenni Defnyddiol

Noder: Nid yw Cyngor Sir Penfro yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

“Un Siop un Stop” Brexit – Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd)

 Llywodraeth y DU (yn agor mewn tab newydd)

Sefydliadau Eraill yn Ne-orllewin Cymru

Cyngor Sir Caerfyrddin (yn agor mewn tab newydd)

Cyngor Sir Ceredigion (yn agor mewn tab newydd)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (yn agor mewn tab newydd)

Statws Preswylydd Sefydlog yr UE

Dolenni nad ydynt yn ymwneud â'r llywodraeth (gweler y rhestr uchod o ddolenni Llywodraeth Cymru)

Citizens Advice (yn agor mewn tab newydd)

The 3 Million (yn agor mewn tab newydd)

 

ID: 5510, adolygwyd 10/11/2023

Cyfleoedd Consesiynau Masnachu

Trosolwg

Mae Sir Benfro’n ardal o harddwch eithriadol sy’n cynnwys traethau gwobrwyol, cestyll, safleoedd hynafol a pharc cenedlaethol arfordirol. Mae’r gefnlen drawiadol hon yn cynnig cyfleoedd cyffrous i fentrwyr a busnesau lleol ddatblygu cyfleoedd masnachu.

Rydym yn cynnig nifer o gyfleoedd consesiynau masnachu ledled y Sir ac mae’n croesawu ceisiadau amdanynt. Rydym hefyd yn croesawu mynegiadau o ddiddordeb mewn datblygu cyfleoedd consesiynau newydd.

Consesiynau sy’n cael eu cynnig

Math o gontract yw consesiynau masnachu rhwng awdurdodau / endidau contractio a chyflenwyr.

Enghreifftiau o gonsesiynau masnachu cyfredol yw:

  • consesiwn hufen iâ ar safle traeth: yn gwerthu hufen iâ o fan / uned
  • consesiwn caffi: caffi’n cael ei redeg o adeilad y Cyngor fel llyfrgell neu ganolfan hamdden

Ble caiff cyfleoedd consesiynau eu hysbysebu?

Caiff cyfleoedd consesiynau eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd) Sefydlwyd y wefan hon gan Lywodraeth Cymru gyda’r bwriad o helpu busnesau gael hyd i gontractau sy’n cael eu cynnig gan y sector cyhoeddus ledled Cymru.

Mae tudalen 'chwilio am gontractau' yn rhoi ffordd syml i’ch busnes gael hyd i gyfleoedd i ddarparu nwyddau, gwaith neu wasanaethau i’r sector cyhoeddus. Gallwch chwilio trwy ddefnyddio geiriau allweddol, yn ôl lleoliad, neu drwy rybuddion (cyfleoedd cyfredol, cyfleoedd yn y dyfodol neu ganlyniadau contractau). Gallech chwilio, er enghraifft, trwy ddefnyddio dim ond y gair allweddol 'Consesiwn'. Fel arall, gallech chwilio yn ôl y gair allweddol 'Consesiwn' a dewis ymhle i chwilio, fel 'De-orllewin Cymru', i weld pa fathau o gyfleoedd consesiynau sydd yn y fan honno.

Os oes gennych ddiddordeb mewn contract consesiwn arbennig sy’n cael ei hysbysu, yna bydd angen i chi gyflwyno’r wybodaeth y gofynnir amdani erbyn y dyddiad cau.

Pryd gaiff cyfleoedd consesiynau eu hysbysebu?

Bydd hyn yn dibynnu ar y math o gyfle consesiwn. Mae rhai contractau consesiynau’n dymhorol ac yn gweithredu yn ystod cyfnodau prysurach y flwyddyn, mae rhai’n flynyddol ac fe all rhai gael eu dyfarnu am nifer o flynyddoedd. Yn nodweddiadol, caiff contractau eu hysbysu o leiaf fis cyn iddynt ddechrau. Mae cyfleuster ar Gwerthwchigymru (yn agor mewn tab newydd) i gael hysbysiad o gyfleoedd cynnig newydd sy’n cyfateb i’r categorïau busnes sydd o ddiddordeb i chi.

Oes gennych chi syniad am gonsesiwn masnachu?

Os hoffech fynegi eich diddordeb mewn dilyn consesiwn masnachu newydd mewn safle arbennig yn Sir Benfro bydd angen i chi lenwi’r Ffurflen Gais Consesiwen

Cysylltiadau allweddol

I gael rhagor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol gydag un o’n swyddogion, ffoniwch 01437 764551 a gofynnwch am gael siarad â swyddog ynghylch cyfleoedd consesiynau masnachu neu e-bostiwch procurement@pembrokeshire.gov.uk gan roi manylion beth fyddech yn hoffi’i drafod ynghyd â’ch manylion cysylltu.

 

ID: 5098, adolygwyd 20/06/2024

Menter Gymdeithasol a'r Trydydd Sector

Help i Fusnesau Cymdeithasol, Elusennau a Grwpiau Cymunedol

Cronfa Perchnogaeth Gymunedol (yn agor mewn tab newydd)

Mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol bellach ar agor. 

Bydd y gronfa yn darparu cymorth ariannol i gymunedau ledled y DU iddynt gymryd perchnogaeth o asedau, amwynderau a chyfleusterau sydd mewn perygl o gael eu colli ond sydd o werth i bobl a'r ardal leol.

Bydd modd i gymunedau ceisio am hyd at £250,000 o arian cyfatebol i'w helpu i brynu, meddiannu neu adnewyddu asedau cymunedol ffisegol sydd mewn perygl, i'w rhedeg fel busnesau sydd dan berchnogaeth gymunedol.

Cronfa Cydnerthedd Chwaraeon (yn agor mewn tab newydd)

Bydd y gronfa hon yn cael ei defnyddio i gefnogi clybiau chwaraeon a rhwydweithiau partner sydd â rôl i sicrhau bod y genedl yn gallu parhau i fod yn egnïol a mwynhau’r manteision i iechyd a llesiant a ddaw yn sgîl chwaraeon. 

Benthyciadau Carlam CGGC (yn agor mewn tab newydd)

Bydd benthyciadau’n cael eu teilwra i anghenion unigol pob ymgeisydd o ran swm, telerau a’r proffil ad-dalu. Maent yn dechrau â darn o bapur gwag – beth y mae ei angen arnoch? Beth sy’n gweddu orau i chi o ran telerau neu ad-daliadau? Mae’r broses ymgeisio’n finimol a bydd y mwyafrif o’r sefydliadau a gymeradwyir yn gweld arian yn eu cyfrifon banc o fewn 7 niwrnod i gyflwyno cais wedi’i gwblhau (yn amodol ar lofnodi’r ddogfennaeth yn brydlon).  

Treth ar Damponau (yn agor mewn tab newydd)

Mae’r gronfa £15 miliwn wedi’i bwriadu ar gyfer sefydliadau elusennol, buddiannol a dyngarol ledled y DU i ariannu prosiectau sy’n dwyn budd uniongyrchol i fenywod a merched difreintiedig, sy’n mynd i’r afael â thrais ac sy’n cefnogi eu hiechyd meddwl a’u llesiant.

Cyllid ar gyfer gwasanaethau Cam-drin Domestig cenedlaethol (yn agor mewn tab newydd)

Mae’r Swyddfa Gartref bellach wedi cyhoeddi’r canllawiau mewn perthynas â chronfa £2 filiwn ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig. Bydd y gronfa wedi’i bwriadu ar gyfer:

  • Sefydliadau sy’n darparu gwasanaeth cenedlaethol (h.y. sy’n gwasanaethu Cymru a/neu Loegr i gyd).
  • Sefydliadau lle mae’r dioddefwyr a gynorthwyir wedi’u gwasgaru i raddau helaeth yn ddaearyddol dros ardal sawl Comisiynydd Heddlu a Throseddu, a/neu lle nad oes ardal un Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n fan sefydlog amlwg ar gyfer y mwyafrif o ddioddefwyr.
  • Sefydliadau ymbarél neu ail haen.
  • Sefydliadau sy’n gwneud gwaith meithrin capasiti, neu sy’n cynorthwyo sefydliadau eraill i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n cefnogi’r heddlu gyda’u hymateb i gam-drin domestig. Mae hefyd yn cynnwys y rhai sy’n cefnogi awdurdodau lleol neu gyrff statudol eraill

Gwasanaethau Cam-drin Domestig lleol (yn agor mewn tab newydd)

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi lansio rhan bellach o’r cyllid cam-drin domestig hefyd, sy’n cynnwys:

  • £10 miliwn ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig sydd eisoes wedi’u comisiynu gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu; a
  • £5 miliwn ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig nad ydynt wedi’u comisiynu ar hyn o bryd gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu

Gwasanaethau Cam-drin Rhywiol lleol (yn agor mewn tab newydd)

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi lansio’r canlynol bellach hefyd:

  • £5 miliwn o gyllid ar gyfer gwasanaethau trais rhywiol, sy’n cynnwys sefydliadau sydd eisoes wedi’u comisiynu gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu a rhai nad ydynt wedi’u comisiynu ar hyn o bryd gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu; a
  • Chronfa £5 miliwn ar wahân ar gyfer sefydliadau sydd eisoes yn cael eu hariannu trwy’r Gronfa Cymorth Trais a Cham-drin Rhywiol genedlaethol 

Cynllun Cyllid Diogelwch ar gyfer Mannau Addoli (yn agor mewn tab newydd)

Mae Cynllun Cyllid Diogelwch Amddiffynnol y Swyddfa Gartref ar gyfer Mannau Addoli bellach ar agor i fannau addoli a chanolfannau cysylltiedig gan gymunedau ffydd ledled Cymru a Lloegr. 

Sefydliad Screwfix (yn agor mewn tab newydd)

Mae Sefydliad Screwfix ar agor yn awr ar gyfer ceisiadau gan elusennau cofrestredig a sefydliadau nid-er-elw ledled y DU. I fod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr:

  • Fod yn helpu’r rhai sydd mewn angen oherwydd caledi ariannol, salwch, trallod neu anfanteision eraill yn y DU.
  • Bod yn chwilio am gyllid i gefnogi prosiectau sy’n ymwneud ag atgyweirio, cynnal a chadw, gwella neu adeiladu cartrefi, adeiladau cymunedol ac adeiladau eraill.

Mae grantiau hyd at £5,000 ar gael ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud ag atgyweirio, cynnal a chadw, gwella neu adeiladu cartrefi, adeiladau cymunedol ac adeiladau eraill mewn ardaloedd amddifadus neu ar gyfer y rhai sydd mewn angen. Gall hyn gynnwys atgyweirio adeiladau sydd wedi mynd â’u pen iddynt ac addurno cartrefi pobl sy’n byw ag afiechyd ac anabledd. Dylai prosiectau fod yn eco-gyfeillgar.

Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy – Cefnogi Adfer Natura 2000 (yn agor mewn tab newydd)

Nod y Cynllun Rheoli Cynaliadwy – Cefnogi Adfer Natura 2000 yw cefnogi buddsoddiad cyfalaf ar raddfa’r dirwedd, gan gyflawni camau gweithredu i wella cyflwr safleoedd Natura 2000 ledled Cymru erbyn mis Mawrth 2021. Rhwydwaith o safleoedd bridio a gorffwys craidd ar gyfer rhywogaethau prin ac o dan fygythiad, a rhai mathau prin o gynefinoedd naturiol a warchodir drwy eu hawl eu hunain, yw Natura 2000. Sefydlwyd y cynllun yn sgîl pandemig y coronafeirws (COVID-19) sydd, ym marn Llywodraeth Cymru, wedi taflu goleuni ar werth natur a phwysigrwydd mynediad at yr amgylchedd naturiol i iechyd a llesiant.

Bydd isafswm y grant yn £10,000 a bydd yr uchafswm yn £4 miliwn. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i fwyafrif y cynigion fod yn yr ystod £50,000 - £500,000; fodd bynnag, nid yw hyn yn rhagwahardd ceisiadau ar gyfer prosiectau llai ag isafswm gwerth o £10,000 neu brosiectau lluosog cydweithredol mawr y tu hwnt i £500,000.

 

ID: 493, adolygwyd 22/11/2023

Cyngor a chymorth ar gyfer eich busnes

Mae llawer o fentrau bach a chanolig eu maint yn Sir Benfro.  Mae amrywiaeth fawr o fusnesau gyda ni yn y sir, yn amrywio o'n sectorau traddodiadol sef twristiaeth ac amaeth i fusnesau ynni a pheirianneg a busnesau creadigol, cyfryngau a gweithgynhyrchu ar ben hynny.  

Mae tîm cymorth busnes y Cyngor yn gweithio i gynnig cyngor a chymorth o safon uchel i fusnesau, unigolion a sefydliadau eraill.    

Ei nod yw meithrin diwylliant o fenter a mentergarwch llwyddiannus yn economi Sir Benfro.   

Darperir cymorth wedi ei dargedu ar gyfer busnesau penodol er mwyn helpu i ddatblygu prosiectau hyfyw a chreu swyddi.  

Cysylltwch â'r tîm cymorth busnes ar  01437 776167 / 776166 am ragor o wybodaeth.

BusinessSupport@pembrokeshire.gov.uk

Digwyddiad Galw Heibio i Fusnesau

Mae Cyngor Sir Penfro ar y cyd â Grŵp Rhyngweithio Busnes Bwrdd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau, Busnes Cymru ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol cymorth busnes yn falch o gyhoeddi bod y digwyddiadau galw heibio misol ar gyfer busnesau yn dychwelyd i Ganolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro ar y dyddiadau canlynol rhwng 8am a 12pm i ateb eich holl gwestiynau ac ymholiadau:

Does dim angen apwyntiad – galwch heibio!

Ymhlith y sefydliadau a wahoddwyd I fynychu mae:

  • Busnes Cymru
  • Tîm Arloesi Llywodraeth Cymru        
  • Cyngor Sir Penfro
  • Busnes mewn Ffocws
  • Landsker Business Solutions 
  • CEMET
  • Loteri Sir Benfro
  • Cyflymu Cymru i Fusnesau    
  • CWMPAS
  • Gwaith yn yr Arfaeth 
  • Gweithffyrdd
  • Banc Datblygu Cymru
  • FSB     
  • Canolfan Byd Gwaith 
  • Croeso Sir Benfro

Gall y sefydliadau sy'n mynychu amrywio o fis i fis. Os hoffech siarad â rhywun yn benodol, rhowch wybod i ni ymlaen llaw drwy anfon e-bost i BusinessSupport@Pembrokeshire.gov.uk

Cyngor cyffredinol

Busnes Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Cyngor ar gyfer Cychwyn Arni

Dechrau Busnes - Busnes Cymru (yn agor mewn tab newydd)

CThEM - Dechrau eich busnes eich hun - pecyn e-ddysgu (cyngor ynghylch materion trethi ac Yswiriant Gwladol)

HMRC ELearning StartUp (yn agor mewn tab newydd)

Datblygu Bwyd

Mae'r Tîm Datblygu Bwyd yn darparu cymorth i'r sector bwyd-amaeth a gall hefyd roi cyngor ynghylch cyfleoedd marchnata a'r gadwyn gyflenwi ar gyfer busnesau ym maes manwerthu, gwerthiant uniongyrchol a lletygarwch.

Mae'r tîm yn cydweithio â phartneriaid mewn diwydiant, ac mae e hefyd yn adnodd ar gyfer y cyhoedd a'r fasnach, fel ei gilydd, mewn perthynas â bwyd a diod. Mae ei weithgareddau'n cynnwys:

  • Trefnu Wythnos Bysgod Sir Benfro
  • Trefnu digwyddiadau busnes i fusnes ac i ddefnyddwyr
  • Trefnu digwyddiad blynyddol Ei dyfu, Ei goginio, Ei fwyta gydag ysgolion
  • Cefnogi gwyliau bwyd lleol
  • Llunio cyfeiriadur bob dwy flynedd ynghylch y fasnach bwyd a diod
  • Rheoli'r canllaw blynyddol ynghylch bwyd twristiaeth (ar-lein a chopi caled)
  • Rheoli cynllun adnabod Nod Cynnyrch Sir Benfro
  • Rheoli Marchnad Ffermwyr Hwlffordd

Bwyd a Diod

Arloesi

Canolfan Arloesedd y Bont  

Menter Ieuenctid

Camau Bach at Fenter (yn agor mewn tab newydd)

 

SPF Grantiau llai na 100k - Datblygu Busnes

Mae cyllid busnes Cyfalaf a Refeniw ar gael i fusnesau yn Sir Benfro o dan bedwar categori, Grant Twf Busnes, Grant Cychwyn Busnes, Grant Menter Ieuenctid a'r Grant Lleihau Carbon.

Bydd pob grant yn gyfraniad i'ch cynllun cyffredinol arfaethedig gyda'r ymgeisydd yn gorfod dod o hyd i isafswm o 50% fel arian cyfatebol o rywle arall.

Gweinyddir y broses ymgeisio am Grant Busnes gan y tîm Datblygu Busnes yn adran Datblygu Economaidd Awdurdodau Lleol.

Cliciwch ar y dolenni perthnasol i weld disgrifiad ac yn eligibly ar gyfer pob grant a gweld sut i wneud cais


Grant Twf Busnes [£500-£50,000]

Grant Cychwyn Busnes [£500-£10,000]

Grant Menter Ieuenctid £250-£1,000]

Grant Lleihau Carbon [£1000-£25,000]

 

 

ID: 472, adolygwyd 22/11/2023

Sir Benfro mewn Busnes

Mae llawer o fentrau bach a chanolig eu maint yn Sir Benfro. Mae amrywiaeth fawr o fusnesau gyda ni yn y sir, yn amrywio o'n sectorau traddodiadol sef twristiaeth ac amaeth i fusnesau ynni a pheirianneg a busnesau creadigol, cyfryngau a gweithgynhyrchu ar ben hynny.

Mae tîm cymorth busnes y Cyngor yn gweithio i gynnig cyngor a chymorth o safon uchel i fusnesau, unigolion a sefydliadau eraill.

Ei nod yw meithrin diwylliant o fenter a mentergarwch llwyddiannus yn economi Sir Benfro. 

Ynni Morol Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd)

Sefydlwyd Ynni Morol Sir Benfro i roi gwybodaeth a hybu Sir Benfro fel Canolbwynt Ynni Adnewyddadwy o’r Môr. Bydd y wefan hon yn dod yn “siop un alwad” i ddatblygwyr, buddsoddwyr a’r cyhoedd sydd eisiau gwybod mwy am y prosiectau, yr adnodd, cydsynio, cyllido, ymchwil a seilwaith.  

Dinas-ranbarth Bae Abertawe (yn agor mewn tab newydd)

Mae Dinas-ranbarth Bae Abertawe’n cwmpasu tiriogaeth pedwar awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gâr a Sir Benfro. 

Ardal Menter Dyfrffordd y Daugleddau (yn agor mewn tab newydd)

Ardaloedd daearyddol sy'n cefnogi busnesau newydd a busnesau sy'n ehangu drwy ddarparu seilwaith a chymhellion o'r radd flaenaf i fusnesau yw Ardaloedd Menter.

 

ID: 471, adolygwyd 22/11/2023

Cymorth ariannol i'ch busnes

Mae dod o hyd i gymorth ariannol i ddechrau a thyfu eich busnes yn anodd bob amser. Mae llawer o wahanol fathau o gyllid addas i'ch busnes a'ch prosiect. Yn wir, gallai cyfuniadau o ddewisiadau fod yn well nag unrhyw ffynhonnell ar ei phen ei hun.   

Mae nifer o gwestiynau y bydd rhaid i chi eu hystyried cyn y byddwch yn gallu ystyried pa ffynhonnell o arian sy'n iawn i'ch busnes chi. Faint sydd ei angen arnoch, i ba bwrpas ac am ba hyd, yn ogystal â'r sicrwydd sydd gennych i'w gynnig a phrofiad y busnes a'r rheolwyr - bydd hyn oll yn berthnasol i bwy sy'n fodlon buddsoddi ynddoch chi.  

Cyn i chi ystyried mynd at arianwyr, mae adolygu a diweddaru eich cynllun busnes yn syniad da. 

Yn Sir Benfro, rydym wedi gweithio gyda'n gilydd gyda nifer o sefydliadau i ddarparu dewisiadau cymorth ariannol.  

Cyngor Cyffredinol

Hafan Busnes Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Loteri Sir Benfro

Loteri Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd)

Camau Bach i Fenter - Cymorth ariannol i bobl o dan 25 oed

Camau Bach at Fenter (yn agor mewn tab newydd)

Mae cyllid busnes hyblyg o £1,000 hyd at £5,000,000 ar gael gan Fanc Datblygu Cymru, AC mae busnesau sydd wedi’u lleoli o fewn Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn gymwys i dderbyn cyfradd llog ostyngol.

Banc Datblygu Cymru

ID: 473, adolygwyd 22/11/2023

Recriwtio a chyflogi

Yr hyn sydd fwyaf pwysig ym mhob busnes yw'r bobl.  Bydd dod o hyd i'r bobl iawn i weithio yn eich busnes, eu hyfforddi a'u cadw i ddatblygu cymaint ag y bo modd yn hybu llwyddiant eich sefydliad.    

Mae Cyngor Sir Penfro yn gallu eich helpu chi i ysgrifennu manyleb swydd, hysbysebu'r swyddogaeth ac yna llunio rhestr fer o'r ymgeiswyr. Unwaith y bydd ymgeisydd llwyddiannus gyda chi rydym yn gallu helpu i gasglu tystlythyrau a gwneud yr archwiliadau cefndirol i sicrhau eu bod yn cyflawni eich safonau. Gallwn roi cymorth i'ch gweithiwr newydd gyda hyfforddiant cyn cyflogi a'ch helpu i gychwyn yn gywir gyda chontractau cyflogaeth ac ymsefydlu ar gyfer gweithwyr newydd.   

Mae nifer o fentrau arbennig ar gael i gefnogi pobl sydd wedi colli eu gwaith a'r rhai o dan 25 oed.   

Cyngor cyffredinol ynglŷn â recriwtio

Cyngor Recriwtio (yn agor mewn tab newydd)

Gwaith yn yr Arfaeth yng Nghyngor Sir Penfro

futureworks@pembrokeshire.gov.uk

01437 776437

Ceiswyr Gwaith (yn agor mewn tab newydd)

Diweithdra - ReAct - cymorth ar gyfer cyflogi rhywun sydd wedi ei wneud yn ddi-waith (yn agor mewn tab newydd)

Twf Swyddi Cymru - cymorth ar gyfer cyflogi rhywun 16-24 oed (yn agor mewn tab newydd)

Cyflogadwyedd Sir Benfro - Cyngor Sir Benfro

ID: 474, adolygwyd 22/11/2023

Hyfforddi a datblygu ar gyfer eich busnes

Mae llwyddiant eich busnes yn dibynnu ar ddatblygu eich tîm. Pa un a yw'n sgiliau gwasanaeth cwsmer neu weldio, byddwch yn cadw llygad bob amser ar ddyfodol eich busnes a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch er mwyn cyflawni.   

Trwy fuddsoddi mewn hyfforddi a datblygu daw eich gweithlu yn fwy hyblyg. Byddant yn dod yn fwy cynhyrchiol a thrwy gynnig i bobl y cyfle i ennill sgiliau newydd, byddwch yn cadw eich gweithwyr yn well hefyd.  

Mae Cyngor Sir Penfro wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad sgiliau ac mae'n gweithio gyda phartneriaid eraill i gyflenwi nifer o brosiectau i roi cymorth i sectorau a sgiliau penodol. 

Cysylltwch â'r tîm cymorth busnes ar 01437 776167 am ragor o wybodaeth.

Hafan Busnes Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Sir Benfro yn Dysgu

Gweithffrydd (yn agor mewn tab newydd) workwaysplus@pembrokeshire.gov.uk  01437 776609

Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol (SCWDP)

Hyfforddiant Hylendid Bwyd

Llawn Bywyd yn 50 Plws 

Cyflogadwyedd Sir Benfro

ID: 475, adolygwyd 22/11/2023

Trwyddedu

Mae'r Tîm Trwyddedu yn dosbarthu trwyddedau, cofrestriadau a hawlenni ar gyfer llawer o wahanol weithgareddau gyda'r nod o sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Unwaith y bydd trwydded wedi ei dosbarthu, rydym yn ymweld ag adeiladau trwyddedig i'w harchwilio ac yn archwilio cerbydau trwyddedig. Rydym yn gweithio law yn llaw â Dyfed-Powys (yn agor mewn tab newydd) ac mawwfire (yn agor mewn tab newydd) i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â thelerau ac amodau trwyddedau yn ogystal â deddfwriaeth berthnasol arall. Mae gennym hefyd systemau monitro i ddarganfod ac atal gweithgareddau didrwydded. 


Yn ogystal â’r gwaith gorfodi hwn, rydym yn cymryd rhan hefyd mewn mentrau addysg a gwybodaeth ar gyfer trwyddedigion a'u gweithwyr i hybu eu hymwybyddiaeth o faterion diogelwch cyhoeddus.

I gael gwybodaeth a ffurflenni cais ar gyfer trwyddedau a hawlenni penodol, dewiswch y dolen priodol os gwelwch yn dda.

I gael rhagor o wybodaeth/cyngor ar unrhyw beth uchod mae croeso i chi alw:

Trwyddedu 01437 764551

Dylid cyfeirio pob ffurflen gais / gohebiaeth i'r:

Adran Diogelwch Cyhoeddus
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP 

 

ID: 477, adolygwyd 22/11/2023

Cynllunio

Mae angen rheoli'r amgylchedd o'n cwmpas yn ofalus i sicrhau bod datblygiad yn gynaliadwy. Mae gan y Cyngor gyfrifoldebau dros baratoi'r cynllun datblygu, rheoli datblygiad, rheoli adeiladu, gorfodi, hawliau tramwy cyhoeddus, tir comin a bioamrywiaeth.

Yn yr adran hon fe welwch ragor o fanylion y gwasanaethau cynllunio hyn, ynghyd â chwestiynau cyffredin, cyfarwyddyd cynllunio i'w lawrlwytho, a rhestri sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd o geisiadau a dderbyniwyd a phenderfyniadau a wnaed.

Gallwch chwilio a dilyn hynt cais cynllunio (yn agor mewn tab newydd)

Sylwch mai'r Cyngor yw'r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer pob rhan o Sir Benfro oddi allan i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Dylid cyfeirio ymholiadau cynllunio perthnasol i dir yn y Parc Cenedlaethol at Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae Cyngor Sir Penfro yn gweithio mewn partneriaeth â’r Porth Cynllunio er mwyn darparu gwasanaethau a gwybodaeth am y system gynllunio.

Planning Portal (yn agor mewn tab newydd) a dolenni, uniongyrchol penodol i Sir Benfro, â gwasanaethau a enwyd.

ID: 478, adolygwyd 22/11/2023

Twristiaeth

Gall ein Hadran Twristiaeth darparu gwybodaeth ar ystod eang o bynciau yn cynnwys cyngor ar gyfer Busnesau Twristiaeth; Pwy ’dy Pwy yn nhwristiaeth; Strategaeth Twristiaeth yn Sir Benfro; papurau ymchwil; ystadegau; arolygon deiliadaeth ac arolygon busnes twristiaeth.

ID: 480, adolygwyd 07/10/2022