Cyngor a chefnogaeth i ofalwyr, teulu a ffrindiau
Ydych chi'n ofalwr ifanc?
Os ydych yn gwneud un neu ragor o’r canlynol gallech fod yn ofalwr ifanc:
- Helpu aelod o’r teulu sy’n wael, sydd ag anabledd, salwch meddwl neu broblemau gyda chyffuriau neu alcohol
- Helpu i ofalu am eich brodyr neu’ch chwiorydd
- Yn methu â gwneud y pethau y mae eich ffrindiau’n eu gwneud bob amser oherwydd eich bod yn helpu rhywun
- Yn gorfod gwneud tasgau ychwanegol er mwyn helpu o gwmpas y tŷ gan nad oes neb arall yn gallu eu gwneud
- Canfod bod helpu gartref weithiau’n bwysicach na gwaith cartref neu ysgol
- Wedi blino’n lân drwy’r adeg oherwydd yr holl waith helpu rydych yn gorfod ei wneud
- Yn poeni am y sawl rydych yn ei helpu pan nad ydych chi yno
ID: 2204, adolygwyd 25/04/2024