Cyngor a chymorth o ran gwneud cais am fudd-daliadau
A allech chi hawlio treth yn ôl ar eich cynilion?
Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i fanciau a chymdeithasau adeiladu ddidynnu treth incwm ar gyfradd o 20% o’r llog cyn iddynt ei dalu i chi. Maent yn talu’r swm hwn i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Os nad ydych i fod i dalu unrhyw dreth gallwch gofrestru eich cyfrif banc a chymdeithas adeiladu i dderbyn llog heb dynnu treth. Gallwch wneud hyn drwy lenwi ffurflen R85 a’i rhoi i’ch banc neu gymdeithas adeiladu.
Os ydych i fod i dalu swm bach o dreth (byddwch yn y categori treth o 10%) efallai y gallwch hawlio rhywfaint o’r dreth a dynnwyd yn ôl. Cysylltwch â’ch swyddfa dreth leol.
Os oes arnoch angen rhagor o Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
ID: 2176, adolygwyd 11/08/2022