Cyngor a chymorth o ran gwneud cais am fudd-daliadau

Newidiadau i fudd-daliadau

Bydd rhai budd-daliadau’n cael eu heffithio os byddwch yn mynd dramor, yn symud i gartref preswyl neu gartref nyrsio neu’n mynd i’r ysbyty. Er enghraiff, bydd Lwfans Gweini a Lwfans Anabledd yn cael eu heffeithio ar ôl 4 wythnos yn yr ysbyty naill ai mewn un arhosiad neu pan roddir hwy gyda’i gilydd. Mae’n bosibl y bydd budd-daliadau eraill yn cael eu heffeithio hefyd. 

Os bydd eich amgylchiadau’n newid, neu os oes arnoch eisiau rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r effaith ar fudd-daliadau, cysylltwch â’ch Canolfan Byd Gwaith leol neu’r Swyddfa Budd-daliadau leol.

ID: 2175, adolygwyd 14/07/2022