Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth sy’n trin ymholiadau dechreuol ynghylch hawliau defnyddwyr, gan gynnwys nwyddau a gwasanaethau diffygiol ar ran holl awdurdodau lleol yng Nghymru, gan gynnwys Sir Benfro.
Mae’n wasanaeth dan nawdd y llywodraeth ac yn cynnig gwybodaeth a chyngor di-dâl.
I siarad â chynghorydd, ffoniwch:
03454 04 05 05 i siarad Cymraeg
03454 04 05 06 i siarad Saesneg
Fel arall, gallwch gofrestru eich cwyn neu ymholiad ar-lein
Mewn rhai achosion, fe all Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth drosglwyddo manylion eich cwyn i dîm Safonau Masnachu Sir Benfro i’w harchwilio fel y bo’n briodol.
Yn ogystal, efallai y cewch y canllawiau hunangymorth canlynol yn ddefnyddiol wrth ddatrys eich cwyn -
Os ydych wedi dilyn y cyngor a roddwyd uchod ac yn dal i fethu datrys eich anghydfod, gallwch droi’n derfynol at y Llys Sirol. Gallwch hefyd ddechrau “Hawliad Bychan” eich hun ar-lein.
Bydd gofyn i chi dalu ffi i ddechrau hawliad, sydd yn adenilladwy fel arfer os yw eich hawliad yn llwyddiannus.