Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28
Amcanion Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28
Mae ein Grŵp Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r awdurdod sy'n cyfarfod yn rheolaidd i adolygu a monitro cynnydd yn erbyn ein hamcanion.
Rydym wedi adolygu ein Hamcanion Cydraddoldeb, gyda chefnogaeth ymarfer ymgysylltu rhanbarthol yn ystod Haf 2023, a chyd-destun polisi ac ymchwil lleol a chenedlaethol. Mae newidiadau i'r fframwaith polisi cenedlaethol sydd wedi'u mabwysiadu ers 2020 yn cynnwys Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru sy'n pwysleisio'r angen am arweinyddiaeth a newid diwylliannol.
Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn ategu'r Strategaeth Cyfranogiad y cytunwyd arni ym mis Ionawr 2023. Mae'r strategaeth cyfranogiad yn cynnwys nifer o amcanion sydd â'r nod o ehangu cyfranogiad wrth wneud penderfyniadau. Am y rheswm hwn, nid ydym wedi cynnwys amcan penodol ar allu unigolion a chymunedau i ddylanwadu ar benderfyniadau o fewn y cynllun hwn.
1. Bydd aelodau a gweithwyr yn mynd ati i hyrwyddo a hwyluso diwylliant o gynhwysiant
Pam yr amcan hwn?
Mae angen i gydraddoldeb redeg trwy ein holl wasanaethau. Os yw gweithredu ar gydraddoldeb i fod yn effeithiol, mae angen arwain a gwreiddio'r broses newid hon fel rhan o newid diwylliannol.
Perthynas â’r amcan blaenorol?
Mae hyn yn disodli "Llywodraethu a'r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol - byddwn yn gwella trefniadau llywodraethu ar gyfer gweithredu a monitro ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol. Byddwn yn dechrau ar y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol o fis Mawrth 2021".
Rheswm dros newid amcan:
Cytunwyd nad oedd angen i hyn fod yn amcan ar wahân wrth symud ymlaen gan fod Dyletswydd Economaidd-Gymdeithasol 2021 wedi'i hymgorffori wrth lunio polisïau. Mae'r geiriad newydd yn adlewyrchu'r pwysigrwydd a roddir yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
2. Cael ein hystyried fel cyflogwr o ddewis sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch yn y gweithle
Pam yr amcan hwn?
Rydym yn gyflogwr lleol sylweddol a bydd cael ein harferion cyflogaeth yn iawn yn cael budd cymunedol ehangach. Rydym yn profi problemau recriwtio ar draws nifer o swyddi. Bydd bod yn gyflogwr uchel ei barch a chynhwysol yn ehangu'r gronfa o dalent y gallwn dynnu ohoni.
Perthynas â’r amcan blaenorol?
Mae hyn yn disodli "Cyflogaeth - byddwn yn cymryd camau i ddod yn gyflogwr mwy cynhwysol a byddwn yn ceisio lleihau ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau”.
Rheswm dros newid amcan:
Roedd yr amcan blaenorol yn rhy gul ac rydym wedi gwneud cynnydd da o ran lleihau ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Codwyd materion cyflogaeth fel rhan o'r ymgynghoriad rhanbarthol sy'n awgrymu bod angen amcan ehangach.
3. Dileu rhwystrau i fynediad at wasanaethau i gefnogi cyfle cyfartal a gwella canlyniadau i bawb
Pam yr amcan hwn?
Codwyd hyn yn yr ymgynghoriad rhanbarthol. Enghraifft benodol o hyn mewn gwasanaeth yw mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad. Mae'r amcan Addysg blaenorol wedi'i ymgorffori yn yr amcan hwn.
Perthynas â’r amcan blaenorol?
Mae hyn yn disodli "Mynediad i fywyd a gwasanaethau cymunedol - byddwn yn cefnogi darpariaeth gwasanaethau hygyrch gan y Cyngor ac yn annog datblygu cyfleoedd hygyrch o fewn ein cymunedau lleol."
Rheswm dros newid amcan:
Mae'n cyd-fynd â sicrhau bod ein gwasanaethau'n hygyrch i bawb.
4. Cynyddu argaeledd ac amrywiaeth tai a llety fforddiadwy i fynd i'r afael ag anghenion lleol a nodwyd yn Strategaeth Tai 2024-29
Pam yr amcan hwn?
Mae’r amcan yn adlewyrchu ystyriaethau tai ehangach yn Strategaeth Tai Sir Benfro 2024-29.
Perthynas â’r amcan blaenorol?
Mae hyn yn disodli "Tai - byddwn yn gweithio i gynyddu argaeledd ac amrywiaeth tai fforddiadwy".
Rheswm dros newid amcan:
Mae’r amcan yn adlewyrchu ystyriaethau tai ehangach o dan y Strategaeth/Deddf Tai i ddarparu mwy o dai, gwell dewis a chefnogaeth. Mae amrywiaeth hefyd yn cwmpasu addasiadau, cartrefi bywyd a gofynion y gymuned sipsiwn a theithwyr.
5. Ymgorffori Cydlyniant Cymunedol; ei brif ffrydio o fewn cyrff cyhoeddus a'r gymuned ehangach, a chefnogi pob ymdrech i ddathlu amrywiaeth a chynhwysiant wrth adeiladu cymunedau cadarn yn Sir Benfro.
Pam yr amcan hwn?
Ehangu dealltwriaeth, cyrhaeddiad a chydweithio i ddarparu gwasanaethau mwy cysylltiedig, cyfannol a chynhwysol o fewn cymunedau.
Perthynas â’r amcan blaenorol?
Mae hyn yn disodli "Cydlyniant cymunedol - byddwn yn cefnogi gweithgarwch sy’n annog pobl mewn cymunedau lleol i gyd-dynnu’n dda a byddwn yn anelu at leihau nifer yr achosion o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol."
Rheswm dros newid amcan:
Er mwyn adlewyrchu bod hyn yn ddull cydgysylltiedig ar draws sefydliadau ac mae angen ei ymgorffori ar draws sefydliadau a chymunedau.