Cyd-astudiaethau ar Argaeledd Tir ar gyfer Tai
Newid yn y broses
Gweler ein Hadroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer ein Llwybr Tai Diweddaraf
Yn ôl Polisi Cynllunio Cymru mae awdurdodau cynllunio lleol yn gorfod sicrhau bod tir digonol eisoes ar gael, neu y bydd ef ar gael, er mwyn darparu, am bum mlynedd, tir ar gyfer tai. Er mwyn dangos hyn, bob blwyddyn bydd awdurdodau cynllunio lleol yn paratoi Cyd-astudiaeth ar Argaeledd Tir ar gyfer Tai.
Bydd astudiaeth Cyngor Sir Penfro yn cael ei chynnal gyda'r sefydliadau canlynol:
- Ffederasiwn yr Adeiladwyr Cartrefi;
- Dŵr Cymru;
- Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro;
- Cymdeithas Tai Sir Benfro;
- Tai Cantref;
- Linc Cymru;
Pwrpas yr Astudiaethau yw:
- darparu datganiad cytunedig ynghylch argaeledd tir ar gyfer tai, at ddibenion cynllunio maes datblygu a rheoli maes datblygu; ac
- mewn sefyllfaoedd lle dywedir nad oes cyflenwad digonol ar gael, rhoi braslun o'r camau y mae awdurdod cynllunio lleol yn eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â llanw'r bwlch hwn.
Mae'r Astudiaethau hyn yn rhan o'r gronfa dystiolaeth ar gyfer cynllunio datblygu lleol a monitro/adolygu, gan gynnwys gwybodaeth am y canlynol:
- y tai a gwblhawyd;
- y tir sydd ar gael ar dir a ddatblygwyd eisoes; a
- thir sydd ar gael ar safleoedd y mae perygl iddynt ddioddef llifogydd.
Mae cyfarwyddyd ynghylch paratoi'r Astudiaethau, i'w gael yn Nodyn Cyngor Technegol 1, . Bydd yr Astudiaethau yn cael eu paratoi er mwyn iddynt gael yr un dyddiad sylfaenol bob blwyddyn, sef Ebrill 1af, ac hefyd er mwyn iddynt gynnig darlun cynhwysfawr ar gyfer Cymru drwyddi draw mewn perthynas â'r tir sydd ar gael ar gyfer tai.
Astudiaeth 2019
Astudiaeth 2018
Astudiaeth 2017
Astudiaeth 2016
Astudiaeth 2015
JHLAS 2015 - Arolygwr Adroddiad
Astudiaeth 2014
Astudiaeth 2013
Anecs 1 - JHLAS 2013 Arolygwr Adroddiad
Anecs 2 - JHLAS 2013 - Safle Trefulennu