Mae’n dda gennyf gyflwyno Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir Benfro. Hwn yw ein hail Gynllun Llesiant ac mae’n adlewyrchu’r gofynion a’r disgwyliadau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru sefydlu BGC ac mae’n gosod ‘dyletswydd llesiant’ ar bob Bwrdd. Mae hyn yn golygu, trwy gydweithio – a gweithio’n wahanol – ei bod yn ofynnol i bartneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol gynhyrchu cynllun sy’n nodi sut y byddwn yn gwella llesiant pobl a chymunedau yn sir Benfro, yn awr ac yn y dyfodol.
Fel y gwelwch yn y cynllun, mae’r BGC wedi nodi nifer o flaenoriaethau, ac ystod o gamau gweithredu tymor byr, canolig a hir y bydd yn eu cymryd i wella llesiant yn Sir Benfro. Mae’n bwysig deall bod ffocws y BGC ar feysydd lle bydd gweithio mewn partneriaeth yn cael yr effaith fwyaf a lle mae ein dylanwad cyfunol yn ychwanegu gwerth y tu hwnt i’r hyn yr ydym eisoes yn ei wneud fel sefydliadau unigol ac felly efallai na fyddwch yn gweld rhai materion yn cael eu hadlewyrchu yn y Cynllun oherwydd hyn.
Bu gan ystod o randdeiliaid a thrigolion rôl bwysig yn y gwaith o ddatblygu’r Cynllun yma ac ar ran y BGC, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i gyfrannu i’r broses. Fe hoffem adeiladu ar y gwaith yr ydym wedi’i wneud hyd yma i gynnwys mwy o bobl yn ein gwaith ac rydym yn awyddus i sicrhau mai dim ond megis dechrau ar sgwrs barhaus rhwng y BGC a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu yw hyn.
Mae’r amcanion a’r camau gweithredu a nodir yn y Cynllun hwn yn adlewyrchu’r dystiolaeth a gasglwyd gennym mewn perthynas â’n Hasesiad Llesiant. Er ein bod yn cydnabod y gallwn wastad wneud mwy i wella llesiant pobl a chymunedau yn Sir Benfro, yn y Cynllun hwn rydym wedi dewis canolbwyntio ar y meysydd yr ydym yn meddwl y gall ein gwaith gael yr effaith fwyaf ynddynt. Rydym felly’n croesawu eich sylwadau ar ein Cynllun a’r meysydd ffocws ar gyfer y blynyddoedd nesaf.
Y Cyngh. Neil Prior – Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro