Cynllun Llesiant Sir Benfro

Adeiladu economi gynaliadwy, deg a gwyrdd

Mae ystod eang o drefniadau partneriaeth a byrddau presennol sy’n ymwneud ag adeiladu economi gynaliadwy, deg a gwyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau, Panel Busnes Sir Benfro, Fforwm Uchelgais Economaidd Sir Benfro a Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae’r BGC yn cydnabod y rôl y gall ei chyflawni o ran cefnogi ymdrechion lobïo sy’n gysylltiedig â’r economi yn Sir Benfro a rôl benodol partneriaid y sector cyhoeddus yn yr agenda sero net. Ceir materion trawsbynciol yn y cynlluniau ar gyfer prosiectau a ddatblygwyd yn barod hefyd a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gyflawni’r Amcan Llesiant hwn.

Er y cydnabyddir y cyd-destun ehangach a nodir uchod, bydd y BGC yn manteisio ar gyfleoedd i gyfrannu at yr amcan hwn dros y pum mlynedd nesaf, er enghraifft trwy dyfu’r economi gylchol, cefnogi gweithgareddau cynhyrchu bwyd lleol, canolbwyntio ar gaffael lleol neu alluogi gwaith teg, mewn meysydd lle gall ychwanegu gwerth at yr agenda hon heb ddyblygu gwaith presennol. 

ID: 9771, adolygwyd 05/05/2023