Cynllun Llesiant Sir Benfro

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus penodedig i weithredu ar y cyd a sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) statudol. Sefydlwyd BGC Sir Benfro ym mis Ebrill 2016 ac mae wedi cael gorchwyl i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Benfro trwy gyfrannu at gyrraedd y Nodau Llesiant trwy gyflawni Cynllun Llesiant. Mae’r BGC yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o’r sefydliadau canlynol:

  • Cyngor Sir Penfro
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
  • Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro
  • Coleg Sir Benfro
  • Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Porthladd Aberdaugleddau
  • Heddlu Dyfed Powys
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • PLANED
  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys
  • Llywodraeth Cymru

Mae’r Cynllun Llesiant yn cynrychioli’r gwerth ychwanegol y gellir ei gyflawni trwy weithio’n arloesol ac yn gydweithredol. Nid yw’n disodli gwasanaethau craidd y sefydliadau unigol ac nid dim ond adlewyrchu’r gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud gan bartneriaid unigol yw ei ddiben ychwaith. Dylai cyrff unigol gysoni eu hamcanion strategol â rhai’r BGC lle y bo’n briodol.

Mae hefyd yn bwysig nodi nad yw’r Cynllun Llesiant yn cynrychioli holl waith y BGC ar draul popeth arall. Bydd y BGC yn manteisio ar gyfleoedd i gofleidio darnau pwysig eraill o waith lle gall ychwanegu ei ddylanwad a gwerth wrth i’r rhain ddod i’r amlwg.

ID: 9683, adolygwyd 05/05/2023