Mae ar y BGC angen i’r sefydliadau cywir a’r bobl gywir gael eu cynnwys er mwyn cyflawni’r camau gweithredu y byddwn yn eu nodi yn y Cynllun Llesiant. Bydd trefniadau cyflawni’n cael eu dylunio fel eu bod yn darparu llinell atebolrwydd uniongyrchol i’r BGC trwy ei gwneud yn ofynnol i aelodau unigol o’r BGC arwain a noddi ffrydiau gwaith neu brosiectau penodol. Byddwn yn cytuno ar fanylion llawn ein mecanweithiau cyflawni dros y misoedd nesaf a byddant yn cael eu cynnwys yn y fersiwn derfynol o’r Cynllun Llesiant. Bydd partneriaid yn cydweithio i gyflawni cynlluniau prosiect sy’n nodi’r camau gweithredu penodol y byddwn yn eu cymryd i wneud gwahaniaeth. Byddwn hefyd yn cadw hyblygrwydd o fewn ein trefniadau cyflawni i alluogi syniadau i ddatblygu dros amser ac i’n galluogi i adweithio ac ymateb i heriau newydd a materion sy’n dod i’r amlwg.
Fel rhan o’r broses ar gyfer dylunio’r modd y cyflawnir ffrydiau gwaith, byddwn yn nodi’r mesurau a ddefnyddir i fesur llwyddiant a bydd y BGC yn datblygu fframwaith rheoli perfformiad a fydd yn ei alluogi i werthuso cynnydd.
Mae’n ofynnol i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus lunio Adroddiadau Blynyddol sy’n nodi’r camau a gymerwyd gan y BGC i gyflawni’r amcanion yn y Cynllun Llesiant. Bydd copïau o’r adroddiad hwn yn cael eu hanfon at Weinidogion Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Archwilydd Cyffredinol Cymru a phwyllgor trosolwg a chraffu Cyngor Sir Penfro (gweler isod).
Panel Partneriaethau’r Cyngor sy’n gyfrifol am ddarparu atebolrwydd democrataidd a goruchwyliaeth ar gyfer gwaith y BGC. Gall adolygu neu graffu ar y penderfyniadau a wnaed neu gamau gweithredu a gymerwyd gan y BGC, ei drefniadau llywodraethu, a gofyn i unrhyw aelod unigol o’r BGC ddod ger ei fron er mwyn iddo allu craffu ar y cyfraniad y mae sefydliad partner yn ei wneud i waith y BGC.